Abigail Lewis-Savage and Kristie Lewis
Mae'r Cyngor wedi helpu busnes yn Aberpennar, Abigail Lewis Photography, i fanteisio ar gyllid Llywodraeth Cymru a thrawsnewid adeilad gwag yn stiwdio bwrpasol, gan ganiatáu iddi fynd o nerth i nerth eleni.
Mae'r busnes canol y dref, sydd dan berchnogaeth y chwiorydd Abigail Lewis-Savage a Kristie Lewis, yn arbenigo mewn ffotograffiaeth mamolaeth, babis newydd a'r blynyddoedd cynnar. Yn flaenorol roedden nhw'n rhentu adeilad yn lleol, ond doedd yr eiddo ddim yn diwallu anghenion eu busnes. I ddechrau, cysylltodd Abigail a Kristie â'r Swyddog ardal lleol yng ngharfan Canol Trefi'r Cyngor. Wrth weithio gyda'r adran Adfywio ehangach, roedd modd i'r Swyddog helpu i nodi cyfleoedd cyllido priodol ar gyfer y busnes.
Helpodd Swyddogion y Cyngor y busnes i sicrhau benthyciad Banc Datblygu Cymru i brynu eu hadeilad newydd ar Stryd Rhydychen, sy'n hen siop fetio, ynghyd â sicrhau grant Cronfa Gwella Eiddo'r Ganolfan Drefol gwerth mwy na £170,000 gan Lywodraeth Cymru, i drawsnewid yr adeilad gwag. Dechreuodd y gwaith ar y safle yn ystod mis Chwefror 2021, ac roedd modd i Abigail a Kristie groesawu cwsmeriaid i'w hadeilad newydd ddeufis yn ddiweddarach.
Mae'r gwaith wedi golygu bod mwy o le i'r stiwdio. Mae'r ardal wylio bellach ar wahân fel bod modd cael mwy nag un cwsmer ar y tro. Mae hyn yn golygu cyfleoedd ychwanegol i greu incwm. Yn flaenorol roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael ond mae bellach wedi cael ei adnewyddu, gan wella golwg gyffredinol y dref hefyd.
Meddai Abigail Lewis-Savage: “Roedden ni'n rhentu eiddo o’r blaen, ond nid dyna oedden ni ei eisiau mewn gwirionedd. Felly, cysyllton ni â Swyddog Canol Trefi'r Cyngor ar gyfer Aberpennar, a aeth ati i'n cyflwyno ni i gydweithwyr yn yr adran Adfywio. Yna cawson ni gyfarfod a chafodd ei egluro bod cymorth ar gael i adfywio eiddo gwag ar y stryd fawr.
“Roedd hyn yn berffaith i ni. Roedd angen adeilad arbenigol arnon ni, a'r gallu i ddylunio rhywbeth ein hunain. Daethon ni o hyd i adeilad ar yr un stryd – dydyn ni ddim wedi symud yn bell o gwbl! Dechreuodd y broses yng ngwanwyn 2020 ar ddechrau'r pandemig a dechreuodd y gwaith go iawn ym mis Chwefror 2021.”
Ychwanegodd Abigail y byddai'n argymell y cymorth mae'r Cyngor wedi'i gynnig drwy gydol y prosiect, ac y byddai'n annog busnesau eraill i ddod i wybod am y cyfleoedd cyllid grant sydd ar gael iddyn nhw.
Meddai: “Gofynnwch a chwi a gewch! Roedd yn waith caled iawn, ond roedd yn bendant werth e. Fydden ni erioed wedi gallu gwneud hyn heb help y Cyngor. Mae wedi bod yn anhygoel ers i ni allu agor yn yr adeilad newydd – rydyn ni wedi mynd o nerth i nerth. Rydyn ni hyd yn oed wedi ennill gwobrau Aur ac Efydd am ffotograffiaeth mamolaeth yng Ngwobrau Glow.”
Cymerodd Abigail a Kristie ran hefyd yn ymgyrch Siopa'n Lleol ddiweddaraf y Cyngor a gafodd ei lansio ym mis Ebrill 2021, wrth i lacio cyfyngiadau'r Coronafeirws ganiatáu i siopau manwerthu nad oedd yn hanfodol ailagor yn dilyn cyfnod clo'r gaeaf.
Ychwanegodd Abigail: “Rydyn ni bendant yn cytuno â neges Siopa'n Lleol, ac yn annog pob un o'n cwsmeriaid i siopa yn y dref, sef beth rydyn ni'n ei wneud ein hunain. Mae'n bwysig helpu pawb sy'n masnachu yn y dref. Mae'n ymwneud â chyfrannu i'r economi leol, fel bod modd i'r gymuned gyfan elwa.”
Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Rwy’n falch iawn bod modd i'r Cyngor helpu Abigail Lewis Photography i fanteisio ar y cyllid sylweddol yma gan Fanc Datblygu Cymru a Chronfa Gwella Eiddo’r Ganolfan Drefol. Mae'r prosiect wedi bod yn llawn manteision – o ddod ag eiddo gwag yn ôl yn fyw, i gael effaith gadarnhaol ar ganol y dref a helpu perchnogion busnes gweithgar, lleol i wireddu'u gweledigaeth a'u breuddwydion.
“Mae adran Adfywio’r Cyngor yn gwneud gwaith amhrisiadwy i helpu busnesau lleol a rhoi gwybod iddyn nhw am y cyfleoedd cyllido sydd ar gael. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi helpu 69 o fusnesau lleol o bob rhan o Rondda Cynon Taf i ddatblygu mannau awyr agored i gynyddu eu gallu i fasnachu, a hynny drwy grantiau adfer COVID Llywodraeth Cymru rhaglen Trawsnewid Trefi a Thasglu'r Cymoedd.
“Mae gwaith pwysig hefyd yn mynd rhagddo i wella canol ein trefi. Yn ddiweddar, cafodd Wi-Fi am ddim ei osod yn Nhonypandy, sy'n golygu bod chwech o'n saith prif ganol tref bellach yn cynnig hyn, gyda'r seithfed, Pontypridd, i ddod yn fuan. Rydyn ni hefyd yn parhau â chynlluniau pwysig fel y Grant Cynnal Canol Trefi, gan helpu landlordiaid a pherchnogion busnes i wella blaen eu heiddo.
“Hoffwn i longyfarch Abigail Lewis Photography am gwblhau eu cynllun ailddatblygu yng nghanol tref Aberpennar, ac am y cynnydd rhagorol y mae’r busnes wedi’i wneud yn ei gartref newydd.”
Eisiau cyngor a chymorth ar gyfer eich busnes? E-bostiwch adfywio@rctcbc.gov.uk i ddysgu sut gall y garfan eich helpu chi.
Wedi ei bostio ar 23/08/2021