Skip to main content

Pâr Arbennig yn Dathlu'r Diemwnt

 Mae pâr o'r Cymoedd sy'n dathlu 60 mlynedd o briodas wedi derbyn cerdyn gan y Frenhines - a chael gwestai arbennig yn galw heibio ar eu diwrnod mawr. 

Galwodd y Cynghorydd Margaret Tegg, Maer Rhondda Cynon Taf heibio er mwyn cyfleu'i dymuniadau gorau i Rhys a Wyn Rogers, Pontypridd wrth iddyn nhw ddathlu yng nghwmni teulu a chyfeillion. 

Fe gwrddodd y ddau â'i gilydd yn Neuadd Ddawns y Cyngor dros 60 mlynedd yn ôl. Dyna nhw'n cwympo mewn cariad ar unwaith, ac maent wedi aros yng nghwmni'i gilydd byth oddi ar hynny. 

Priododd y ddau ar Ddydd Sadwrn, 20fed Gorffennaf 1957, a chynnal y derbyniad yng Ngwesty'r Merlin, Pontypridd, cyn sleifio i ffwrdd i'w mis mêl yn nhref Torquay. 

Ar adeg y briodas, Y Brenin oedd ym mrig y siartiau gydag  All Shook Up, enillodd Sterling Moss Râs y Grand Prix Prydain yn Aintree a  The Sky at Night, yng ngofal Patrick Moore, oedd un o raglenni teledu mwyaf poblogaidd i oedolion y Deyrnas Unedig, a 'Pinky and Perky' y fwyaf poblogaidd i blant.

 Ganed Mr. Rogers ym Mhontypridd 84 o flynyddoedd yn ôl. Gadawodd yr ysgol yn 15 oed er mwyn bwrw'i brentisiaeth fel saer coed. Bu'n gwasanaethu wedyn gydag 2ail Fataliwn Catrawd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru ym Malaysia. 

Ganed Mrs. Rogers 80 o flynyddoedd yn ôl yn y Porth, yn un o 10 o blant. Bu'n gweithio am y rhan fwyaf o'i bywyd yn y diwydiant tecstiliau. 

Mae gan y pâr dri o blant sef Jayne, Kay, a Caitlin, a phump o wyrion sef Jenna, James, Rhys, Hannah, a Caitlin. Aeth y ddau mewn cwch camlas yng nghwmni teulu a chyfeillion i ddathlu eu Priodas Ddiemwnt ar Gamlas Trefynwy ac Aberhonddu. 

"Pleser digymysg oedd galw heibio i gwrdd â Mr. a Mrs. Rogers ar eu diwrnod arbennig," meddai'r Cynghorydd Margaret Tegg, Maer Rhondda Cynon Taf. “Priodas berffaith sydd gan y ddau hyn, a pheth braf oedd gweld holl gariad eu teulu a'u cyfeillion wedi'i weu yn gynnes amdanynt”. 

"Dymunaf y gorau iddynt ar eu diwrnod arbennig, a blynyddoedd lawer o ddedwyddwch i ddod yng nghwmni'i gilydd." 

  • Hoffech chi wahodd  y Maer i ryw achlysur? Croeso i chi gysylltu â Swyddfa Maer Rhondda Cynon Taf ar 01443 494061 neu ebostio maer@rctcbc.gov.uk
Wedi ei bostio ar 27/07/2017