Bydd modd i gefnogwyr pêl-droed yn Rhondda Cynon Taf ymuno ag achlysur Cymru gyfan fydd yn dathlu tîm Pencampwriaeth UEFA Euro Menywod 2025 y wlad, pan fydd crys Cymru enfawr llawn gwynt yn cyrraedd Pontypridd.
Bydd y crys yn cyrraedd Parc Coffa Ynysangharad ddydd Iau, 3 Gorffennaf, rhwng 11am a 7pm er mwyn nodi taith Ein Crys Cymru sy'n teithio ledled Cymru.
Bydd yn gyfle i bobl ymweld â'r parc a mwynhau cyfle i dynnu llun gyda'r crys, sy'n arddangos enwau'r chwaraewyr sydd wedi'u dewis ar gyfer tîm Cymru, gan gynnwys Gemma Evans o'r Gelli ar Alice Griffiths o’r Aberdar, sydd wedi bod yn chwarae pêl-droed ers iddi fod yn 10 mlwydd oed.
Mae modd i bobl o bob oedran gael eu hysbrydoli gan gyflawniadau'r chwaraewyr ac ymuno â'r dathliadau cenedlaethol wrth i'r menywod baratoi ar gyfer eu hymgyrch ar lwyfan y byd ym Mhencampwriaeth Euro - a hyd yn oed cymryd rhan mewn chwaraeon eu hunain drwy Chwaraeon RhCT a Gwasanaethau Hamdden am Oes y Cyngor.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Mae'n fraint i Rondda Cynon Taf fod yn rhan o'r daith genedlaethol er mwyn dathlu ac annog tîm ysbrydoledig Menywod Cymru - ac mae'n gyfle gwych i ysbrydoli pobl i gymryd rhan a dilyn eu diddordebau o ran chwaraeon.
"Rydyn ni'n ffodus iawn o gael Chwaraeon RhCT a'n Gwasanaethau Hamdden am Oes i helpu pobl i ddilyn eu diddordebau, datblygu eu sgiliau, cyfeirio pobl at gyfleoedd chwaraeon a byw bywydau mwy iach.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr iawn at weld y crys enfawr - a'r cyflawniadau mae'n eu cynrychioli - yn ein parc i bawb fwynhau"
Ar ddiwrnod cyhoeddi carfan hanesyddol Cymru ar gyfer UEFA EWRO Menywod 2025 (Dydd Iau 19 Mehefin), bydd CBDC yn datgelu crys anferth Cymru wedi’i chwythu fyny wrth droed Yr Wyddfa, gan nodi lansiad Taith ‘Ein Crys Cymru’ ledled y genedl.
Bydd enwau’r chwaraewyr a ddewiswyd ar gyfer UEFA EWRO Menywod 2025 yn cael eu harddangos yn falch ar gefn y crys enfawr, mewn anrhydedd i’r unigolion fydd yn cynrychioli’r genedl ar lwyfan Ewropeaidd. O Eryri, bydd y crys yn teithio i drefi a dinasoedd Cymru i adeiladu cyffro ledled y wlad wrth i ni baratoi ar gyfer y twrnamaint yn y Swistir yr haf hwn.
Mae taith ‘Ein Crys Cymru’ yn dathlu pwrpas uwch Tîm Cenedlaethol Cymru:
‘I chwarae dros newid. I chwarae i ysbrydoli. Amdanom Ni. Amdanyn Nhw. Amdani Hi.’
sy’n anrhydeddu’r arloeswyr a frwydrodd dros greu’r tîm cenedlaethol menywod, yr arwyr sydd yn gwisgo’r crys heddiw, a’r cenedlaethau’r dyfodol sydd i ddod.
I lawer, mae crys Cymru yn symbol o hunaniaeth, gwydnwch ac ymdeimlad o berthyn. Pan ffurfiwyd y tîm menywod cenedlaethol gyntaf, roedd y chwaraewyr yn gwisgo citiau dynion. Nid tan 2019 y gwelodd chwaraewyr menywod Cymru eu henwau eu hunain wedi’u hargraffu’n falch ar gefn eu crysau, moment allweddol o ran cydnabyddiaeth a chynrychiolaeth.
Dywedodd cyn-gapten Cymru ac Is-lywydd UEFA, Athro Laura McAllister CBE, Cyn redwr dirgel Nos Galan, “Chwaraeais i Gymru ar adeg pan oedd cael ein cit ein hunain yn teimlo fel moethusrwydd. Mae’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud ers hynny’n anhygoel, ac mae’n amlwg faint mwy y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd. Mae crys Cymru yn fwy na dim ond ffabrig, mae’n cynnig bathodyn o anrhydedd, ac mae’r daith genedlaethol hon yn cynnig cyfle i ni gyd fyfyrio, dathlu, ac i ddangos i bob merch yng Nghymru fod ganddyn nhw le ym mhêl-droed.”
Dywedodd Capten Cymru, Angharad James: “Pan rydw i’n gwisgo’r crys hwn, mae’n cynrychioli pob menyw sydd wedi paratoi’r ffordd i ni, a’r rhai a frwydrodd i ni fod yn y fan hon. Mae’r tîm Cymru hwn wedi ennill ei le ar y llwyfan mwyaf, ac fe wnawn ni wisgo’r crys hwn gyda balchder. Mae’r crys hwn yn perthyn i bob un ohonom, ac rydyn ni eisiau i bawb yng Nghymru deimlo’n rhan o’n taith i’r Swistir.”
Ychwanegodd Bethan Woolley, Arweinydd Strategol Pêl-droed Menywod a Merched CBDC: “Mae crys Cymru yn symbol pwerus o ba mor bell mae’r gêm fenywaidd wedi dod, ac i ble mae’n mynd. Nod y daith ‘Ein Crys Cymru’ yw dathlu’r menywod sy’n gwisgo’r crys ac ymgorffori eu straeon yng ngwead ein cenedl.
“Mae’r daith hon yn rhan o genhadaeth ehangach CBDC i sicrhau bod y chwaraewyr hanesyddol hyn nid yn unig yn cael eu gweld, ond eu dathlu ac yn cael eu hadnabod yn wirioneddol. Trwy weithredai gwahanol cyn ac yn ystod y twrnamaint, bydd CBDC yn manteisio ar y cyfle hanesyddol hwn nid yn unig i ysgogi cefnogaeth, ond i droi edmygedd yn gydnabyddiaeth, ac i droi cydnabyddiaeth yn etifeddiaeth.”
Wedi ei bostio ar 27/06/2025