Skip to main content

Man Chwarae Cwmaman

Mae man chwarae newydd arall ar fin agor yn Rhondda Cynon Taf, ac mae rhagor ar y ffordd! 

Yn rhan o fuddsoddiad mawr y Cyngor mewn mannau chwarae drwy raglen Buddsoddiad RhCT, mae cymunedau lleol ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol yn parhau i elwa o gyfleusterau chwarae awyr agored newydd a gwell i blant. 

Man Chwarae Canolfan Cwmaman yw'r man chwarae diweddaraf i dderbyn cyfleusterau newydd. Bydd y man chwarae yn agor cyn bo hir er mwyn caniatau i blant a theuluoedd fwynhau'r cyfleusterau drwy gydol y flwyddyn. 

Cafodd y man chware yma'i ddatblygu ochr yn ochr â'r ysgol gynradd gymunedol gwerth £7.2miliwn sy'n cael ei hadeiladu yn yr ardal. Dechreuodd y gwaith adeiladu yn gynharach yn y flwyddyn. Bydd y safle yn cynnwys ysgol gymunedol sy'n addas ar gyfer 21ain Ganrif ynghyd ag Ardal Gemau Aml-ddefnydd, maes parcio i staff, iard gwasanaeth, caeau gwair ac ardaloedd allanol i ddisgyblion. Bydd adeilad yr ysgol hefyd yn cynnwys ystafell gymunedol ar gyfer grwpiau lleol. 

Mae offer chwarae newydd, ynghyd â llawr diogel, wedi cael eu gosod ym Man Chwarae Canolfan Cwmaman. Bydd y man chwarae yma'n ganolbwynt ar gyfer yr holl gymuned, ac i ymwelwyr i'r ardal. 

Mae'r cyfleusterau chwarae yn cynnwys ardal chwarae aml-ddefnydd gyda sleid a siglenni, a fydd yn cynnwys seddau sy'n addas i blant bach a seddau sy'n addas i blant hŷn. Mae si-so tair sedd wedi cael ei osod, ynghyd â chylchfan sy'n cyffwrdd â'r llawr fel bod modd i bobl sydd mewn cadair olwyn ddefnyddio'r cyfleuster.

Bydd gan Fan Chwarae Canolfan Cwmaman ffram ddringo fawr sy'n addas ar gyfer plant hŷn a disg Supernova a fydd yn herio defnyddwyr y cyfleuster, ynghyd â siglen basged, rhedfa a mannau agored.

Yn gynharach yn y flwyddyn, cyhoeddodd Arweinydd y Cyngor, Andrew Morgan y bydd 34 man chwarae yn cael eu gwella ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf yn ystod y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn dod yn sgil cynydd mewn buddsoddiad, o £1.7miliwn i £2.3miliwn, mewn Mannau Chware ers 2015/16.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Rydyn ni'n parhau i fuddsoddi yn ein mannau chware ac mae cyflymder cwblhau'r gwaith yn glod i'r contractwyr ac Is-adran Parciau.

"Blwyddyn ddiwethaf, roedden ni wedi nodi'r mannau chwarae a oedd angen cael eu gwella. Ychwanegon ni 34 arall at y rhestr yn gynharach yn y flwyddyn. Mae hyn yn golygu bydd 80 man chwarae wedi elwa o fuddsoddiad erbyn diwedd y flwyddyng. Rydyn ni'n parhau i weithio'n gyflym o gwmpas y Fwrdeistref Sirol. Man chwarae Cwmaman yw'r diweddaraf i dderbyn buddsoddiad.

"Mae chwarae yn yr awyr agored yn ffordd wych o ddatblygu dychymyg a chreadigrwydd plant. Mae hyn hefyd yn hyrwyddo ffordd o fyw iach a datblygiad corfforol, emosiynol a chymdeithasol. Mae hefyd yn ffordd wych o fwynhau'r awyr agored. 

"Bydd ein cyfleusterau newydd sbon yng Nghwmaman yn ysbrydoli gweithgaredd corfforol a chymdeithasu trwy gyfrwng chwarae.

"Mae'r gwaith yma wedi cynnwys gwaith gwella pwysig hefyd sy'n cynnwys llwybrau i'w wneud yn haws i gadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn symud drwy'r mannau."

Dilynwch Gyngor RhCT ar Facebook a Twitter am fanylion ynglŷn â dyddiad agor Man Chwarae Cwmaman.

Wedi ei bostio ar 26/07/17