Skip to main content

Gwaith Datblygu mawr cyntaf yn dechrau ar y Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm yn Aberpennar

Mae'r Cyngor wedi dechrau'r camau cyntaf yng ngwaith datblygu'r Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm yn Aberpennar.

Aeth Arweinydd y Cyngor a Chynghorydd Gorllewin Aberpennar, Andrew Morgan, i ymweld ag Ystâd Ddiwydiannol Cwm Cynon ar fore Mawrth. Dyma ble ddechreuodd y gwaith gwella gwerth £270,000 ar gyffordd Heol Caerdydd ar 17 Gorffennaf.

Yn dilyn gwaith ecolegol a pharatoadol yn yr ystâd ddiwydiannol, y gwaith gwella ar Heol Caerdydd yw'r gwaith cyntaf ar y safle yn rhan o gynllun ehangach y Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm. Bydd y cynllun yma gwerth miliynau o bunnoedd yn cael ei gwblhau erbyn 2020.

Prif nod y cynllun yn gyffredinol yw adeiladu pont 60m o uchder Ystâd Ddiwydiannol Cwm Cynon i Heol Meisgyn, sy'n mynd dros reilffordd Aberdâr-Caerdydd ac Afon Cynon.  Bydd y cynllun yma'n darparu heol gyswllt allweddol ar gyfer cerbydau sy'n teithio ar hyd yr A4059 a'r B4275. Drwy hyn, bydd traffig yn cael ei leddfu yn Aberpennar ac ar hyd coridor ehangach yr A4059/B4275.

Rydyn ni'n gwneud cynnydd da ar waith ailwynebu cyffordd Heol Caerdydd. Bydd y gwaith sylweddol yma'n cael ei gwblhau dros gyfnod o 10 wythnos ac yn newid trefn y ffordd yn ogystal â chyflwyno goleuadau stryd. Mae Heol Caerdydd o'i chyffordd â'r ystâd ddiwydiannol hyd at Usk Villas wedi cau dros dro.

Bydd cynllun ehangach y Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm hefyd yn cynnwys gwelliannau i gyffordd yr ystâd ddiwydiannol â'r A4059. Mae'r Cyngor wrthi'n cwblhau'r broses dendro ar gyfer y rhan allweddol yma o'r cynllun.

Hyd heddiw, dyrannwyd £7.551miliwn tuag at y prosiect yn dilyn buddsoddiad sylweddol gan y Cyngor. Buddsoddodd Lywodraeth Cymru £3.6miliwn yn y cynllun, hefyd. £1.5m oedd y swm diweddaraf a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2017 yn rhan o gynllun grant y Gronfa Trafnidiaeth Leol.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion y Priffyrdd: "Mae'r Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm yn Aberpennar wedi bod yn uchelgais ar gyfer preswylwyr lleol a'r Cyngor. Trwy fynd i'r afael â'r gwaith mawr yma ar Heol Caerdydd, sy'n rhan o'r cynllun, rydyn ni'n dangos bod cynydd mawr yn cael ei wneud er mwyn gwireddu'r uchelgais yma.

"Mae rhaglen #buddsoddiadRhCT a Llywodraeth Cymru wedi dyrannu swm mawr tuag at y cynllun er mwyn gwella llif traffig yn Aberpennar, ac ar hyd coridor prysur yr A4059/B4275 sy'n gwasanaethu trigolion Cwm Cynon.

"Ymwelais i â'r safle fore Mawrth i weld ba gynnydd oedd yn cael ei wneud ar gyffordd Heol Caerdydd. Y gwaith yma'n yw prosiect cyntaf cynllun ehangach y Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm. Bydd y gyffordd yma'n rhan allweddol o'r Ffordd Gyswllt ar ôl iddi agor yn 2020.

"Rydw i'n edrych ymlaen at weld rhagor o gynnydd mewn perthynas â'r cynllun yma yn y dyfodol agos, gan gynnwys gwelliannau i gyffordd yr A4059, wrth i'r Cyngor gyflawni'r amcan hir dymor yma."

Wedi ei bostio ar 26/07/2017