Skip to main content

Gwaith disodli pont droed Stryd y Nant i ddechrau yn y Flwyddyn Newydd

Brook Street footbridge, Ystrad Rhondda Railway Station

Mae'r Cyngor wedi rhoi'r diweddaraf ar ei waith i ddisodli pont droed Stryd y Nant yng Ngorsaf Reilffordd Ystrad Rhondda – dylai'r gwaith ddechrau ar y safle yn ystod wythnos gyntaf Ionawr 2022.

Mae'r bont, sydd wedi cyrraedd diwedd ei hoes, yn rhoi mynediad sy'n cael ei ddefnyddio'n aml gan gerddwyr o Ystrad i Heol Nant-y-gwyddon. Dyma'r unig fynediad sydd â ramp i blatfform gogleddol yr orsaf reilffordd. Mae'r cynllun i ddymchwel ac ailosod y strwythur wedi'i gwblhau, ac mae'n cynnwys darparu ffordd gyswllt i'r llwybr teithio llesol ar hyd y cwm.

Mae'r cynllun yn cael ei ariannu ar y cyd gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru. Mae'r gwaith ar y safle'n heriol gan fod rhaid iddo gael ei gynnal law yn llaw â gwaith gweithredu dydd-i-ddydd yr orsaf reilffordd a'r rheilffordd fyw, ac mae rhaid hefyd gynnal gwaith uwchlaw afon.

Mae'r Cyngor bellach wedi cadarnhau bod gwaith i fod i ddechrau ar y safle yn y Flwyddyn Newydd, ac mae cwmni Alun Griffiths (Contractors) Ltd wedi'i benodi'n gontractwr y cynllun. Cyn bo hir, bydd y contractwr yn ysgrifennu at drigolion lleol i rannu rhagor o fanylion am ei waith ar y safle, a'r amserlenni disgwyliedig ar gyfer y gwaith.

Os bydd randdeiliaid yn cytuno, bydd y gwaith yn dechrau ddydd Mawrth, 4 Ionawr (2022). Bydd y gwaith ar y safle sy'n cychwyn yn ystod wythnos gyntaf y Flwyddyn Newydd yn cynnwys clirio llystyfiant, er mwyn creu mynediad i'r prif waith. Bydd rhan yma'r gwaith yn canolbwyntio ar ardal Ystâd Ddiwydiannol Gelli.

Bydd y prif waith yn dechrau ym mis Chwefror, yn dilyn clirio'r llystyfiant. Bydd y gwaith yn cynnwys tynnu grisiau er mwyn cael lle i adeiladu ramp newydd yn arwain at y platfform gogleddol. Bydd y gwaith yma'n para tua deufis, a bydd yn annibynnol o'r bont a'r rampiau presennol.

Dyma roi gwybod i breswylwyr a chymudwyr fydd ffyrdd lleol ddim yn cau yn sgil y cynllun yma, a fydd mynediad i'r bont bresennol a'r orsaf reilffordd ddim yn cael ei effeithio tan o leiaf Ebrill 2022.

Bydd y Cyngor yn rhoi newyddion pellach cyn i'r gwaith mwy aflonyddgar ddechrau ym mis Ebrill. I ddechrau, bydd y gwaith yn cynnwys datgymalu'r bont bresennol, a bydd gwasanaeth bws mini lleol yn cael ei gynnwys yn y trefniadau.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae disodli pont droed Stryd y Nant wedi bod yn ddyhead i’r Cyngor ers amser maith, a'r bont yn nesáu at ddiwedd ei hoes. Mae dymchwel y strwythur ac adeiladu pont newydd yn gynllun cymhleth. Mae rhaid ystyried gwaith gweithredu'r orsaf reilffordd gerllaw, yr angen am fynediad parhaus a'r ffaith bod yno afon, i enwi ond ychydig o ffactorau.

“Bydd y Cyngor yn gweithio’n agos gyda’i gontractwr i gyflawni’r cynllun mor effeithlon â phosibl, a chyn bo hir bydd preswylwyr sy’n byw gerllaw yn derbyn llythyr gan y contractwr yn egluro’r gwaith yn fwy manwl. Er y bydd preswylwyr yn sylwi bod gwaith yn cychwyn yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd, fydd y prif waith ddim yn cychwyn tan o leiaf Ebrill 2022, a bydd ymgysylltu â'r gymuned a defnyddwyr y rheilffyrdd yn flaenoriaeth i'n contractwr.

“Mae'r Cyngor yn parhau i ymrwymo i gynnal a chadw a diogelu strwythurau ledled y Fwrdeistref Sirol megis pontydd, yn enwedig y rhai sy'n cael eu defnyddio'n aml. Y mis yma, cafodd ein gwaith diweddar mawr i Bont St Alban (Blaenrhondda) a phont droed M&S (Pontypridd) ei gydnabod gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil am ragoriaeth mewn ymgysylltu â'r cyhoedd a deilliant y gwaith, ac rydyn ni wedi ymrwymo i barhau â'r safon uchel yma ar gyfer cynllun Stryd y Nant.”

Wedi ei bostio ar 13/12/21