Skip to main content

Cysylltu ein Cyn-filwyr

Four people standing together holding laptop

Mae'r Cyngor yn parhau i feithrin ei berthynas barhaus â chymuned y Lluoedd Arfog trwy sicrhau bod gliniaduron ar gael i gyn-filwyr i'w galluogi i gael mynediad at wasanaethau hanfodol a chadw mewn cysylltiad â'i gilydd.

Mae Cynllun Cysylltu Cyn-filwyr y Cyngor yn enghraifft bellach o ymrwymiad yr awdurdod lleol i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog. Cyngor RhCT fu un o'r cyntaf yng Nghymru i ymuno â Chyfamod y Lluoedd Arfog yn 2012, ac fe wnaeth y Cyngor gadarnhau'i ymrwymiad eto yn 2018.

Dros y blynyddoedd diweddar, mae'r Cyngor hefyd wedi rhoi Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol i'r Gwarchodlu Cymreig a'r Weinyddiaeth Amddiffyn Sain Tathan, a holl bersonél Yr Awyrlu Brenhinol, o'r gorffennol i'r presennol. 

Yn rhan o gyllid arbennig, cafodd nifer o liniaduron eu cyflwyno'n swyddogol i grŵp Valley Veterans gan y Cynghorydd Maureen Weaver, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar ran y Cyngor. Mae Valley Veterans yn cyfarfod bob dydd Iau yng Nghanolfan Cymuned Ton a'r Gelli.

Prynodd y Cyngor, ar y cyd â Chyngor Bro Morgannwg, 80 gliniadur hybrid ar ôl cais llwyddiannus am gyllid gan Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog: Rhaglen 'Force For Change'. Mae'r gliniaduron wedi'u darparu gan Centerprise.

MeddaiDirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf a Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Maureen Webber: “Bydd y Cynllun Cysylltu Cyn-filwyr yn caniatáu i’n cyn-filwyr gadw mewn cysylltiad â’u teulu a’u ffrindiau, gan gynnal cysylltiadau cymdeithasol trwy dechnoleg ddigidol, gyda’r nod o wella eu lles trwy leihau arwahanrwydd cymdeithasol.

“Mae cymaint o ddyled arnom ni i’n cyn-filwyr a byddwn ni byth yn anghofio eu gwasanaeth dros y wlad. Hoffwn ddiolch i Centerprise am y gliniaduron. Bydd y rhain yn gwneud byd o wahaniaeth i fywydau'r cyn-filwyr.”

Mae Ymddiriedolaeth Cronfa Cyfamod y Lluoedd Arfog yn cefnogi Cyfamod y Lluoedd Arfog trwy ddarparu rhaglenni cyllid sy'n creu newid gwirioneddol i gymunedau'r Lluoedd Arfog ledled y DU.

Bydd y gliniaduron arbennig yn helpu cyn-filwyr y Lluoedd Arfog i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau a hefyd yn eu galluogi i gael mynediad at wasanaethau cymorth ar-lein. Mae modd i aelodau o grwpiau cyn-filwyr lleol, gan gynnwys Valley Veterans, Tonpentre a Taf-elái, Rhydyfelen, a Chwm Cynon, benthyg gliniadur ar unrhyw adeg, am ddim, trwy Wasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn cynnig ystod eang o gymorth am faterion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD), Tai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Budd-daliadau, Cyllid a Chyflogaeth.

Trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM, caiff cyn aelodau o'r Lluoedd Arfog siarad â swyddogion penodol yn gyfrinachol. Mae Jamie Ireland, Swyddog Cyngor i Gyn-filwyr newydd y Cyngor, hefyd yn mynd yn rheolaidd i gyfarfodydd Valley Veterans.

Cymuned y Lluoedd Arfog, Ddoe a Heddiw: Cymorth sydd ar gael

Mae'r 80 gliniadur hybrid Samsung wedi'u darparu gan Centerprise, sydd wedi gweithio'n galed i ddiwallu anghenion a disgwyliadau ei gwsmeriaid ers 30 mlynedd.

Cafodd ei sefydlu yn 1983 ac mae gan y cwmni, sydd â swyddfeydd yn ne Cymru, enw da fel un o ddarparwyr TG mwyaf uchel ei barch yn y DU gyda phresenoldeb cryf yn Sector Cyhoeddus y DU a phresenoldeb cynyddol yn y sector preifat.  Yn ogystal, mae Centerprise wedi bod yn gyflenwr dibynadwy i'r Weinyddiaeth Amddiffyn am fwy na thri degawd.

Dywedodd llefarydd ar ran Centerprise: “Rydyn ni'n ddiolchgar am y bartneriaeth rydyn ni wedi'i chreu gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a gyda nifer o gyn-filwyr yn gweithio gyda'n cwmni, gan gynnwys ein Prif Swyddog Gweithredol, Jeremy Nash, rydyn ni'n falch o weithio gyda'r awdurdod lleol i gefnogi cyn-filwyr RCT.”

Mae modd i'r cyn-filwyr fenthyg gliniaduron am ddim ar unrhyw adeg trwy gysylltu â Charfan Lluoedd Arfog y Cyngor ar 07747 485 619 neu drwy e-bost: GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk

Wedi ei bostio ar 23/08/2021