Cynhelir achlysur ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd ar 30ain Gorffennaf er mwyn nodi canmlwyddiant arwriaeth Robert Bye, Croes Fictoria, yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae'r Parc eisoes yn gartref i faen pafin coffa er cof am y milwr lleol. Dyma fydd canolbwynt y seremoni.
Yn Rhingyll yn y Gwarchodlu Cymreig, ganed Robert Bye ym Mhontypridd, gan symud i Benrhiwceibr i fyw yn ddiweddarach. Enillodd ef Groes Fictoria ym mis Gorffennaf 1917, ar ôl iddo amlygu dewrder a dawn arwain syfrdanol yn Nhrydedd Frwydr Ieper, yng Ngwlad Belg.
Mae'r Gwarchodlu Cymreig eisoes wedi cael derbyn Rhyddfraint Rhondda Cynon Taf, a bydd y Gatrawd yn anrhydeddu un o'i meibion ei hun yn ystod dathliad coffáu dwys am hanner dydd ar Ddydd Sul, 30ain Gorffennaf.
Gwahoddir y cyhoedd i'r achlysur yma ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd, sydd hefyd yn gartref i Lido Ponty, Lido Cenedlaethol Cymru. Bydd parcio AM DDIM ym mhob un o feysydd parcio'r Cyngor ym Mhontypridd ar y diwrnod.
"Enillodd y Rhingyll Robert Bye Groes Fictoria am ddewrder o ganlyniad i'w weithredoedd syfrdanol o arwrol," meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Maureen Webber, gyda chyfrifoldeb dros y Lluoedd Arfog.
"Peth gweddus i ni, felly, gan mlynedd i'r diwrnod ar ôl ei weithred, yw cofio'r gŵr mawr yma ym Mharc Coffa Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd, y dref a garai ef gymaint.
"Gobeithio y daw cynifer o bobl ag y bo modd i ddangos eu cefnogaeth i'r Gwarchodlu Cymreig, ac, yn wir, i'n holl Luoedd Arfog, ddoe a heddiw, gartref a thramor, sydd i gyd yn gwneud gwaith hynod.
Gan mlynedd yn union i'r diwrnod yn ôl, yn ystod Trydedd Frwydr Ieper, dechreuodd ymosodiad gan filwyr Prydain a Ffrainc ar flocws cudd arafu a gwanhau. Roedd un o safleoedd gwn peiriant Byddin yr Almaen yn ei amddiffyn yn ffyrnig.
Llwyddodd y Rhingyll Bye, 27 oed, i ymlusgo yn agos at y safle, a llwyddodd i fynd tu ôl i'r blocws. Pan daflodd ef ei fom llaw i mewn, daeth milwyr yr Almaen allan i ildio.
Ymlaen aeth milwyr y Cynghreiraid i sicrhau gafael ar eu hail amcan. Blocws arall oedd hwn, gyda gynnau peiriant yr Almaenwyr yn tanio fel cesair.
Llwyddodd y Rhingyll Bye i dreiddio'r tu ôl i'r blocws eto. Unwaith eto, taflodd ef fom llaw i mewn a gorfodi'r Almaenwyr i ildio. Dyfarnwyd Croes Fictoria iddo wedyn am ei weithredoedd dewr.
Ar 5ed Medi 1917, derbyniodd y Rhingyll Robert Bye Groes Fictoria, yr anrhydedd uchaf am ddewrder, o law'r Brenin Siôr V ar gwrt blaen Palas Buckingham.
Ac yntau yn cyrraedd adref, roedd strydoedd Penrhiwceibr yn fflagiau a rhubanau i gyd, a chaewyd yr ysgolion am ddiwrnod o wyliau er mwyn nodi'r achlysur. Roedd Church Street, lle cafodd Robert Bye ei fagu, yn llawn dop o filoedd o Garedigion yr achos.
Penodwyd y Rhingyll Bye yn Uwch Ringyll yng Nghatrawd Swydd Nottingham a Swydd Derby, a gwasanaethodd yn yr Ail Ryfel Byd. Yn ogystal â'i Groes Fictoria, enillodd ef Seren 1914-18, Medal y Rhyfel, y Fedal Buddugoliaeth ac, ym 1937, Medal y Coroniad.
Meddai Cyrnol T C S Bonas, Dirprwy Catrawd y Gwarchodlu Cymreig: "Mae Sarsiant Robert Bye yn gymaint o ysbrydoliaeth heddiw ag y mae erioed wedi bod i genedlaethau o filwyr y Gwarchodlu Cymreig.
"Mae pob un ohonon ni wedi dysgu amdano, rydyn ni'n ei edmygu ac rydyn ni'n ei gofio.
"Fyddwn ni byth yn anghofio ei enw na'i weithredoedd ac, a ninnau'n filwyr y Gwarchodlu Cymreig, rydyn ni'n gwneud ein gorau glas i fyw yn ôl ei ddewrder, ei nerth a'i ymroddiad i'w ddyletswydd.
- Cynhelir achlysur coffa Robert Bye, CF ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd am hanner dydd ar Ddydd Sul, 30ain Gorffennaf. Mae croeso i bawb
Wedi ei bostio ar 25/07/17