Skip to main content

Milkshake! yn fyw

Mae sêr y sioe deledu boblogaidd i blant Milkshake! ar eu ffordd i Rondda Cynon Taf gyda'r Llyfr Hudol. 

Bydd Sianel 5 yn dod â fersiwn byw o'r rhaglen lwyddiannus i'n Bwrdeistref Sirol i adlonni plant bach yn Theatr y Colisëwm ddydd Sadwrn 30 Medi. 

Mae'r sioe yn cynnwys ffefrynnau Milshake! Bob y Bildar, Y Frenhines Fach, Nodi, Sam Tân, Shimmer & Shine, Pip o Pip Ahoy!, Winnie a Wilbur a Wissper. Bydd Mwnci Milkshake a dau gyflwynydd Milkshake! yn mynd â'r plant ar daith hudol drwy eu hoff storïau.

Wedi'i lleoli yng nghwpwrdd llyfrau hudol Milkshake!, bydd y sioe newydd yma yn sicr o'ch synnu chi wrth i gast Milkshake! ganu caneuon a rhannu straeon bydd aelodau o'r gynulleidfa yn eu cofio a'u hoffi.

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: “Mae Milkshake! yn boblogaidd iawn ledled y wlad, gyda miloedd o bobl yn gwylio'r rhaglen bob wythnos.

“Rydyn ni wrth ein boddau bod Milkshake! a sêr y sioe yn dod i'n Bwrdeistref Sirol am ddau berfformiad fydd yn boblogaidd iawn mae'n siŵr.”

Meddai Cyflwynydd Milkshake! a chyfarwyddwr y sioe Derek Moran: “Rydyn ni'n edrych ymlaen at fynd â'n sioe newydd sbon ar daith o gwmpas y DU. Mae'n sioe hudol sy'n llawn cyfleoedd i'r gynulleidfa gymryd rhan.”

Meddai Sarah Muller, Pennaeth Sianel 5 i Blant: “Trwy ein sioeau byw, rydyn ni'n rhoi achlysur unigryw Milkshake i deuluoedd. Mae modd iddyn nhw gwrdd â'u hoff gymeriadau a chyflwynwyr wrth fwynhau diwrnod gyda'r teulu cyfan.”

Mae’r sioe Milkshake! yn fyw: Y Llyfr Hudol yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr, ddydd Sadwrn 30 Medi (12:30pm a 4pm). Mae tocynnau ar gael o'r Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu ar-lein ar http://rct-theatres.co.uk/cy/

Wedi ei bostio ar 17/07/2017