Mae'r Cabinet wedi cytuno i symud ymlaen â chynigion ar gyfer Ysgolion yr 21fedGanrif a fyddai’n darparu adeiladau newydd a chyfleusterau addysg o’r radd flaenaf ar gyfer ysgolion cynradd presennol yn Llanilltud Faerdref, Tonysguboriau a Glyn-coch.
Rhannwyd adroddiad yng nghyfarfod y Cabinet ddydd Llun, 13 Rhagfyr, yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau er mwyn i'r Cyngor gyflwyno achosion busnes i Lywodraeth Cymru. Trwy'r achosion busnes, bydd y Cyngor yn gwneud cynnig am gyllid Model Buddsoddi Cydfuddiannol (MIM) ar gyfer y tri phrosiect – trwy lwybr cyllido refeniw'r Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21fed Ganrif.
Cytunodd y Cabinet i gyflwyno achos busnes ar gyfer pob un o'r prosiectau MIM, sy'n cynnwys cyflwyno ysgolion cynradd cymunedol yn lle Ysgol Gynradd Maesybryn (Llanilltud Faerdref) ac Ysgol Gynradd Tonysguboriau (Tonysguboriau).
Yn ddibynnol ar ddeilliant ymgynghoriad statudol, byddai ysgol gynradd gymunedol newydd yn cael ei darparu yng Nglyn-coch, ac mae'r Aelodau bellach wedi rhoi cymeradwyaeth ffurfiol i gychwyn ymgynghoriad i gau Ysgol Gynradd Cefn ac Ysgol Gynradd Craig-yr-Hesg yn rhan o'r cynnig. Byddai'r ysgol gynradd newydd yng Nglyn-coch yn cael ei hadeiladu ar safle presennol Ysgol Gynradd Craig-yr-Hesg a'r tir gerllaw (hen safle Uned Atgyfeirio Disgyblion Tŷ Gwyn). Byddai'r ysgol newydd yn gwasanaethu dalgylchoedd y ddwy ysgol bresennol, a bydden nhw'n barod erbyn mis Medi 2026 fan bellaf.
Cynigion gwerth £9 miliwn ar gyfer Glyn-coch
Amlinellodd adroddiad y Cabinet yr angen dybryd am adeiladau newydd i Ysgol Gynradd Cefn ac Ysgol Gynradd Craig-yr-Hesg, sydd ymhlith yr adeiladau gwaethaf ym mhortffolio addysg y Cyngor. Mae'r ysgolion wedi'u lleoli 0.7 milltir ar wahân, ac ers iddyn nhw ffurfio ffederasiwn yn 2012, un pennaeth gweithredol sy'n arwain y ddwy.
Mewn arolwg yn 2020, derbyniodd adeilad Ysgol Gynradd Cefn radd 'D' o ran cyflwr ac addasrwydd (lle mai 'A' yw'r cyflawniad uchaf a 'D' yw'r isaf). Dydy'r ysgol ddim yn bodloni safonau hygyrchedd, a does dim modd gwneud llawer i wella'r wefan. Cafodd yr adeilad ei adeiladu yn yr 1970au ac mae wedi cronni rhestr o waith cynnal a chadw angenrheidiol gwerth £58,000. Mae disgwyl bydd gan yr ysgol 34.8% o leoedd dros ben erbyn 2025/26.
Derbyniodd adeiladau Ysgol Gynradd Craig-yr-Hesg radd 'C' o ran cyflwr ac addasrwydd mewn arolwg yn 2019. Mae'r adeilad o'r 1950au wedi cronni rhestr o waith cynnal a chadw gwerth £196,000 ac mae disgwyl y bydd yr ysgol yn fwy na'i chapasiti dros y pum mlynedd nesaf.
Byddai'r buddsoddiad arfaethedig gwerth £9 miliwn yn gwella ac yn ehangu cyfleusterau gan ddarparu amgylcheddau dysgu modern a hyblyg, cyfleusterau hygyrch at ddefnydd y gymuned ehangach, gwell mannau awyr agored a gwell system rheoli traffig. Bydd adolygiad Llwybrau Diogel i'r Ysgol yn cael ei gynnal, ac mae'n bosib y bydd hynny'n arwain at welliannau lleol i lwybrau cerdded, mannau croesi a mesurau tawelu traffig.
Y cynnig yw adeiladu'r ysgol newydd ar safle newydd sy'n cynnwys safle presennol Ysgol Gynradd Craig-yr-Hesg a thir gerllaw, (hen safle Uned Atgyfeirio Disgyblion Tŷ Gwyn) y mae'r Cyngor yn berchen arno. Mae'r safleoedd yma maint addas ar gyfer yr ysgol newydd a'r mannau awyr agored, ac yn safle amlwg oddi wrth fynedfa'r pentref.
