Mae'r Cyngor wedi darparu grant i ariannu menter leol sydd â chynlluniau cyffrous i ailddechrau gweithgynhyrchu yn hen ffatri Polikoff a Burberry yn Ynyswen. Bydd cyn-weithwyr sydd â sgiliau o'r radd flaenaf yn dychwelyd i'r safle.
Caewyd ffatri Burberry yn 2007, gan ddod â'r gweithgynhyrchu ar y safle i ben. Dechreuodd y gweithgynhyrchu yn yr 1940au a daeth y ffatri â nifer fawr o swyddi i'r ardal am genedlaethau. Fodd bynnag, mae Menter Wnïo Treorci yn datblygu ei huchelgais o ailddechrau'r gwaith gweithgynhyrchu dillad, gan ddefnyddio profiad amhrisiadwy gweithwyr ffatri lleol a weithiai yno ar un adeg.
Mae'r grŵp wedi gofyn am gefnogaeth y Cyngor a Llywodraeth Cymru, ac wedi derbyn grant gan y ddau sefydliad. Mae'r Cyngor wedi cymeradwyo grant gwerth £10,000 tuag at offer o'r Gronfa Buddsoddi Busnesau, ac wedi darparu cefnogaeth busnes ychwanegol i'r sefydliad newydd.
Meddai llefarydd ar ran Menter Wnïo Treorci: "Er ein bod wedi'n rhwystro gan COVID, dechreuodd y gwaith tua 3 blynedd yn ôl gan ein bod yn cydnabod bod nifer o Wnïwyr a Thorwyr sydd â sgiliau o'r radd flaenaf yn yr ardal sydd naill ai ddim â swydd, neu'n gweithio mewn swydd sydd ddim yn defnyddio eu sgiliau, ac yn teithio'n bell i wneud y gwaith hwnnw.
"Roedd ein cyfarfod cyntaf yng Nghlwb Bechgyn a Merched Treorci, ac roedd tua 60 o bobl yno. Mae llawer o frwdfrydedd ynglŷn â'r hyn rydyn ni'n ceisio'i gyflawni, ac mae'n teimlo fel petai'r amser yn iawn – mae'n cynlluniau ni'n gweddu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran darparu cyflogaeth leol, yr amgylchedd a chadw sgiliau lleol.
"Ein huchelgais yw cyflogi rhwng 30 a 50 o bobl, a dechrau rhaglen brentisiaeth. Mae'r ffatri wedi bod yn ffynhonnell gyflogaeth enfawr yn lleol ers yr Ail Ryfel Byd. Rydyn ni o'r farn bod angen parhau i ddysgu sgiliau'r gweithwyr i'r genhedlaeth nesaf."
Wedi inni gwrdd am y tro cyntaf, sefydlwyd Menter Wnïo Treorci yn sefydliad nad yw'n gwneud elw. Y gweithwyr yw aelodau'r pwyllgor ac maen nhw bellach yn cwrdd yn wythnosol. Wedi diogelu'r arian gan y Cyngor, roedd modd i'r fenter brynu offer a'i osod mewn ystafell yn yr hen ffatri. Mae'r fenter eisoes yn cynhyrchu samplau i ddarpar gwsmeriaid.
Parhaodd y llefarydd: "Mae Llywodraeth Cymru ac Awdurdod Lleol Rhondda Cynon Taf wedi bod yn arbennig. Cysyllton ni â RhCT er mwyn rhannu ein gweledigaeth mewn cyfarfod ar-lein gyda rhai o swyddogion y Cyngor a rhai o'r prynwyr. Rydyn ni bellach yn cynhyrchu samplau i RCT, cartref preswyl yng Nghwm Rhondda, ac rydyn ni'n rhagweld archeb gan gwmni Trafnidiaeth Cymru. Mae'n gweledigaeth ni bellach ar waith ac rydyn ni'n gobeithio bod y sefydliadau yma'n fodlon â'n gwaith ni.
"Ar hyn o bryd yr her fwyaf yw dod o hyd i ddeunyddiau. Portiwgal yw'r lle agosaf inni gael yr hyn rydyn ni ei angen ac mae'r broses yn cymryd 12 wythnos. Mae hyn yn broblem gan nad ydyn ni'n gwybod beth sydd ei angen arnom ni nes ein bod yn derbyn yr archebion. Y gobaith yn y pen draw yw cynhyrchu deunyddiau yng Nghwm Rhondda.
"Mae'r gwaith yn parhau'n heriol ac wedi inni ddatrys un broblem, mae problem arall yn codi. Ond fel dywedais gynt, mae pawb sy'n rhan o'r grŵp yn frwdfrydig am y gwaith.
"Ar hyn o bryd mae naw o bobl yn ymwneud â'r fenter yn uniongyrchol ac yn dod i'n cyfarfod pwyllgor bob dydd Mawrth. Rydyn ni'n gwmni cydweithredol, ac rydyn ni'n derbyn cyngor amhrisiadwy gan bobl leol a oedd yn arfer gweithio i Polikoff neu Burberry. Rydyn ni'n agos iawn at ddechrau cynhyrchu, ac yn gobeithio bydd gyda ni bump neu chwech o weithwyr yn dechrau yn y flwyddyn newydd."
Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: "Rwy'n falch iawn bod y Cyngor wedi cefnogi Menter Wnïo Treorci trwy un o'r grantiau adnewyddu, sydd ar gael i roi cymorth i sefydliadau newydd. Mae swyddogion wedi darparu mathau eraill o gymorth busnes, gan gynnwys cyflwyno'r grŵp i gynghorydd gyda Busnes Cymru.
"Mae hen ffatri Polikoff a Burberry yn rhan annatod o hanes yr ardal, yn ffynhonell gyflogaeth enfawr ac yn destun atgofion melys i nifer o bobl a weithiai yno. Mae'n amlwg bod Menter Wnïo Treorci'n deall yr hanes, yn angerddol dros weithgynhyrchu lleol yn ei chymuned, ac yn benderfynol o ailddechrau gweithredoedd yn yr hen ffatri.
"Rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r grŵp wrth weithio tuag at gyflogi gweithwyr ac ailddechrau'r gwaith yn y flwyddyn newydd trwy ddefnyddio arbenigedd yr ardal leol, a darparu swyddi dafliad carreg o gartrefi nifer fawr o weithwyr. Bydd y Cyngor yn parhau i gefnogi'r fenter."
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Fenter Wnïo Treorci trwy ymweld â'i gwefan
Wedi ei bostio ar 02/12/21