Mae Thomas Matthews o Rondda Cynon Taf yn cystadlu yng Ngemau Paralympaidd Tokyo, ac mae'r Maer yn anfon Neges o Ewyllys Da iddo o'i fro.
Bydd Thomas, 29 oed, o Gwm-bach, Aberdâr, yn cynrychioli tîm ParalympicsGB yn y gystadleuaeth tenis bwrdd, ar ôl chwarae ei gêm ryngwladol gyntaf ym Mhencampwriaeth Agored Hwngari yn 2013.
Bydd ei rieni balch, Mandy a David, yn dilyn Thomas, sydd wedi'i restru fel y 9fed chwaraewr gorau yn y byd, wrth iddo wireddu ei freuddwyd ym myd y campau yn Tokyo.
Meddai'r Cynghorydd Jill Bonetto, Maer Rhondda Cynon Taf: "Rwy'n dymuno'r gorau i Thomas ar ran pawb nôl adref, wrth iddo gynrychioli Prydain Fawr, Cymru a Rhondda Cynon Taf ym mhen draw'r byd yn Tokyo.
"Yn dilyn damwain drasig, newidiodd hynt bywyd Thomas yn llwyr. Ers hynny mae wedi teithio'r byd i gystadlu, a chymryd rhan yng Ngemau Paralympaidd Tokyo fydd uchafbwynt ei yrfa hyd yma.
"Byddwn ni'n dilyn ei daith â balchder ar ôl sawl blwyddyn o waith caled ac ymrwymiad, a dymunwn y gorau iddo wrth iddo gynrychioli tîm ParalympicsGB."
Roedd Thomas Matthews yn feiciwr mynydd addawol pan gwympodd wrth fynd allan i farchogaeth gyda'i ewythr a'i ffrind ym mis Mawrth 2009. Torrodd ei wddf a bu'n rhaid iddo ddibynnu ar gadair olwyn ac yntau'n 16 oed.
Roedd Thomas yn chwarae pob math o gampau cyn ei ddamwain, gan gynnwys pêl-droed a rygbi. Tra roedd yn derbyn triniaeth yn Ysbyty Rookwood, cafodd ei annog i roi cynnig ar denis bwrdd gan Jim Munkley o Chwaraeon Anabledd Cymru, a chwaraewr tenis bwrdd arall o RCT, Sara Head, a gynrychiolodd Cymru ddwywaith yng Ngemau'r Gymanwlad ac a enillodd fedal efydd yng Ngemau Paralympaidd Llundain yn 2012.
Unwaith iddo roi cynnig arni, gwelodd Thomas ei fod wrth ei fodd â thenis bwrdd a bod ganddo ddawn naturiol. Ar ôl gadael yr ysbyty, parhaodd i chwarae tenis bwrdd gyda charfan Cymru, ac ar ôl seibiant byr dychwelodd i'r garfan yn 2013.
Chwaraeodd Thomas ei gêm ryngwladol gyntaf yn Hwngari yn yr un flwyddyn a chafodd wahoddiad i ymuno â Charfan 'GB Pathway', a chystadlu yng Nghystadleuaeth Agored yr Unol Daleithiau, lle enillodd fedal arian ac efydd.
Wrth wella'i safle ymhlith chwaraewyr y byd, enillodd fedalau tîm yn 2014 yn Slofenia a Romania, ac enillodd fedal efydd yn y Gystadleuaeth Unigol yn Hwngari yn 2015. Hefyd, enillodd fedalau tîm yn yr Eidal, Slofenia, Slofacia a'r Almaen, gan gipio'r fedal aur i'w dîm yn yr Almaen trwy ennill y Gystadleuaeth Unigol 3-0.
Mae wedi enill llawer o fedalau yn rhagor ym Mhencampwriaeth Ewrop yn Nenmarc, Copa Costa Rica, Cystadleuaeth Unigol i ddynion yn yr Eidal a Chystadleuaeth Agored yr Unol Daleithiau yn Nenmarc.
Yn 2017, symudodd Thomas o Garfan 'GB Pathway' i'r Garfan Perfformiad, yn bartner i'w gyd Gymro Paul Davies. Enillon nhw fedal efydd ym Mhencampwriaethau Tîm y Byd yn Slofacia. Y flwyddyn ganlynol cipiodd fedal aur ym Mhencampwriaeth Agored yr Eidal a medal efydd ym Mhencampwriaethau'r Byd ar ei ymgais gyntaf.
Mae Gemau Paralympaidd Tokyo yn cael eu cynnal rhwng 24 Awst a 5 Medi.
Wedi ei bostio ar 24/08/21