Skip to main content

Dathliadau TGAU ledled Rhondda Cynon Taf

GCSE-2021-WELSH

Mae disgyblion ledled Rhondda Cynon Taf wedi derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw (Dydd Iau 12 Awst) wedi blwyddyn anodd arall i faes addysg.

Mae hi felly'n bwysig llongyfarch pob un disgybl heddiw ar eu hymdrechion a'u cyflawniadau academaidd, ac am y cydnerthedd y maent wedi'i ddangos trwy gydol y pandemig. Dylai ein hysgolion hefyd deimlo'n hynod falch o gyflawniadau eu disgyblion.

Mae ein disgyblion ynghyd ag arweinwyr ysgolion a staff wedi dangos gwytnwch aruthrol yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf ac mae derbyn eu graddau heddiw yn dyst i'w dyfalbarhad a'u gwaith caled.

Eleni, cafodd cymwysterau disgyblion sydd fel arfer yn sefyll eu harholiadau TGAU eu dyfarnu gyda graddau a bennir gan ganolfan, model sydd wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn golygu bod y graddau wedi'u dyfarnu gan ysgol neu goleg y disgybl, a hynny yn seiliedig ar asesiad o waith y disgybl. 

Defnyddiodd ysgolion a cholegau ystod o dystiolaeth i bennu'r graddau i'w dyfarnu i'w disgyblion, gan gynnwys elfennau Asesu Heb Arholiad, ffug-arholiadau a gwaith dosbarth. Yn ogystal â hynny, fe wnaeth CBAC gynnig cyfres o gyn-bapurau wedi'u haddasu, i alluogi ysgolion i barhau i asesu dysgu o fewn eu cynlluniau addysgu, a wnaeth ddarparu cefnogaeth ychwanegol i athrawon a disgyblion.

Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant

“Mae heddiw yn ddiwrnod i’n holl ddisgyblion ac athrawon ymfalchïo yn eu gwaith caled a’u cyflawniadau yn ystod blwyddyn academaidd heriol arall.

“Unwaith eto, mae'r Cyngor yn cydnabod ac yn dathlu'r canlyniadau llwyddiannus a gyflawnwyd gan ein disgyblion ledled Rhondda Cynon Taf a'u haddysgwyr a dyma ddymuno llongyfarchiadau mawr iawn i bob un ohonyn nhw.

“Yn union fel y canlyniadau Safon Uwch, a gyhoeddwyd yn gynharach yr wythnos yma, mae hi'n ddiwrnod canlyniadau TGAU gwahanol iawn i'r arfer eleni ar draws yr awdurdod lleol, y rhanbarth a'r genedl. Mae gen i'r parch a'r edmygedd mwyaf tuag at bob un o'n disgyblion a dymunaf yn dda iddyn nhw wrth iddyn nhw barhau â'u haddysg neu'r llwybr gyrfa o'u dewis. "

Wedi ei bostio ar 12/08/2021