Skip to main content

Gwelliannau i Ysgolion dros Wyliau'r Haf

Tra bydd staff a disgyblion yn mwynhau gwyliau'r haf, bydd y Cyngor yn mynd ati i gwblhau gwaith gwella mewn ysgolion ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol. Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd y Cyngor mewn Addysg. 

Bydd gwaith gwella gwerth £7.9miliwn yn cael ei gwblhau ar sefydliadau addysg ar hyd a lled Rhondda Cynon Taf yn ystod y chwe wythnos yma ac yn cael ei gwblhau cyn dechrau'r flwyddyn academaidd ym mis Medi. 

Mae'r cyllid yn rhan o raglen ehangach yr Awdurdod Lleol gwerth £200miliwn, BuddsoddiadRhCT. Bydd y gwaith yma'n gwella ansawdd ysgolion y Cyngor. Mae hyn yn rhan allweddol o raglen moderneiddio ysgolion y Cyngor a rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. 

Mae'r rhaglen gwelliannau, sy'n cynnwys 82 prosiect, wedi cael ei rhannu'n sawl categori. Mae pob categori yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth. Mae'r meysydd buddsoddi yn cynnwys Rhaglen Buddsoddi Ysgolion (£2miliwn), adnewyddu toi (£1.7miliwn) a gwaith hanfodol (£0.495miliwn). 

Mae'r Cyngor yn cwblhau gwelliannau megis ailfodelu ceginau, newid drysau a ffenestri, uwchraddio dosbarthiadau, disodli toi, gwaith ailweirio electronig, diweddaru larymau tân, adnewyddu tai bach a disodli boeleri. 

Mae'r buddsoddiadau mwyaf yn cynnwys newid to'r prif adeilad yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog (£400,000), a newid to gwastad Ysgol Gyfun Aberpennar (£200,000). 

Bydd mynedfa Ysgol Gynradd Y Ddraenen Wen yn cael ei hailfodelu ac yn derbyn gwelliannau i Adran Blynyddoedd Cynnar (£180,000). Bydd dosbarthiadau Ysgol y Cymer (£170,000) ac Ysgol Gynradd Cwm-Elai (£100,000) yn cael eu hailfodelu er mwyn i'r ysgol elwa o amgylchedd dysgu sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif. 

Bydd toiledau'n cael eu hailwampio yn Ysgol Gynradd Dolau, Ysgol Gynradd Ffynnon-Taf, Ysgol Gynradd Tonysguborïau, Ysgol Gynradd Pont-y-clun, Ysgol Gynradd Gwaunmeisgyn ac Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon. 

Byddwn ni'n gosod boeleri newydd yn Ysgol Gynradd Gwauncelyn, Ysgol Gynradd Pont-Rhondda, Ysgol Gynradd Gymraeg Abercynon, Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn-y-Forwyn ac Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun. Bydd ceginau newydd yn Ysgol Gymunedol Glynrhedynog, Ysgol Gyfun Aberpennar ac Ysgol Gyfun y Cardinal Newman Eglwys Gatholig Rhufain. 

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o'r Cabinet ar faterion Addysg a Dysgu Gydol Oes: "Mae angen rhaglen gwaith cyfredol er mwyn sicrhau bod ein hysgolion yn ddiogel, dwrglos a chynnes. 

"Mae'r rhaglen buddsoddi yma, gwerth £8miliwn, yn helpu'r Cyngor i gyflawni'i rhaglen moderneiddio ysgolion hirdymor. Mae'r rhaglen yma'n cefnogi un o Flaenoriaethau Cynllun Corfforaethol y Cyngor sef adeiladu economi cadarn. 

"Mae parhad Rhaglen Cyfalaf tair blynedd y Cyngor yn ein caniatáu ni i gyflawni gwelliannau sylweddol i ansawdd ein hysgolion. Mae staff a disgyblion yr ysgolion yma'n elwa o'r newidiadau yma. 

"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu cyfleusterau addysg sy'n cynnig y cyfleoedd gorau i'n pobl ifainc. Mae hyn yn amlwg o'n Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif sy'n cael ei darparu ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol." 

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r gwelliannau sy'n cael eu cyflawni, ewch i www.rct.gov.uk/buddsoddiadrhct 

Bydd y newyddion diweddaraf ynglŷn â'r rhaglen gwella ysgolion yn ymddangos ar dudalen Facebook a Twitter y Cyngor drwy gydol yr Haf

Wedi ei bostio ar 28/07/17