Bydd Sesiwn Nofio boblogaidd Gŵyl San Steffan Lido Ponty yn dychwelyd yn 2021 – mae tocynnau'n mynd ar werth ddydd Llun 6 Rhagfyr.
Cost y tocynnau bydd £5 y pen (am ddim i blant 5 oed ac iau). Yn rhan o'r gost bydd y sesiwn nofio, diod boeth a chacen grwst wedi'u paratoi ar y safle gan y garfan yng Nghaffi Lido.
A phwy a ŵyr pa gracers a danteithion Nadoligaidd bydd carfan Lido Ponty wedi'u paratoi i'r ymwelwyr?
Bydd dychweliad y Sesiwn Nofio Gŵyl San Steffan, wedi saib y llynedd oherwydd COVID-19, yn nodi diwedd blwyddyn hanesyddol i Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty.
Er gwaethaf cyfyngiadau a mesurau diogelwch parhaus COVID-19, croesawodd y Lido 92,500 o ymwelwyr yn ystod prif dymor 2021 – mwy o ymwelwyr nag unrhyw flwyddyn arall ers ailagor y safle yn 2015!
Difrodwyd Lido Ponty, sydd wedi bod ym Mharc Goffa Ynysangharad ers 1927, ar ddechrau 2020 gan Storm Dennis. Roedd angen cynnal gwaith gwerth miliynau o bunnoedd er mwyn trwsio'r holl ddifrod ac ailosod y nodweddion traddodiadol – rhai ohonyn nhw'n nodweddion gwreiddiol. Gweithiodd staff a chontractwyr trwy gydol y cyfnod clo er mwyn cwblhau'r gwaith a sicrhau bod modd ailagor Lido Ponty i nofwyr yn 2021.
Archebwch eich tocynnau
Wedi ei bostio ar 03/12/21