Skip to main content

Dau ddyn wedi'u herlyn am werthu Nwyddau Ffug

Mae dau o drigolion Rhondda Cynon Taf wedi cael eu herlyn gan Adran Safonau Masnach y Cyngor am redeg busnes twyllodrus ac am fwriadu gwerthu nwyddau ffug a oedd yn eu meddiant.

Ymddangosodd y ddau ddyn o ardal Aberpennar yn Llys yr Ynadon, Merthyr Tudful a phledio'n euog i bedwar cyhuddiad mewn perthynas â Deddf Nodau Masnach 1994, ac un cyhuddiad mewn perthynas â Deddf Twyll 2006. Mae'r cyhuddiadau yn cynnwys gweithredu busnes twyllodrus, gan werthu a dosbarthu dillad ac ategolion ffug.

Yn dilyn gwybodaeth daeth i law ynghylch dillad chwaraeon ffug yn cael eu gwerthu dros Facebook, cafwyd ymchwiliad a daeth Safonau Masnach y Cyngor â chyhuddiadau llwyddiannus yn erbyn y ddau.

Aeth swyddogion ati i weld a oedd y dillad yn ffug trwy brynu pedwar dilledyn chwaraeon gafodd eu hysbysebu i’w gwerthu ar 6 Tachwedd, 2020. Aethpwyd ati i archwilio’r eitemau a chadarnhau eu bod yn ffug. Roedd yr eitemau yn cynnwys nodau masnach sydd wedi'u cofrestru'n eiddo i'r National Football League (NFL) a'r National Basketball Association (NBA).

Yn dilyn yr achos Llys, dywedodd Louise Davies, Cyfarwyddwr Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd, a Gwasanaethau Cymuned, Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Unwaith eto, mae’r Cyngor wedi llwyddo i erlyn troseddwyr mewn perthynas â gwerthu nwyddau ffug.

“Mae'r gyfraith yno i amddiffyn y cyhoedd a'r cwmnïau rhyngwladol diffuant hynny sydd ag enw da yn fyd-eang am werthu nwyddau o safon mewn mannau parchus.

“Gan ymateb i wybodaeth a ddaeth i law gan y cyhoedd, cynhaliodd ein swyddogion Safonau Masnach, ymchwiliad trylwyr, ac mae hynny wedi arwain at yr erlyniadau llwyddiannus yma.

"Dyma ddau achos difrifol o dorri Deddf Nodau Masnach 1994 a Deddf Twyll 2006 ac mae'r unigolion bellach yn talu'n ddrud am eu gweithrediadau anghyfreithlon. Roedd gwerthu'r nwyddau ffug yma'n niweidiol i ddefnyddwyr, ac i'r masnachwyr gonest hefyd.

“Mae gan ddefnyddwyr hefyd yr hawl i wybod bod yr eitemau maen nhw'n eu prynu yn cyd-fynd â'u disgrifiad.”

Cafodd dyn 35 oed ddirwyo o £738 - £502 o gostau llys a gordal dioddefwr o £73. Cafodd dyn 30 oed ddirwy o £668 - £502 o gostau llys a gordal dioddefwr o £73.

Wedi ei bostio ar 10/12/21