Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn cymryd cam mawr tuag at ddyfodol mwy glân a mwy gwyrdd wrth iddo lansio’i Gynllun Ynni Ardal Leol (LAEP). Mae'r cynllun yma, sydd wedi'i gefnogi gan Lywodraeth Cymru, yn dangos sut y bydd y Fwrdeistref Sirol yn sicrhau ei bod yn cyflawni’i thargedau Sero Net erbyn 2050.
Roedd yr arbenigwyr ynni Arup, Carbon Trust ac Afallen wedi rhannu syniadau a chyfrannu at waith datblygu’r cynllun. Prifddinas-Ranbarth Caerdydd oedd yn gyfrifol am gydlynu'r cynllun ar lefel ranbarthol. Mae'r cynllun yn trafod sut mae modd i ni leihau allyriadau carbon, defnyddio ynni mewn modd synhwyrol, a chynyddu cyfanswm yr ynni adnewyddadwy sy’n cael ei gynhyrchu yn lleol gan sicrhau bod ein cartrefi a’n systemau trafnidiaeth yn effeithlon ac yn barod ar gyfer y dyfodol.
Beth sydd wedi’i gynnwys yn y cynllun?
Mae'r Cynllun Ynni Ardal Leol yn canolbwyntio ar bump maes allweddol fydd yn ein helpu ni gyflawni ein targedau sero net:
- Sicrhau bod cartrefi ac adeiladau yn fwy effeithlon o ran ynni, gan gynnwys gwella systemau gwresogi i rai sy'n fwy gwyrdd a gwella mesurau effeithlonrwydd ynni.
- Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn Rhondda Cynon Taf, yn ogystal â lleihau’r angen i ddibynnu ar danwyddau ffosil.
- Cefnogi opsiynau teithio mwy gwyrdd megis beiciau trydan, beicio, cerdded, a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus gwell.
- Annog arloesedd, sicrhau ein bod ni'n croesawu syniadau a thechnoleg newydd.
- Gwella ein rhwydweithiau ynni i sicrhau eu bod nhw'n barod i gefnogi'r newidiadau yma.
Mae’r cynllun yma’n rhan o ddarlun ehangach. Mae pob Cyngor yng Nghymru yn datblygu’i gynllun ynni ar gyfer y dyfodol, bydd y rhain yn chwarae rhan hollbwysig wrth wireddu nod Cymru o weithredu system ynni sero net sy'n deg ac yn fforddiadwy erbyn 2050.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:
"Mae'r cynllun yma'n dangos yn glir sut mae modd i ni helpu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn ein cymunedau. Rydyn ni’n falch o allu cefnogi'r cynllun, ond rhaid i bawb yn Rhondda Cynon Taf gefnogi'r cynllun er mwyn sicrhau bod modd i ni gyflawni’r amcanion yma."
Sut alla i gymryd rhan?
Mae modd i bawb gymryd rhan a chyfrannu. Beth am wneud ymdrech i ddefnyddio llai o ynni? Beth am ystyried opsiynau ynni adnewyddadwy ar gyfer eich cartref? Byddai dewis dulliau teithio llesol yn gwneud gwahaniaeth hefyd!
Hoffech chi ragor o wybodaeth? Ewch i'n gwefan Hinsawdd Ystyriol neu e-bostiwch Ynni@rctcbc.gov.uk.
Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i greu Rhondda Cynon Taf mwy glân a disglair.
Wedi ei bostio ar 02/07/2025