Skip to main content

Cynllun Lliniaru Llifogydd Cwmaman i ddechrau

Bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn dechrau gwaith ar Gynllun Lliniaru Llifogydd Cwmaman.

Yn ystod mis Mai, cyhoeddodd y Cyngor hysbysiad statudol yn datgan ei fwriad i ddechrau gwaith traenio tir, er mwyn lleihau risg llifogydd yn Heol Glanaman, gan leihau risg i feddiannau eiddo preswyl ac i safleoedd seilwaith critigol.

Mae'r ardal gwaith ger Nant Aman Fawr, a 0.5km i ffwrdd o'r ardal breswyl agosaf. Dechreuodd  gwaith ecoleg  ar y safle yn ystod mis Gorffennaf.

Yn y cyfamser, mynd rhagddo mae cynnydd da'r gwaith adeiladu ar yr ysgol gynradd ar gost o £7.2 miliwn ryw bellter byr i ffwrdd ar Heol Glan - a bydd  y Cyngor yn ailddefnyddio deunydd dros ben addas a gynhyrchwyd gan ddatblygiad yr ysgol fel deunydd llenwi peirianneg i'r cynllun lliniaru llifogydd.

O dan y cynllun gwreiddiol, byddai miloedd o dunellau metrig o ddeunydd wedi cael eu cludo o safle'r ysgol drwy bentref Cwmaman.

Yn lle hynny, bydd y dull ymagweddu cost-effeithiol a chynaliadwy newydd yn gofyn am gludo llawer ohono i safle'r cynllun lliniaru llifogydd gerllaw, lle bydd yn cael ei ailddefnyddio.

Ar ben hynny, bydd yn atal yr angen am ddod â deunydd newydd i mewn i'r cynllun lliniaru llifogydd. Fel arall, byddai hyn wedi gorfod cael ei gludo yn ôl drwy'r pentref.

Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi derbyn y caniatadau angenrheidiol er mwyn cyflawni'r broses hon, sydd i fod i ddechrau o Ddydd Llun, 24ain Gorffennaf.

"Mae'r cynllun lliniaru llifogydd i Gwmaman yn dangos fod y Cyngor yn buddsoddi yn yr ardaloedd iawn er mwyn gwella a diogelu cymunedau lleol," meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf. "Yn dilyn y gwaith ecoleg uwch, bydd prif ran y prosiect yn dilyn."

"Gan fod cynnydd da yn cael ei wneud ar yr ysgol gynradd newydd gerllaw, sy'n werth £7.2 miliwn, cawsom gyfle i ailddefnyddio deunyddiau dros ben addas o'r prosiect ysgol er mwyn datblygu'r cynllun lliniaru llifogydd.

"Bydd hyn yn lleihau yn sylweddol yr holl darfu ar bobl leol. Fel arall, byddent wedi wynebu cerbydau mawr yn cludo miloedd o dunelli o ddeunydd drwy strydoedd cul Cwmaman.

"O dan y cynllun newydd yma, caiff maint sylweddol o'r deunydd yma ei gludo yn y cyfeiriad arall, er mwyn cael ei ailddefnyddio ar safle'r cynllun lliniaru llifogydd. Bydd hyn yn achosi llawer yn llai o darfu, ac eto yn darparu'r ysgol gynradd a'r cynllun lliniaru llifogydd mewn ffordd gynaliadwy a chost-effeithiol."

Wedi ei bostio ar 24/07/2017