Skip to main content

Dathliadau Pen-blwydd 90ain

Mae Lido Ponty, Lido Cenedlaethol Cymru, yn dathlu ei ben-blwydd yn 90ain y penwythnos yma - dewch i'r parti pwll awyr agored mwyaf yn ne Cymru i ddathlu gyda ni! 

Cafodd Lido Ponty ei agor am y tro cyntaf yn 1927. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r Lido wedi cael ei ailddatblygu ac mae'r atyniad mor boblogaidd ag erioed heddiw. 

Er mwyn dathlu ei ben-blwydd 90ain, byddwn ni'n cynnal Sesiynau Nofio Hwyl rhwng 10.30am a 6pm, ddydd Sadwrn, 12 Awst. Bydd Parti Pwll a Barbeciw yn cael eu cynnal gyda'r nos, rhwng 7.30pm a 9pm. 

Pris tocyn yw £5 y pen. Dim ond hyn a hyn o docynnau sydd ar gael, felly cadwch le ar-lein i osgoi cael eich siomi.

Mae sesiynau nofio AM DDIM i blant dan 5 oed neu £2.50 y pen. Bydd pob sesiwn yn para tua 90 munud. 

Cafodd Parc Coffa Ynysangharad ei agor yn swyddogol ar ddydd Llun, 6 Awst, 1923. Cafodd Lido Ponty, sy'n adeilad rhestredig - gradd II ei agor bedair blynedd yn diweddarach, ddydd Sadwrn, 30 Gorffennaf 1927. Roedd y Lido yn drysor yng nghoron Pontypridd.

Ar ôl iddo gael ei gau yn 1991, cwblhawyd gwaith adfer sylweddol ar y safle ac ar Lido Ponty. Yn 2015, cafodd Lido Cenedlaethol Cymru ei ailagor gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a'i Huchelder Brenhinol Duges Cernyw. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Bydd dathliadau pen-blwydd 90ain Lido Ponty yn achlysur arbennig iawn. Rydw i'n siwr y bydd tocynnau'n gwerthu'n gyflym iawn.

"Mae Lido Cenedlaethol Cymru mor boblogaidd ag erioed. Rydyn ni wedi croesawu dros 40,000 o ymwelwyr i'r Lido ers iddo agor yn ystod y Pasg eleni.

"Mae stori Lido Ponty yn un o lwyddiant mawr, sy'n dathlu ein hanes a'n dyfodol."

Roedd gwaith adfer Lido Ponty, sy'n Adeilad Rhestredig Gradd II, yn bosib o ganlyniad i gyllid gwerth £3 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, £2.3 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri, cyfraniad o £900,000 gan Gyngor Rhondda Cynon Taf a chyfraniad o £100,000 gan Cadw.

Cadwch le ar-lein ar gyfer dathliadau pen-blwydd 90ain Lido Ponty ar ddydd Sadwrn, 12 Awst. www.lidoponty.co.uk

Wedi ei bostio ar 07/08/2017