Skip to main content

Haf Llawn Hwyl yn Lido Cenedlaethol Cymru

Mae Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, wedi croesawu mwy na 170,000 o ymwelwyr ers ei agor yn 2015. Daeth ei dymor diweddaraf i ben, a hoffen ni ddiolch i'n holl ymwelwyr a'n cefnogwyr. 

Daeth dros 970 o ymwelwyr yn ystod penwythnos olaf Tymor 2017, felly, cyfanswm yr ymwelwyr eleni yw 72,376. 

Roedd pobl o bob oed wrth eu boddau â'r Lido, atyniad dŵr awyr agored teuluol poblogaidd y Cyngor, unwaith eto. Dyma'r unig atyniad o'i fath yn y wlad. Daeth y tymor i ben yn swyddogol ddydd Sul, 10 Medi. 

Serch hynny, fe fydd yr Ystafell Gyfarfod a'r Ystafell Gynadledda yn Lido Cenedlaethol Cymru ar agor o hyd drwy gydol y flwyddyn. Hoffech chi logi'r Ystafell Gyfarfod? Croeso i chi ffonio 0300 004 0000. 

Roedd pob plentyn dan 16 oed yn cael nofio AM DDIM yn Lido Cenedlaethol Cymru yn ystod Tymor yr Haf. Dyna pam bu'r pyllau nofio mor boblogaidd, yn enwedig yn ystod gwyliau'r ysgol. 

Roedd cyfle i ymwelwyr fwynhau nofio lôn, nofio hamdden, a llu o weithgareddau dŵr eraill. Ymhlith y rhain bydd sgwteri dŵr, cychod padlo, a pheli cerdded dŵr. Mae'r Pwll Sblash ar gael i'r ymwelwyr iau. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o'r Cabinet ar faterion yr Amgylchedd a Hamdden: "Rydyn ni wedi mwynhau tymor gwych arall yn Lido Cenedlaethol Cymru. Mae bron 72,500 o ymwelwyr wedi galw heibio ers i ni agor y tymor hwn ar 8 Ebrill. 

“Rydyn ni mor falch i gael cyfleuster o'r fath yn Rhondda Cynon Taf Mae'n codi proffil Rhondda Cynon Taf, yn denu pobl o bob rhan o Gymru a'r tu hwnt, ac yn darparu hwb i'r economi leol hefyd.” 

Cofiwch 'hoffi' tudalen Lido Ponty ar Facebook a dilyn @LidoPonty ar Drydar am y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf.

Wedi ei bostio ar 12/09/2017