Mae ymdrechion ailgylchu gwych disgyblion o dair ysgol gynradd yn Rhondda Cynon Taf wedi cael eu gwobrwyo. Casglodd y disgyblion bentyrrau o ddeunyddiau pacio ail-ddefnyddiadwy o'u Hwyau Pasg.
Roedd Cystadleuaeth Ailgylchu Wyau Pasg y Cyngor, sy'n cael ei chynnal yn flynyddol, yn herio disgyblion i gasglu deunyddiau pacio o'u Hwyau Pasg. Cafodd pentyrrau o blastig, ffoil a chardfwrdd eu casglu gan ddisgyblion o 44 ysgol ar draws y Fwrdeistref Sirol. Casglodd y disgyblion gyfanswm o 1,026,350 gram o ddeunyddiau ailgylchadwy.
Cafodd disgyblion Ysgol Gynradd Y Rhigos, Ysgol Babanod Y Porth, ac Ysgol Babanod Llwyncelyn eu dyfarnu'n enillwyr ddydd Mercher, 5 Gorffennaf. Cafodd disgyblion eu gwahodd i Dŷ Glantaf yn Nhrefforest, sef un o ganolfannau ailgylchu'r Cyngor, ble cawson nhw gyfle i gwrdd â masgot ailgylchu'r Cyngor, Rhys Cycle, a chasglu'r gwobrau.
Llwyddodd 67 disgybl Ysgol Gynradd Y Rhigos i gasglu 30,455g o ddeunyddiau ailgylchu sy'n gyfwerth â 454g y disgybl! Aeth Natalie Pope (Blwyddyn 2) ac Archie Bennett (Blwyddyn 3), sy'n aelodau o gyngor eco'r ysgol, i Dŷ Glantaf er mwyn casglu'r wobr o £300 ar ran yr ysgol.
Ysgol Babanod Y Porth
Cafodd yr ail wobr, sef £100, ei chasglu gan ddisgyblion dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2 Ysgol Babanod Y Porth. Cafodd y drydedd wobr, £50, ei chasglu gan ddisgyblion Blwyddyn 1 sy'n rhan o'r cyngor ysgol a'r pwyllgor eco yn Ysgol Llwyncelyn.
Derbyniodd y tair ysgol fuddugol dystysgrifau am gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Roedd yn gyfle gwych i weld gwenau ar wynebau'r disgyblion ar ôl iddyn nhw weld y pentyrrau o ddeunyddiau ailgylchu roedden nhw wedi'u casglu. Roedd y disgyblion yn amrywio o ddisgyblion dosbarth Derbyn i ddisgyblion Blwyddyn 3. Mae'n arbennig eu bod nhw'n meddwl am bwysigrwydd ail-ddefnyddio deunyddiau, yn hytrach na'u hanfon nhw i'r safle tirlenwi.
"Mae ymdrechion ailgylchu pawb yn gwneud gwahaniaeth. Yn 2016, cafodd mwy na 64% o wastraff y Cyngor ei ailgylchu. Mae hyn yn record ar gyfer y Fwrdeistref Sirol ac yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol. Rydyn ni hefyd yn llwyddo i ailgylchu canran uwch na'r targed cyfredol o 58%. Rydyn ni'n bwriadu i fodloni targed Llywodraeth Cymru o 70% erbyn 2024-25.
"Llongyfarchiadau unwaith eto i holl ysgolion y Fwrdeistref Sirol am gymryd rhan yn y gystadleuaeth yma - a llongyfarchiadau mawr i'r tair ysgol fuddugol."
Ysgol Babanod Llwyncelyn
Meddai Rachel Hodges, athrawes Blwyddyn 2 a 3 yn Ysgol Gynradd Y Rhigos a chydlynydd cyngor eco'r ysgol: "Cyfrannodd disgyblion ym mhob rhan o'r ysgol at y Gystadleuaeth Ŵy Pasg. Roedd yn gydymdrech mawr.
"Rydyn ni'n cynnal nifer o weithgareddau eco yn yr ysgol, ac mae disgyblion newydd gymryd rhan yn Wythnos Gwastraff a Switch-Off Fortnight.
"Bydd y wobr ariannol yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'n cynlluniau ni ac yn trawsffurfio mannau agored yr ysgol yn ardd, gyda lotment a man agored mae modd i ddisgyblion a staff ei fwynhau."
Mae gan y Cyngor saith Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned arbennig, sy'n ailgylchu mwy na 85% o'r holl eitemau a ddaw i law. Dyma ble mae'r canolfannau:
- Tŷ Amgen, Llwydcoed, CF44 0BX
- Cymmer Road, Dinas Rhondda, CF39 9BL
- Nantygwyddon Road, Y Gelli, CF41 7TL
- North Road, Glynrhedynog, CF43 4RS
- Ystâd Ddiwydiannol Trefforest, CF37 5TT
- Canolfan Ailgylchu 100% Llantrisant, CF72 8YT
- Ystad Ddiwydiannol Treherbert, Treherbert, CF42 5HZ
Wedi ei bostio ar 11/07/2017