Skip to main content

Cyngor yn sicrhau cyllid i gynlluniau lliniaru llifogydd

Caniatawyd £95,625 o gyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf  o Lywodraeth Cymru er mwyn cyflawni dau gynllun lliniaru llifogydd.

Gwnaeth y Cyngor gais am gyllid drwy Grant Gwaith ar Raddfa Fach 2017/18 Llywodraeth Cymru, er mwyn cyflawni gwaith yn Heol Glanaman, Cwmaman, a Heol Cilfynydd, Pontypridd.

Bydd cynllun Heol Glanaman yn cynnwys gwaith gwella cylfat a gwaith traenio ar y briffordd, mewn ardal a nodwyd fel un risg uchel yng Nghynllun Rheoli Risg Llifogydd y Cyngor. Caniatawyd grant o £85,000 i'r Cyngor i'r gwaith, a fydd yn costio cyfanswm o £100,000.

Mae gwaith cychwynnol i fod i ddigwydd cyn bo hir, cyn cyflawni'r prif brosiect yn ystod y Flwyddyn Newydd.

Bydd cynllun Cilfynydd Road yn dilyn o waith lliniaru llifogydd a wnaed yn ddiweddar. O ganlyniad i hyn, caiff sgrîn weddillion cwrs dŵr ei chreu. Mae'r Cyngor wedi derbyn grant o £10,625 am y gwaith sy'n werth £12,500, ac a fydd yn digwydd tua diwedd yr haf neu yn gynnar yn yr hydref.

"Cafodd y Cyngor ei hysbysu yn ddiweddat fod ei gais am gyllid grant i gynlluniau lliniaru llifogydd yng Nghwmaman a Phontypridd wedi llwyddo," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros ac am Briffyrdd.

“Croesawaf gymorth Llywodraeth Cymru i'r grantiau, a fydd yn cyllido 85% o bob cynllun. Bellach, bydd modd cyflawni'r fwaith pwysig, mewn ardaloedd a nodwyd yn ein Cynllun Rheoli Risg fel rhai o risg posibl, yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol."

Yn y cyfamser, Bydd y Cyngor yn dechrau'r prif waith ar Gynllun Lliniaru a Llifogydd Cwmaman - prosiect ar wahan i gynllun Glanaman Road - 24ain Gorffennaf, ar ôl i waith ecoleg uwch ddechrau yno yn gynharach y mis hwn.

Wedi ei bostio ar 25/07/17