Skip to main content

Cyhoeddi contractwyr ar gyfer Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm Aberpennar

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wrth ei fodd i gyhoeddi'r prif gontractwyr ar gyfer ei gynllun Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm Aberpennar. Mae hyn yn garreg filltir bwysig i'r prosiect gwerth miliynau o bunnoedd fydd yn barod erbyn 2020.

Ymwelodd Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Andrew Morgan ag Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon gyda chynrychiolwyr o Walters Group a Sisk Group. Dyma'r contractwyr llwyddiannus sydd wedi cael eu dewis gan yr Awdurdod Lleol i ymgymryd â gwaith y cynllun sylweddol ar y cyd.

Prif nod y cynllun yw adeiladu pont 60m o uchder o Ystâd Ddiwydiannol Cwm Cynon i Heol Meisgyn, sy'n mynd dros reilffordd Aberdâr-Caerdydd ac Afon Cynon. Bydd y cynllun yma'n darparu ffordd gyswllt allweddol ar gyfer cerbydau sy'n teithio ar hyd yr A4059 a'r B4275. Drwy hyn, bydd traffig yn cael ei leddfu yn Aberpennar ac ar hyd coridor ehangach yr A4059/B4275.

Bydd Walters-Sisk yn dylunio ac adeiladu strwythur y bont - gan gynnwys cyffordd newydd ar y bont sy'n cysylltu â'r B4275 Miskin Road. Bydd y gyffordd yn cael ei rheoli gan oleuadau traffig. Bydd y contractwyr yn gyfrifol am wella Miskin Road, gan droi'r ffordd unffrwd unffordd yn ffordd ddwyffrwd ddwyffordd.

Bydd y contractwyr hefyd yn newid trefn ffordd bresennol Miskin Road ac o'i gwmpas. Bydd cyffordd Glyngwyn Street â Penrhiwceiber Road yn cau, ond bydd cyfleusterau troi a pharcio i'r cyhoedd yn cael eu darparu ar y ffordd sy ddim yn cael ei defnyddio o flaen Navigation Villas.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion y Priffyrdd: "Uchelgais y gymuned leol yw'r Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm Aberpennar. Mae cyhoeddi'r contractwyr ar gyfer prif ran y cynllun wedi dangos bod cynnydd yn cael ei wneud i droi'r uchelgais yn realiti.

"Rydyn ni wrth ein boddau bod Walters Group a Sisk Group yn cydweithio ar y cynllun yma, ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw ar y prosiect hollbwysig yma - fydd yn cael ei gwblhau erbyn 2020.

"Bydd y cynllun yn gwella llif y traffig ar goridor yr A4059/B4275, yn ogystal â'r traffig yn ardal Aberpennar yn ystod cyfnodau prysur. Rydw i'n edrych ymlaen at weld y cynnydd bydd Walters-Sisk yn ei wneud dros yr wythnosau a misoedd nesaf wrth iddyn nhw gyflawni'r prosiect hollbwysig yma."

Hyd heddiw, dyrannwyd £7.551miliwn tuag at y prosiect yn dilyn buddsoddiad sylweddol gan y Cyngor. Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £3.601 miliwn yn y cynllun, hefyd. £1.5m oedd y swm diweddaraf a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2017 yn rhan o gynllun grant y Gronfa Trafnidiaeth Leol.
Wedi ei bostio ar 09/08/17