Skip to main content

Dechrau Ymgynghori ar y Buddsoddiad Arfaethedig ar gyfer Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach

Bydd ymgynghoriad yn dechrau heddiw, ddydd Gwener, 6 Hydref, ar gynlluniau i drawsnewid Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach, diolch i fuddsoddiad o dros hanner miliwn o bunnau. Bydd yr ymgynghoriad yn para pedair wythnos.

Mae'r gwaith gwella a moderneiddio arfaethedig yn cynnwys ail-lunio'r pwll nofio a'r neuadd ynghyd â chreu cyfleuster ffitrwydd newydd.

Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys troi rhan o'r adeilad yn faes chwaraeon 3G dan do ar gyfer pêl-droed pum bob ochr, hyfforddiant rygbi a Hwb Pêl-rwyd. Byddai angen cau'r pwll gweithgareddau cyfredol er mwyn hwyluso'r newidiadau sy'n cael eu cynnig yn y cynlluniau. Byddai modd i ragor o bobl ddefnyddio'r tri phwll arall yn yr ardal leol er mwyn cwrdd â'r galw.

Bydd y cyfnod ymgynghori o bedwar wythnos yn caniatáu i ddefnyddwyr Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach ddweud eu dweud ar y buddsoddiad arfaethedig.

Dweud eich dweud yma

Wedi ei bostio ar 06/10/2017