Yma ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, rydyn ni wedi dathlu traddodiad Pythefnos y Glowyr. Dyma'r cyfnod pan fyddai miloedd o deuluoedd yn heidio i lan y môr.
Crewyd 'Traeth Trefol' yn iard yr hen lofa, a threuliodd teuluoedd y penwythnos yn ail-fyw’r dyddiau a fu yn hen wyliau hudolus haf o hyd ers talwm iawn.
Y traddodiad oedd i lofeydd y De gau i lawr yn ystod wythnos olaf mis Gorffennaf ac wythnos gyntaf mis Awst. Dyna pryd y byddai teuluoedd yn pacio'u bagiau ac yn ei baglu hi am lan y môr - Ynys y Barri a Phorthcawl fel arfer.
Cafodd traddodiad Pythefnos y Glowyr ei adfywio am un penwythnos yn unig ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, atyniad mwyaf poblogaidd y Cyngor i'r teulu, yng nghalon hen Faes Glo byd-enwog y De
Roedd yno lu o atyniadau i'r teulu. Yn ogystal â'r Traeth Trefol mawr, ceid ffair grefftau, teganau gwynt difyr, pitsio a phytio, adloniant i blant, acwariwm, reidiau i blant, ac arddangosfa Pythefnos y Glowyr.
Ac wrth i'r plant gael hwyl ar y traeth, achubodd yr oedolion y cyfle i ymlacio ar y cadeiriau cynfas!
"Er mor gymysg oedd y tywydd dros y penwythnos," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet dros yr Amgylchedd a Hamdden "cafodd pob un a ddaeth i'r traeth gyda ni amser i'w gofio." Roedd hi'n wych i weld cymaint o bobl o bob oed yn mwynhau hen draddodiad Pythefnos y Glowyr.
"Un achlysur yn unig oedd hyn o'r llu ohonynt a gynhelir ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda drwy gydol y flwyddyn. Teyrnged yn y Parc fydd yr achlysur mawr pwysig nesaf, ar benwythnos Gŵyl Banc Awst.”
Hoffech chi gael gwybod rhagor, ac archebu eich tocynnau i achlysuron sydd ar y gweill ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda? Ewch i www.rhonddaheritagepark.com.
Mae Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, hen Lofa Lewis Merthyr, yn denu ymwelwyr o bob rhan o bedwar ban byd. Ymhlith y nodweddion gwreiddiol mae'r Offer Pen Pwll, Tŷ Weindio Trefor, Yard y Glowyr, a Thŷ Weindio Bertie.
Mae atyniadau gydol y flwyddyn yn cynnwys Taith yr Aur Du, Caffi Bracchi, y Siop Anrhegion Gymreig Draddodiadol, a'r Man Arddangos
Archebwch eich Taith yr Aur Du drwy alw 01443 682036
Wedi ei bostio ar 02/08/2017