Mae'r Cyngor yn falch iawn o gadarnhau y bydd y Sesiwn Nofio Dydd Calan cyntaf erioed yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn, Ionawr 1.
Roedd tymor 2021 yn llwyddiant anhygoel i'r Lido, gyda dros 98,500 o ymwelwyr - y tymor prysuraf ers ailagor y Lido yn 2015, er gwaethaf y cyfyngiadau ar nifer yr ymwelwyr oherwydd pandemig COVID-19.
Yn gynharach y mis yma, cyhoeddodd y Cyngor y byddai'r Sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan hynod boblogaidd yn dychwelyd, ac aeth y tocynnau i gyd o fewn munudau o'u rhoi ar werth. Er mwyn rhoi cyfle arall i breswylwyr gael cyfle i nofio dros gyfnod yr ŵyl, bydd y Cyngor yn cynnal y Sesiwn Nofio Dydd Calan cyntaf.
Pris y tocynnau ar gyfer y digwyddiad yw £3.50 (am ddim i rai 5 oed ac iau) ond, yn wahanol i'r Sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan, fydd dim lluniaeth i'w phrynu ar y safle, er bod croeso i ymwelwyr ddod â diod gyda nhw ar gyfer pan fyddan nhw'n gadael y cyfleuster.
Caiff diweddariad pellach ar ryddhau tocynnau ei gyhoeddi gan y Cyngor yn fuan.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Rwy’n falch o allu cadarnhau y bydd y Sesiwn Nofio Dydd Calan cyntaf un yn cael ei gynnal yn Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty.
“Mae tymor 2021 wedi profi i fod yn llwyddiant ysgubol, gyda dros 98,500 o bobl yn ymweld â'r cyfleuster, er gwaethaf y cyfyngiadau iechyd cyhoeddus i gyfyngu ar ymlediad COVID-19. Mae'n wych gweld cymaint yn cefnogi'r Lido ar ôl y difrod sylweddol a ddigwyddodd yn ystod Storm Dennis.
“Hoffwn unwaith eto ddiolch i'r holl staff sydd wedi cytuno i weithio ar Ŵyl San Steffan a Dydd Calan, ac am eu holl waith caled trwy gydol y flwyddyn wrth sicrhau bod y rhai a ddaeth yn mwynhau'r cyfleusterau gwych mewn ffordd ddiogel. ”
Wedi ei bostio ar 15/12/2021