Mae Grŵp Cyn-filwyr Lluoedd Arfog Taf-elái, gyda chefnogaeth y Cyngor, yn dathlu ei Nadolig cyntaf ynghyd â Chlwb Brecwast Nadolig arbennig.
Bu staff y gegin yng Nghanolfan y Gymuned, Rhydfelen yn gweini brecwast llawn i'r holl gyn-filwyr a fynychodd, a llawer ohonyn nhw'n gwisgo hetiau Siôn Corn a'u hoff siwmperi Nadolig.
Diolch i gyllid gan Interlink RhCT, cyflwynwyd pecynnau hamper Nadolig arbennig i bob cyn-filwr yn y grŵp. Cafodd pawb amser gwych yn cymdeithasu ac yn dathlu hwyl yr ŵyl gyda ffrindiau ac unigolion o’r un anian.
Mae Grŵp Cyn-filwyr Lluoedd Arfog Taf-elái yn cynnal Clybiau Brecwast Lluoedd Arfog yno'n gyson, gan roi cyfle i gyn-filwyr o bob oed ddod ynghyd gyda chefnogaeth Gwasanaeth Cyn-filwyr y Lluoedd Arfog y Cyngor.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ac aelod o Grŵp Cymuned Rhydfelen: “Mae'r Nadolig yn gyfle inni gyd wneud popeth o fewn ein gallu i helpu eraill, felly pa amser gwell i gael ychydig o hwyl yr ŵyl i gyn-filwyr y Lluoedd Arfog, a llawer ohonyn nhw'n byw ar eu pennau eu hunain neu i ffwrdd o’u teuluoedd.
“Rwy’n falch iawn bod cymaint o bobl yn mynychu Grŵp Taf-elái yn rheolaidd, gan ffurfio cyfeillgarwch newydd ac aduno gyda hen ffrindiau a chymrodyr. Mae ein dyled ni'n fawr i'r bobl yma.
“Mae hefyd yn amser i fyfyrio a chofio’r rhai a wnaeth yr aberth eithaf yn ystod rhyfel ac yn anffodus, na ddychwelodd adref at eu hanwyliaid. Byddan nhw am byth yn ein calonnau.
“Mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi cyn-filwyr y Lluoedd Arfog drwy'r flwyddyn, a hoffwn i ddiolch i Interlink RhCT am eu rhodd hael a olygai bod modd cyflwyno pecynnau hamper Nadolig i'n cyn-filwyr. Rwy'n dymuno Nadolig Hapus a Diogel iawn iddyn nhw i gyd."
Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog
Mae'r Gwasanaeth i Gyn-filwyr yn cynnig cymorth ac arweiniad cyfrinachol drwy'r flwyddyn i gyn-filwyr sy'n byw yn y Fwrdeistref Sirol a'u teuluoedd. Mae'r grŵp yn cynnig ystod eang o gymorth am faterion megis Anhwylder Straen Wedi Trawma, Tai, Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Budd-daliadau, Cyllid a Chyflogaeth.
Trwy ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth diduedd ac ymroddgar AM DDIM, caiff aelodau o'r Lluoedd Arfog, ddoe a heddiw, siarad â swyddogion penodol yn gyfrinachol. Ffoniwch 07747 485 619 neu anfon e-bost i GwasanaethiGynfilwyr@rctcbc.gov.uk.
Mae Grŵp Cyn-filwyr Taf-Elái yn cwrdd yng Nghanolfan y Gymuned, Rhydfelen bob ail ddydd Mercher bob mis, ac mae croeso i gyn-filwyr o bob oed ddod i Glwb Brecwast y Lluoedd Arfog. Does dim rhaid cadw lle ymlaen llaw. Am ragor o wybodaeth, anfonwch neges at 'Taff Ely Veterans Group' ar Facebook neu ffonio 0774 748 5619.
Wedi ei bostio ar 16/12/2021