Mae'r Cyngor yn falch o gyhoeddi bod siop Vision Mobility ym Mhont-y-clun wedi ailagor yn dilyn llacio cyfyngiadau COVID-19 Llywodraeth Cymru.
Mae staff wedi bod yn gweithio'n galed i ailagor y siop yn ddiogel gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith. Mae modd i ymwelwyr fynd i'r siop a chwrdd â'r staff a gweld yr ystod eang o nwyddau symudedd sydd ar gael. Does dim angen trefnu apwyntiad ymlaen llaw.
Meddai'rCynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o Gabinet Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau i Oedolion a'r Gymraeg: “Mae ailagor siop Vision Mobility yn gam mawr ymlaen wrth i'r Fwrdeistref Sirol a Chymru gyfan barhau i addasu i ffordd newydd o fyw.
“Mae bob amser wedi bod yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor yma roi cyfleoedd i'w drigolion fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain cyhyd ag y bo modd, a hynny'n aml gyda chymorth proffesiynol ein carfanau Gwasanaethau Cymuned.
“Mae siop Vision Mobility yn gwerthu eitemau megis sgwteri symudedd, cymhorthion yr ystafell ymolchi a cherdded, gwelyau arbenigol a llawer yn rhagor er mwyn i bobl fyw gartref.”
Mae siop Vision Mobility ym Mhont-y-clun ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 4pm. Os yw'n well gyda chi drefnu apwyntiad ymlaen llaw, archebu nwyddau neu'u trafod, ffoniwch 01443 229988.
Rhagor o wybodaeth am Vision Mobility, gan gynnwys dolenni i'r catalog ar-lein
Wedi ei bostio ar 25/08/21