Skip to main content

Gwaith dymchwel hen adeiladau cartrefi gofal yn y Porth bellach wedi'i gwblhau

The former Dan y Mynydd Care Home buildings in Porth have been demolished

Mae'r holl waith i ddymchwel hen adeiladau Cartref Gofal Dan y Mynydd yn y Porth bellach wedi'i gwblhau. Diben y gwaith yw sicrhau bod modd cynnal gwaith ailddatblygu posibl ar y safle yn y dyfodol, a'i droi'n gyfleuster Gofal Ychwanegol 60 gwely gan Linc Cymru (Linc) a'r Cyngor.

Dechreuodd y gwaith dymchwel ddechrau Medi 2021, er mwyn cael gwared ar adeiladau'r hen gartref gofal oddi ar Rodfa Bronwydd. Derbyniodd Linc ganiatâd cynllunio ar gyfer y gwaith dymchwel ym mis Mai 2021, a phenododd Bond Demolition Ltd yn gontractwr cyfrifol am gyflawni'r cynllun.

Mae cyfleusterau Gofal Ychwanegol yn darparu llety modern â chymorth 24 awr ar gyfer anghenion sydd wedi’u hasesu pobl hŷn, gan roi'r modd iddyn nhw fyw mor annibynnol â phosibl. Mewn partneriaeth â Linc, bydd y Cyngor yn darparu 300 o leoedd ar draws pum datblygiad newydd - ar ben y cyfleuster Tŷ Heulog presennol yn Nhonysguboriau.

Gan nad oes neb wedi defnyddio safle Dan y Mynydd ers cryn amser, cytunodd y Cabinet (ym mis Rhagfyr 2020) i adeiladu un o'r cynlluniau Gofal Ychwanegol newydd ar safle'r cartref gofal yn y Porth. Yn rhan o strategaeth i foderneiddio opsiynau gofal preswyl i bobl hŷn, hwn fyddai'r trydydd cyfleuster newydd i gael ei adeiladu hyd yn hyn, yn dilyn Maes-y-Ffynnon (Aberaman) a Chwrt yr Orsaf (Pontypridd).

Ym mis Awst, rhoddodd Linc gyfle i'r gymuned ddweud eu dweud ar y cynlluniau cychwynnol, er mwyn llywio cais cynllunio terfynol. Cyflwynodd Linc y cais ar gyfer 60 o fflatiau a gwaith cysylltiedig gan gynnwys tirlunio, draenio cynaliadwy, mynediad a pharcio ym mis Medi. Bydd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn ystyried y cais yma mewn cyfarfod yn y dyfodol.

Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am Wasanaethau i Oedolion: “Â gwaith dymchwel hen adeiladau Cartref Gofal Dan y Mynydd wedi'i gwblhau, mae’r Cyngor a Linc Cymru wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig ddiweddaraf tuag at ddarparu cynllun Gofal Ychwanegol newydd arfaethedig yn y Porth. Mae’r gwaith sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi paratoi'r tir i'w ailddatblygu yn y dyfodol, a hoffwn ddiolch i'r gymuned am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith ar y safle.

“Rydyn ni wedi gweld y gwahaniaeth y mae cyfleusterau Gofal Ychwanegol yn ei wneud i’r preswylwyr, gan gynnig cyfleoedd i ymgysylltu â’r gymuned, a sicrhau bod modd iddyn nhw ddibynnu ar gefnogaeth barhaus ar gyfer eu hanghenion sydd wedi'u hasesu. Mae Maes-y-Ffynnon yn Aberaman wedi bod yn ychwanegiad rhagorol i'r gymuned ers iddo gael ei adeiladu yr haf diwethaf, ac yn ddiweddar, rwy' wedi cael y pleser o ymweld â rhai o'r preswylwyr cyntaf a symudodd i mewn i Gwrt yr Orsaf ym Mhontypridd.

“Bydd y Cyngor a’i bartner Linc yn parhau i weithio’n agos er mwyn cyrraedd ein nod i foderneiddio ein darpariaeth gofal preswyl ar gyfer pobl hŷn, gan gynnwys y datblygiad mawr nesaf arfaethedig ar gyfer y Porth. Mae Linc wedi cyflwyno’r cais cynllunio ar gyfer y cynnig, a bydd y cais yn cael ei ystyried yn ffurfiol maes o law.”

Dywedodd Richard Hallett, Rheolwr Datblygu Linc: “Mae dymchwel hen Gartref Gofal Dan y Mynydd yn gam arwyddocaol arall yn ein cynllun uchelgeisiol i ddarparu 300 o leoedd gofal ychwanegol mawr eu hangen yn RhCT. Rydyn ni'n diolch i drigolion ardal y Porth am eu hamynedd tra digwyddodd y gwaith yma.

“Wrth i ni barhau i weithio ochr yn ochr â’r Cyngor i greu cartrefi o ansawdd uchel sy’n hyrwyddo byw’n annibynnol, rydyn ni wedi'n calonogi gan lwyddiant Maes-y-Ffynnon yn Aberaman, a Chwrt yr Orsaf ym Mhontypridd - dau gynllun gofal ychwanegol newydd lle mae preswylwyr bellach yn mwynhau eu cartrefi.

“Ein bwriad ni yn Linc Cymru yw creu amgylchedd sy'n caniatáu i bobl ffynnu, ac mae ein cynlluniau arfaethedig ar gyfer hen safle Dan y Mynydd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu cartrefi gwych sy'n diwallu anghenion pobl sy'n byw yn RhCT.”

Wedi ei bostio ar 14/12/21