Cynigion gwerth £9 miliwn ar gyfer Ysgol Gynradd Maesybryn (Llanilltud Faerdref)
Cafodd yr ysgol ei hadeiladu yn yr 1960au ac mae wedi'i hamgylchynu gan nifer o adeiladau modiwlaidd a ychwanegwyd o'r 1980au ymlaen. Derbyniodd y safle radd 'C' ar gyfer cyflwr ac addasrwydd mewn arolwg yn 2019. Mae'r ysgol wedi'i lleoli mewn 'cul-de-sac' preswyl, sy'n golygu bod amseroedd gollwng a chasglu yn heriol ac mae'r sefyllfa barcio yn annigonol. Mae'r adeilad wedi cronni rhestr o waith cynnal a chadw gwerth £429,000.
Y cynnig yw creu ysgol gynradd cyfrwng Saesneg newydd ar y safle presennol, i ddarparu ysgol yr 21fed Ganrif gwbl hygyrch.
Cynigion gwerth £9 miliwn ar gyfer Ysgol Gynradd Tonysguboriau (Tonysguboriau)
Adeiladwyd y prif floc cyn 1919 ac mae ganddo estyniad o'r 1960au. Mae'r ddwy ran wedi'u cysylltu gan brif neuadd. Derbyniodd yr ysgol radd 'D' ar gyfer cyflwr ac addasrwydd mewn arolwg yn 2019, ac mae angen ailosod y to gwreiddiol. Mae'r ysgol wedi cronni rhestr o waith cynnal a chadw gwerth mwy na £990,000.
Y cynnig yw creu ysgol gynradd Cyfrwng Saesneg newydd ar y safle presennol, i ddarparu Ysgol yr 21fed Ganrif gwbl hygyrch.
Meddai'r Cynghorydd Joy Rosser, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant: “Rwy’n falch bod y Cabinet wedi datblygu cynigion cychwynnol ar gyfer ysgol gynradd newydd yng Nglyn-coch, gan gynnwys uno dwy ysgol bresennol, ynghyd â chynlluniau ar gyfer Ysgolion yr 21fed Ganrif newydd yn Llanilltud Faerdref a Thonysguboriau. Bydd pob un o'r prosiectau yn disodli adeiladau sy'n heneiddio ac yn darparu cyfleusterau newydd sbon i'r ysgol ac i'r gymuned.
“Cyhoeddwyd y prosiectau yma ym mis Hydref 2021, yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £85 miliwn gan ddefnyddio adnoddau ychwanegol sydd ar gael o dan Fand B Rhaglen Ysgolion a Cholegau yr 21fed Ganrif Llywodraeth Cymru. Mae'r tri chynllun y cytunwyd arnyn nhw gan y Cabinet yn cynrychioli buddsoddiad gwerth £27 miliwn, wrth i ni geisio ehangu ein gwaith rhagorol diweddar o ddarparu cyfleusterau addysg newydd sbon mewn nifer o'n cymunedau.
“Yn ogystal â'r cynlluniau newydd hynny a gyhoeddwyd ym mis Hydref, mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau gwelliannau gwerth miliynau o bunnoedd yn Ysgol Rhydywaun ac Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr. Mae ymgynghoriad arall yn digwydd ar hyn o bryd ar Brosiectau Model Buddsoddi Cydfuddiannol Band B ar gyfer Ysgol Gynradd Llanilltud Faerdref, Ysgol Gynradd Pont-y-clun ac Ysgol Gynradd Pen-y-gawsi. Mae ysgol gynradd Gymraeg newydd ar gyfer Rhydfelen a bloc chweched dosbarth newydd yn Ysgol Gyfun Bryn Celynnog hefyd yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £55 miliwn a gynlluniwyd ar gyfer ardal ehangach Pontypridd erbyn 2024.
“Bydd y tri phrosiect ar gyfer ysgolion cynradd Glyn-coch, Maesybryn a Thonysguboriau yn symud ymlaen yn dilyn cytundeb y Cabinet. Mae ymgysylltu â'r gymuned yn rhan hollbwysig o'n prosiectau buddsoddi mewn ysgolion, a hoffen ni roi gwybod i breswylwyr y byddan nhw'n cael cyfle i gael rhagor o fanylion a rhannu eu barn ar bob un o'r cynigion yn ffurfiol maes o law."
Wedi ei bostio ar 16/12/21