Skip to main content

Datgelu rhedwyr dirgel Rasys Nos Galan

O'r byd bocsio a byd y bêl-hirgron y daw'r DDAU Redwr Dirgel ar gyfer Rasys Nos Galan 2017. 

Fe gyrhaeddodd Nathan Cleverly, cyn-bencampwr y byd a Colin Charvis yntau wedi chwarae rygbi dros Gymru a'r Llewod, Eglwys Gwynno Sant, Llanwynno, gyda channoedd o bobl yno i'w croesawu ac i ddymuno'n dda iddyn nhw. 

Ar ôl y gwasanaeth blynyddol i goffáu Guto Nyth Brân yn Eglwys Gwynno, gosodon nhw flodeudorch ar fedd y rhedwr chwedlonol o Gymro.  Yna, aethon nhw i Westy Brynffynnon i weld Mur Anfarwolion Nos Galan. 

Roedd gornest broffesiynol gyntaf Nathan Cleverly ym mis Gorffennaf 2005 ac yntau'n 18 oed, gan ymddangos sawl gwaith ar yr un rhaglen â'i gymar o'r un clwb bocsio, a chyn-bencampwr y byd Joe Calzaghe. 

Roedd e hefyd ar yr un rhaglen pan gurodd Calzaghe ei wrthwynebwr Bernard Hopkins yn Las Vegas yn 2008. Aeth e ymlaen i ennill teitlau'r Gymanwlad ac Ewrop cyn trechu Nadjib Mohammedi i fod yn bencampwr pwysau trwm ysgafn WBO y byd yn 2010.

Roedd i fod i wynebu Jurgen Braehmer am y teitl llawn yn 2011, ond tynnodd y gŵr o'r Almaen allan o'r ornest oherwydd anaf, a Cleverly yn dod yn bencampwr y byd.

Yn dilyn hynny, roedd e'n llwyddiannus i gadw'i deitl y byd bedair gwaith – gan gynnwys yn erbyn Tony Bellew – ond colli wnaeth Cleverly yn erbyn Sergey Kovalev yn 2013.

Ar ôl symud i lefel pwysau go drwm yn 2014 ac yntau'n ennill teitl rhyn-gyfandirol gwag yr WBA, cafodd Cleverly ei drechu mewn gornest arall yn erbyn Bellew.

Pan symudodd Cleverly yn ôl i lefel pwysau trwm ysgafn, enillodd e barch mewn gornest yn erbyn Andrzej Fonfara, er gwaethaf colli honno.

Ond ar ôl iddo ail-gipio'i bencampwriaeth y byd oddi wrth Jurgen Braehmer, penderfynodd Cleverly, 30 oed, roi'r gorau iddi ar ôl colli'i goron pwysau trwm ysgafn WBO i Badou Jack yn Las Vegas yn gynharach eleni, gyda'r ornest yn dod i ben yn y bumed rownd, yn yr un achlysur â buddugoliaeth Floyd Mayweather ar Conor McGregor. O blith 34 o ornestau yn ei yrfa, dim ond colli 4 wnaeth.

Ymunodd Colin Charvis â chlwb y Dreigiau yn 2006 ar gytundeb blwyddyn.  Ei gêm gyntaf oedd gêm gyfeillgar cyn dechrau'r tymor yn erbyn y Cornish Pirates. Roedd e hefyd yn chwarae dros glybiau y Cymry Llundain, Abertawe, Newcastle Falcons a Tarbes yn Ffrainc. 

Ac yntau wedi chwarae 94 o weithiau dros Gymru, fe sgoriodd Colin 22 o geisiau dros ei wlad, gan olygu mai fe yw'r prif sgoriwr ceisiau o blith blaenwyr Cymru. 

Roedd e'n gapten Cymru yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn 2003, a chynrychiolodd ei wlad yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn 1999 yn ogystal.  Roedd e'n rhan o Dîm y Llewod yn ei gyfres Prawf yn Awstralia yn 2001. 

Ar ôl chwarae dros ei wlad yn erbyn Lloegr, Yr Alban, Iwerddon a'r Eidal yn 2006 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, fe gymerodd e hoe fach o'r byd rhyngwladol er mwyn canolbwyntio ar gemau rhanbarthol gyda'r Dreigiau. 

Canlyniad hyn oedd cael ei enwi yn rhan o dîm Gareth Jenkins i deithio i Awstralia yn haf 2007 yn ogystal â chael lle yng ngharfan hyfforddi'r haf gychwynnol ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd yn 2007. 

Ac yntau'n ennill lle yn y garfan o 30 o chwaraewyr ar ôl chwarae yn y gêm brawf yn erbyn Lloegr, roedd e'n eilydd yng Nghyfres yr Haf Invesco Perpetual yn erbyn yr Ariannin a Ffrainc. 

Yn arbennig, fe ddaeth e oddi ar y fainc i sgorio cais yng ngêm gyntaf Cymru yng Ngrŵp B yn erbyn Canada, a chafodd ei enwi ymhlith y 15 i ddechrau ar gyfer y gemau eraill yn y grŵp yn erbyn Awstralia, Siapan, a Ffiji. 

Ym mis Tachwedd 2007, roedd Colin Charvis ymhlith y pymtheg cyntaf ar gyfer y gêm gyntaf erioed yn rhan o Gwpan y Tywysog Cymru yn erbyn De Affrica. Er gwaethaf colli o 34 i 12 yn erbyn pencampwyr y byd ar hynny o bryd, sgoriodd Colin ei 22ain cais dros ei wlad, gan olygu mai fe fyddai prif sgoriwr ceisiau o blith blaenwyr y byd ar y pryd. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd y Pwyllgor Nos Galan ac Aelod o Gabinet y Cyngor ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Rydyn ni wrth ein bodd i gael croesawu Nathan Cleverly a Colin Charvis i Aberpennar, Rhondda Cynon Taf, yn Rhedwyr Dirgel Rasys Nos Galan 2017. 

"Maen nhw'n dilyn yng nghamau llu o enwogion byd chwaraeon sydd wedi gwneud yr un peth. 

“Mae'r ddau ohonyn nhw'n llysgenhadon arbennig ar ran eu gwlad, a hwythau'n cyflawni cymaint yn eu gyrfaoedd ac yn cynrychioli Cymru ar y llwyfan rhyngwladol. Mae'n anrhydedd enfawr inni gael cyn-bencampwr y byd a chwaraewr Cymru a Llew ar strydoedd Aberpennar.” 

Mae Rasys Nos Galan 2017 wedi'u noddi gan gwmni lleol Tom Prichard Ltd; Amgen, cwmni sy'n darparu gwasanaethau trin gwastraff i Rondda Cynon Taf; Trivallis, un o landlordiaid cymdeithasol cofrestredig mwyaf Cymru sy'n darparu cartrefi i filoedd o deuluoedd ledled y Fwrdeistref Sirol; a Chymunedau yn Gyntaf.  

Dilynwch Rasys Nos Galan ar Twitter a Facebook. Croeso i chi hefyd fynd i wefan y Rasys – www.nosgalan.co.uk.  Bydd yr holl ganlyniadau a lluniau ar gael cyn bo hir. 

Byddwn ni'n tynnu lluniau ac yn ffilmio yn yr achlysur at ddibenion hyrwyddo gweithgareddau.

Wedi ei bostio ar 31/12/2017