Skip to main content

Rhybudd Tywydd Ambr Ar Gyfer RhCT

Rain

Bydd Rhybudd Tywydd AMBR y Swyddfa Dywydd sy'n effeithio ar ardal Rhondda Cynon Taf yn dod i rym am 8pm heno (dydd Gwener, 19 Chwefror) ac yn para tan 6pm, ddydd Sadwrn, 20 Chwefror.

Mae'r Cyngor yn annog trigolion a busnesau i fod yn wyliadwrus a chymryd gofal yn ystod y cyfnod yma.

Dyma annog gyrwyr sy'n gwneud teithiau hanfodol i fod yn ofalus ac ystyried yr amodau wrth yrru.  Paratowch ar gyfer eich taith ymlaen llaw gan sicrhau eich bod chi'n caniatáu amser ychwanegol ar gyfer teithiau. Hefyd, gadewch le ychwanegol rhwng cerbydau er mwyn sicrhau bod digon o le gyda chi i stopio mewn argyfwng.

Mae'n bosibl y bydd rhywfaint o oedi wrth deithio a bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei heffeithio. Mae'n bosibl y bydd dŵr wyneb, llifogydd, problemau o ran pŵer yn effeithio ar rannau o'r Fwrdeistref Sirol ac mae'n bosibl y bydd angen cau ffyrdd.

Byddwch yn ofalus gan gydymffurfio â chyfyngiadau COVID-19 Llywodraeth Cymru (Lefel Rhybudd 4) ar bob adeg.

Mae carfanau Priffyrdd y Cyngor wedi bod yn rhagweithiol wrth fonitro draeniau a chwlferi cyn i'r rhybudd tywydd, fydd yn effeithio ar ardal Rhondda Cynon Taf, ddod i rym. Bydd ein carfanau ar gael i fynd i'r afael ag unrhyw broblemau allai godi dros y penwythnos.

Os oes gyda chi unrhyw broblemau, ffoniwch rif ffôn mewn argyfwng tu allan i oriau swyddfa'r Cyngor ar 01443 425011.

Yn ogystal â hynny, dilynwch gyfrifon y Swyddfa Dywydd a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor i gael y newyddion diweddaraf.

Wedi ei bostio ar 19/02/2021