Skip to main content

Ailgylchu'ch coeden Nadolig – cofiwch archebu nawr!

Mae Gwasanaeth Casglu Coed Nadolig y Cyngor yn paratoi i gasglu hen goed Nadolig – ac mae dros 100 o bobl eisoes wedi trefnu i ni'u casglu.

O Deuwch Ailgylchwyr, Rhaid trefnu casglu'ch coed Nadolig go iawn ymlaen llaw. Roedd modd gwneud hyn o 12 Rhagfyr ymlaen. Byddwn ni'n eu casglu o 2 Ionawr tan 12 Rhagfyr. Ar ôl y cyfnod hwn, bydd gwasanaeth gwastraff gwyrdd y Cyngor yn casglu coed Nadolig go iawn yn y ffordd arferol.

Cewch drefnu i'ch coeden gael ei chasglu ar -lein www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuAdegNadolig neu drwy ffonio 01443 424001. Erbyn 21 Rhagfyr, roedd cyfanswm o 107 o aelwydydd wedi trefnu amser i gasglu'u coed Nadolig yn y Flwyddyn Newydd.

"Mae Gwasanaeth Casglu Coed Nadolig y Cyngor eisoes yn gwneud trefniadau," meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden. "Dyma'r ffordd berffaith i gael gwared ar goed go iawn yn y Flwyddyn Newydd – a sicrhau y cân nhw eu hailgylchu." Bydd y casgliadau yn dechrau ar 2 Ionawr. Rhaid gwneud y trefniadau ymlaen llaw. Codwch y ffôn, neu fynd ar-lein.

"Y Nadolig yw'r amser perffaith o'r flwyddyn i ailgylchu. Mae modd ailddefnyddio llawer o eitemau poblogaidd o gyfnod y Nadolig heblaw am goed Nadolig – meddyliwch am bapur lapio, er enghraifft, batris, a theganau.

"Mae ailgylchu yn fwy poblogaidd nag erioed y dyddiau hyn yn Rhondda Cynon Taf. Yn ôl ffigurau a ddaeth allan yn gynharach y flwyddyn yma, roedden ni wedi ailgylchu 64% o'r gwastraff yn 2016. Mae hyn yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol (63%) a tharged Llywodraeth Cymru o 58% – ond bydd y targed yn cynyddu i 70% erbyn 2024-25.

"Byddai'n braf cyrraedd diwedd 2017 â champ arall, a bydd trefnu casglu eich coed Nadolig go iawn i'w hailgylchu yn rhoi hwb i hyn. Edrychwn ymlaen at ailgylchu rhagor eto yn ystod 2018."

Byddwn ni'n casglu coed Nadolig ar yr un diwrnodau â'r diwrnodau ailgylchu newydd. Rhaid i breswylwyr adael eu coed yn eu mannau casglu ailgylchu arferol. Fydd y gwasanaeth ddim yn casglu coed artiffisial. Rhaid mynd â'r rheiny i un o Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned y Cyngor, neu drefnu'u casglu gyda gwastraff mawr swmpus.

Hoffech chi ragor o wybodaeth am ddiwrnodau casglu newydd, oriau agor Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned, ac eitemau poblogaidd mae modd eu hailgylchu y Nadolig yma? Croeso i chi fynd i www.rctcbc.gov.uk/AilgylchuAdegNadolig.

Wedi ei bostio ar 22/12/17