Skip to main content

Fideo newydd yn dod â chynllun ail-ddatblygu Dyffryn Taf yn fyw

Mae cais cynllunio llawn er mwyn ail-ddatblygu safle Dyffryn Taf sy'n garreg filltir enfawr ar gyfer y prosiect adfywio yng nghalon Pontypridd.

Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi fideo byr sy'n arddangos sut bydd y datblygiad yn edrych fel ar ôl iddo gael ei gwblhau yn 2019.

Prynodd yr Awdurdod Lleol safle Dyffryn Taf yn Ebrill 2015, yn dilyn nifer o geisiadau aflwyddiannus gan y sector preifat er mwyn adnewyddu'r ardal ble roedd canolfan siopa, The Precinct, arfer sefyll. Ers hynny, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi cynllun amlddefnydd sy'n canolbwyntio ar swyddi a fydd yn cael ei rhannu'n tri adeilad.

Daeth un o lwyddiannau mwyaf y cynllun ym mis Mawrth 2017 ble gyhoeddodd Ken Skates AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith, byddai'r adeiladau newydd yn gartref ar gyfer Trafnidiaeth Cymru. Bydd Llyfrgell newydd sy'n addas ar gyfer yr 21ain Ganrif, Canolfan IBobUn Pontypridd a chyfleuster ffitrwydd newydd yn symud i'r safle.

Ym mis Hydrefn 2016, rhoddwyd caniatâd cynllunio amlinellol i'r cynlluniau. Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd y Cyngor bod cwmni Willmot Dixon wedi cael ei ddewis fel contractwr i gwblhau'r cynllun. Bydd gwaith adeiladu'n dechrau yn gynnar yn 2018.

Dangosodd y fideo, sydd newydd gael ei gyhoeddi, sut byddai'r cynllun ailddatblygu yn edrych ar ôl iddo gael ei orffen. Mae hyn yn amodol ar dderbyn caniatâd cynllunio.

Dywedodd y Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o'r Cabinet ar faterion Menter, Datblygu, a Thai: "Mae gwaith ailddatblygu Dyffryn Taf yn flaenoriaeth fawr ar gyfer y Cyngor. Mae ganddo'r potensial i ddarparu buddiannau economaidd sylweddol i ardal Rhondda Cynon Taf a rhanbarth ehangach Cytundeb Dinas.

"Mae'r cyhoeddiad ynglŷn â'r ffaith y bydd y Cyngor yn ceisio am ganiatâd cynllunio llawn yn ystod y mis nesaf yn garreg filltir enfawr ar gyfer y cynllun. Yn dilyn y camau mawr diweddar, gan gynnwys dymchwel y safle a phenodi contractwr er mwyn cyflawni'r cynllun.

"Ar ben hyn, mae'r delweddau gweledol yn dod â'r cynllun yn fyw. Maen nhw'n ychwanegu at y teimlad o gyffro wrth i'r Cyngor cyflawni'r cynllun hir dymor yma ar safle strategol pwysig.

"Mae gwaith yn parhau tu ôl i'r lleni wrth i'r Cyngor gweithio'n agos â'r contractwyr cyn dechrau'r gwaith adeiladu yn gynnar yn 2018. Bydd y safle newydd yn creu swyddi ac yn trawsffurfio'r hyn sydd gan Bontypridd i gynnig yn fasnachol. Rydyn ni'n adeiladu ar y cyfleoedd a gynigwyd a Metro De Cymru a'r Cytundeb Dinas."

Bydd Pwyllgor Cynllunio a Datblygu'r Cyngor yn ystyried y cais cynllunio manwl ar gyfer y datblygiad newydd yma ddydd Iau, 7 Medi.

Wedi ei bostio ar 06/09/2017