Mae'r Cyngor wedi rhannu'r newyddion diweddaraf ynghylch adeiladu 20 uned fasnachol fodern yn Nhresalem. Mae modd i'r Cyngor gadarnhau'i fod eisoes wedi derbyn sawl ymholiad gan nifer o denantiaid posibl.
Mae'r unedau busnes, sy'n cael eu hadeiladu ar dir heb ei ddefnyddio oddi ar Stryd Wellington, yn cael eu cyflawni ar ôl i'r Cyngor sicrhau cyllid gwerth £3.36miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Cafodd y safle ei glirio yn gynnar yn 2020, er mwyn i'r contractwr, R&M Williams ddechrau'r cam adeiladu yn hwyrach yn y flwyddyn.
Mae'r cyfnod adeiladu yn parhau i wneud cynnydd amlwg - mae modd i drigolion ac ymwelwyr weld y cynnydd sydd wedi'i wneud ar yr adeiladau ar y safle datblygu. Mae'r gwaith dur strwythurol wedi'i gwblhau ac mae gwaith gosod y llawr wedi'i gwblhau.
Mae'r rhan fwyaf o'r gwaith to hefyd wedi'i gwblhau. Mae gwaith adeiladu'r waliau allanol a mewnol eisoes wedi dechrau Mae gwaith cladin hefyd wedi cychwyn ar sawl adeilad yn ddiweddar.
Dywedodd y Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu, a Thai: “Rwy’n falch bod gwaith datblygu'r unedau modern yn Nhresalem yn parhau i wneud cynnydd, wrth i'r Cyngor gyflawni twf economaidd cynaliadwy a swyddi newydd yn lleol - gan sicrhau bod safle cyflogaeth allweddol yn cael ei ddefnyddio, fel sydd wedi'i amlinellu yn y Cynllun Datblygu Lleol.
“Mae'r diweddariad yma'n dilyn y cyhoeddiad diweddar a oedd yn nodi bod y Cyngor wedi sicrhau tenant ar gyfer ei uned busnes newydd sbon ym Mharc Coed-Elái yn ardal Coed-Elái. Cafodd yr adeilad ei gwblhau ym mis Ionawr 2021. Dyma adeilad sydd wedi elwa o gyllid sylweddol gwerth £2.58miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, gyda'r Cyngor yn arwain ar gynllun cyd-fenter gyda Llywodraeth Cymru ar gyfer y prosiect hwnnw.
“Mae hefyd yn newyddion cadarnhaol iawn bod y Cyngor wedi clywed gan nifer o ddarpar denantiaid sydd wedi mynegi diddordeb yn yr unedau yn Nhresalem, gan bwysleisio i ni fod galw am unedau busnes yn lleol. Mae'r datblygiad yma'n cynnwys 20 uned, a byddai modd i'r Cyngor gynnig lle i un tenant neu sawl tenant ar y safle - gan ddibynnu ar y galw.
“Bydd y Cyngor yn darparu diweddariad pellach ar y datblygiad yn Nhresalem wrth i gamau gwaith pellach gael eu cwblhau ar y safle. Hoffwn ddiolch i drigolion lleol am eu cydweithrediad parhaus wrth i'r datblygiad symud tuag at y camau nesaf. "
Dylid anfon pob ymholiad ynglŷn â'r unedau at JLL, sef yr asiant sydd wedi'i benodi gan y Cyngor, drwy ffonio 029 2022 7666 neu e-bostio Kate.Openshaw@eu.jll.com.
Wedi ei bostio ar 19/08/2021