Skip to main content

Cynllun Ffordd Osgoi arfaethedig Llanharan i'w weld ar fideo rhithiol

Llanharan bypass

Mae'r Cyngor wedi rhannu fideo rhithiol sy'n mynd â'r gwyliwr ar daith uwchben ac o amgylch Ffordd Osgoi arfaethedig Llanharan. Bydd y fideo yn rhan o ymgynghoriad cyhoeddus helaeth a fydd yn cychwyn yn y dyfodol agos.

Ym mis Mawrth 2021, rhannodd y Cyngor yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar y cynllun priffyrdd sylweddol, gan ddweud y byddai'n cynnal ymarfer ymgynghori Cais Cyn-Gynllunio yn ystod haf 2021. Bydd hyn yn sicrhau bod trigolion yn cael y cyfle i leisio'u barn. Bydd hyn yn ei dro yn cael ei ddefnyddio i lywio'r cais cynllunio. 

Bydd cynllun Ffordd Osgoi arfaethedig Llanharan yn adeiladu ffordd newydd i'r de o Lanharan, sydd wedi'i rhannu'n dair rhan. Mae rhan orllewinol y ffordd eisoes wedi'i hadeiladu oddi ar gylchfan Dragon Studios yn rhan o ddatblygiad Llanilid, tra bydd y rhan ganol yn cael ei hadeiladu gan ddatblygwr tai yn rhan o'u cynllun. 

Bydd y rhan ddwyreiniol 1.6km o'r ffordd, a llwybr teithio llesol, yn cael ei hadeiladu gan y Cyngor. Yn 2019, cytunodd y Cabinet y bydd y ffordd yn cwrdd â'r A473 i'r dwyrain o Orsaf Betrol Llanharan. Bydd y Cyngor hefyd yn ail-alinio Ffordd Llanhari i gysylltu â'r ffordd osgoi drwy'r gylchfan ar ben Ffordd Fenter, a bydd aliniad presennol Ffordd Llanhari yn cael ei ddefnyddio'n droedffordd/llwybr beicio.

Bydd troadau yn y ffordd ar yr A473 i'r gorllewin o Gylchfan Dragon Studios ('Cow Corner' i bobl leol) yn newid i fod yn ffordd fwy syth. Yn ogystal â hyn, bydd llwybr teithio llesol yn cael ei adeiladu i wella'r cysylltiadau cerdded a beicio rhwng Llanharan a Phen-coed. 

Cyn cynnal yr ymgynghoriad yn ystod yr haf, mae'r Cyngor bellach wedi cyhoeddi fideo rhithiol o'r cynigion. Gan gynnwys nodiadau esboniadol a throslais, mae'r fideo yn egluro sawl agwedd ar gynllun y ffordd newydd, fel y llwybrau teithio, Teithio Llesol ac ystyriaethau o ran cynaliadwyedd a draenio.

Mae'r fideo llawn ar gael i drigolion ar sianel YouTube y Cyngor 

Bydd y fideo, a gafodd ei greu ar y cyd ag ymgynghorwyr y Cyngor Redstart, yn rhan o becyn ymgynghori yr ymarfer ymgysylltu dros yr haf, pan fydd cyfle i drigolion rannu eu barn yn ffurfiol. 

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae Ffordd Osgoi Llanharan yn un o flaenoriaethau'r Cyngor o ran cynlluniau priffyrdd i'w cyflawni yn y dyfodol. Mae nifer o fanteision i'r Cynllun, fel lleihau amseroedd teithio lleol, llai o dagfeydd traffig yn Llanharan, Dolau a Bryn-cae, a gwella cysylltedd yn Ardal Cyfle Strategol Llanilid/yr M4, sydd wedi'i nodi'n lleoliad ar gyfer twf economaidd. 

Mae'r gwaith yn mynd rhagddo ar Ffordd Osgoi Llanharan, ynghyd â deuoli'r A4119 o Coed-elái i Ynysmaerdy, a Phorth Gogledd Cwm Cynon Gogledd yr A465. Cwblhaodd y Cyngor gyflwyniad cynllunio ar ei gyfer ddechrau mis Mawrth 2021.

“Mae’r daith rithiol uwchben ac o amgylch Ffordd Osgoi Llanharan y mae'r Cyngor wedi'i chyhoeddi heddiw yn debyg i fideo y llynedd ar gyfer Porth Gogledd Cwm Cynon yr A465. Roedd hyn yn ffordd effeithiol i gyfleu’r cynllun i drigolion. 

“Bydd aelodau’r cyhoedd yn gallu dweud eu dweud yn ffurfiol mewn ymgynghoriad Cais Cyn-Gynllunio yn ddiweddarach yr haf yma, a byddwn ni'n rhannu manylion pellach maes o law. Dyma fydd yr ail gyfle i drigolion ddweud eu dweud, yn dilyn ymarfer ymgysylltu ddechrau 2019 lle dangosodd 95% o ymatebion ysgrifenedig gefnogaeth i’r cynigion. ”

Wedi ei bostio ar 04/05/21