Ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf, a phobl Rhondda Cynon Taf, hoffwn fynegi ein tristwch mawr wrth glywed y newyddion am farwolaeth Ei Uchelder Brenhinol, y Tywysog Philip, Dug Caeredin. Anfonwn ein cydymdeimlad at Ei Mawrhydi, y Frenhines Elizabeth II a'r Teulu Brenhinol ar yr adeg hon.
Bu Ei Uchelder Brenhinol, Dug Caeredin fyw bywyd hir, gan weithio'n ddiwyd wrth wasanaethu'r cyhoedd, ac ymroi i'r Goron a'r Gymanwlad.
Ac yntau'n sylfaenydd Gwobr Dug Caeredin, cafodd effaith enfawr ar fywydau pobl ifainc ar draws y wlad, ac mae'n anochel y bydd tristwch dwys yn ein cymunedau, ar hyd y genedl, ac ar draws y Gymanwlad o ganlyniad i'w farwolaeth.
Bydd baneri ledled y Fwrdeistref Sirol wedi eu hanner gostwng yn ystod y cyfnod galaru swyddogol.
Bydd manylion pellach am drefniadau cydymdeimlad cyhoeddus yn cael eu rhyddhau cyn bo hir.
Y Cynghorydd Susan Morgans
Maer Rhondda Cynon Taf