Skip to main content

Agor cyfleusterau cynelu newydd

 

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi agor gwell cyfleuster cynelu i gŵn strae yn swyddogol. Bydd yn rhoi gwell gwasanaeth i' rheiny sydd wedi colli ci neu gael hyd i un.

Aeth Y Cynghorydd Rhys Lewis, Dirprwy Aelod o'r Cabinet dros Ffyniant a Lles, i ymweld â chanolfan newydd elusen Hope Rescue yn Llanharan yr wythnos ddiwethaf.

Os oedd cŵn wedi dianc neu wedi mynd ar grwydr o'r blaen, caent eu symud i'r hen loches anifeiliaid yn Ninas Rhondda. Yn ystod oriau agor cyfyngedig y gweithredai honno.

Bellach, os cewch hyd i gi, bydd modd i chi fynd ag ef i ganolfan elusen Hope Rescue 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae cyfleuster newydd elusen Hope Rescue wedi estyn ei oriau agor i berchnogion sy'n dymuno hawlio ci yn ôl o'r cynelau. Mae'r trefniadau newydd yma yn cyflwyno gwelliant sylweddol ar y gwasanaeth blaenorol oedd yn cael ei gynnig.

Arferai'r wardeiniaid anifeiliaid weithio o'u canolfan yn yr hen loches anifeiliaid. Maent yn dal i weithio mewn ffordd ragweithiol ym mhob rhan o Rondda Cynon Taf, gan ymateb i alwadau am gŵn strae yn ystod oriau swyddfa. Yn ogystal â hyn, byddant yn hyrwyddo a hybu perchnogaeth gyfrifol ar gŵn, a cynorthwyo preswylwyr a all fod â phroblemau sy'n gysylltiedig â chŵn, fel cyfarth neu faeddu, er enghraifft.

"Daeth hi'n glir nad oedd modd i'r cyfleusterau cynelu aros yn Ninas Rhondda," meddai'r Cynghorydd Lewis, a ddaeth yn ffrindiau gyda sbaengi adara arbennig o annwyl. "Aethom ati i gynnal ymgynghoriad helaeth gyda'n partneriaid a chyda phreswylwyr."

"Gwnaethom ddefnydd o gymorth datblygu busnes er mwyn cynorthwyo elusen Hope Rescue i ddatblygu'r cyfleuster newydd ar safle hen fusnes lletya cŵn yn Llanharan.

"Canlyniad hyn yw bod modd mynd â chŵn strae i fan diogel lle gallant dderbyn gofal – a derbyn unrhyw driniaeth lawfeddygol os oes angen – nes i'w perchnogion eu hawlio yn ôl.

"Os oes cŵn heb eu hawlio, cânt eu trosglwyddo yn awtomatig i ofal elusen Hope Rescue, a'u paratoi i gartref newydd."

"Rydym ni yn elusen Hope Rescue yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf," meddai Vanessa Waddon, Rheolwraig Trawsffurfio yr elusen, "Ar ôl i'w cŵn strae heb eu hawlio gwblhau'r saith diwrnod statudol, byddant yn dod atom ni." Bellach, rydym wrth ein bodd yn cael darparu eu gwasanaeth derbyn cŵn strae hefyd, gan gynnig lle diogel i gŵn strae Rhondda Cynon Taf 24 awr bob dydd. Cyn bo hir, byddwn ni'n dechrau gwaith ar floc newydd o'r radd flaenaf i dderbyn y cŵn. Bydd hyn yn gwella'r cyfleusterau yn ein canolfan newydd.”

Os cewch hyd i gi strae yn Rhondda Cynon Taf rhwng oriau 9.00yb a 5.00yp, galwch 01443 425001 er mwyn gofyn am ymweliad gan warden anifeiliaid. Bydd y warden yn dod a sganio'r ci am ficrosglodyn. Os nad oes modd dychwelyd y ci i'w berchnogion, bydd yn mynd i ganolfan elusen Hope Rescue yn Llanharan, lle bydd modd ei hawlio yn ôl.

Os cewch hyd i gi y tu allan i'r oriau hyn, galwch 01443 425011. Byddwch chi'n cael derbyn cyfeirnod, a fydd yn caniatáu derbyn y ci yng nghanolfan Hope Rescue bob awr o bob dydd. Heb y cyfeirnod yma, ni cheir derbyn y ci.

Hoffem atgoffa perchnogion cŵn fod ganddynt gyfrifoldeb cyfreithiol i sicrhau fod eu cŵn wedi'u meicrosglodynnu, ac yn gwisgo coler a thag adnabod. Rhaid i'r holl wybodaeth gael ei diweddaru'n gyson.

Ni chaiff cŵn eu rhyddhau o'r cynelau nes bod pob ffi wedi cael ei thalu.

Bydd pob ci y ceir hyd iddo yn cael ei hysbysebu ar dudalen Facebook elusen Hope Rescue www.facebook.com/HopeRescueWales

Cewch wybod ragor ar http://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/EnvironmentalHealthandPollution/PestControlandAnimalFouling/Lostorstraydogs.aspxut3}

Wedi ei bostio ar 25/07/2017