Skip to main content

Helpwch i gadw RhCT a Chymru'n Ddiogel y Nadolig yma

Dydy'r coronafeirws ddim wedi diflannu, ac rydyn ni'n atgoffa trigolion ac ymwelwyr â Rhondda Cynon Taf i helpu i gadw'n Bwrdeistref Sirol a Chymru'n ddiogel wrth ddathlu'r ŵyl eleni.

Rydyn ni'n eu hatgoffa nhw i wybod y peryglon mewn ymgais i helpu i gadw eu hunain, eu hanwyliaid a Chymru'n ddiogel. 

Gyda'r newyddion diweddar bod amrywiad newydd (Omicron) bellach yn ein plith ni yng Nghymru, mae'r Cyngor a'i asiantaethau partner unwaith eto'n atgyfnerthu'r neges ganlynol – mae modd i fesurau syml helpu i'n cadw ni a'n hanwyliaid yn ddiogel; o gael ein brechu, i olchi'n dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus prysur.

Waeth pwy ydych chi neu o le rydych chi'n dod, chi sy'n gyfrifol am benderfynu ar lefel y RISG rydych chi'n ei chymryd yn eich bywyd. Mae hyn yn berthnasol i bob agwedd ar iechyd personol, o atal diabetes i leihau clefyd cardiofasgwlaidd i leihau'r siawns o ddal y coronafeirws – mae modd i'r hyn rydyn ni i gyd yn ei wneud bob dydd effeithio ar ba mor iach ydyn ni.

Pan fyddwch chi'n adnabod y RISG, mae modd i chi wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â'r hyn rydych chi'n barod i'w wneud i amddiffyn eich hun, eich teulu, eich ffrindiau a'ch cymuned ehangach.  

Yr amgylchedd perffaith i feirws ledu ydy lleoliad dan do, dan ei sang, sydd ddim yn cael ei awyru'n dda a lle mae'n anodd cynnal pellter cymdeithasol a gwisgo masg – po hiraf y byddwch chi'n treulio yn y lleoedd yma, y mwyaf tebygol byddwch chi o ddal y feirws. Mae modd i chi leihau'r risg trwy gael eich brechu'n llawn, defnyddio pás Covid a gwneud prawf llif unffordd cyn i chi fynd i weld eich ffrindiau a'ch teulu.

Felly, p'un a ydych chi'n mynd allan i siopa Nadolig, am damaid i'w fwyta neu'n mynd i wneud eich siopa bwyd, dylech chi ofyn yr un peth i'ch hun bob tro – a yw'n ormod i wisgo MASG dros yr ŵyl eleni? Mae gwisgo gorchudd wyneb mewn lleoliad dan do sy'n brysur, ynghyd â chadw'ch pellter a golchi'ch dwylo'n rheolaidd yn ffyrdd syml o gadw'ch hun ac eraill yn ddiogel.

Gan fod potensial i gyfyngiadau newid yn sgil cynnydd mewn achosion, bydd carfan Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd wrth law i gynnig cyngor ac arweiniad i holl fusnesau Rhondda Cynon Taf i sicrhau bod modd iddyn nhw agor yn ddiogel yn unol â chanllawiau cyfredol.

Mae swyddogion ymroddedig Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd y Cyngor wedi parhau i weithio gyda busnesau trwy gydol y pandemig mewn ymgais i helpu i gadw pobl yn ddiogel a chadw busnesau ar agor yn ddiogel. Mae'r garfan wedi cyhoeddi dros 183 o hysbysiadau ac wedi cau busnesau yn Rhondda Cynon Taf i sicrhau diogelwch cwsmeriaid a gweithwyr. Y newyddion gwych yw bod mwyafrif y busnesau'n gweithredu'n ddiogel yn unol â chanllawiau COVID-19.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 

“Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn heriol dros ben ac rydyn ni wedi dod at ein gilydd yn Fwrdeisref Sirol i helpu'n gilydd drwy'r cyfan. Mae gan bob un ohonon ni ran i'w chwarae i gadw'n gilydd a Chymru'n ddiogel dros yr ŵyl ac yn 2022. Gadewch i ni wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i leihau'r risg.

“Mae'n carfan Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd wedi bod yn parhau â’i gwaith i gynnig cymorth i fusnesau a gweithredu pan fo angen. Byddwn i'n annog pawb i gael eu brechu pan fyddan nhw'n cael gwahoddiad i wneud hynny, ac i barhau i wneud y pethau syml sydd bellach wedi dod yn rhan o'n bywydau bob dydd, o wisgo masg i olchi dwylo yn fwy aml."

I gael rhagor o wybodaeth am COVID-19 yn Rhondda Cynon Taf ewch i  www.rctcbc.gov.uk/IechydCyhoeddusRhCT.  

Wedi ei bostio ar 22/12/21