Skip to main content

Cabinet i drafod Cyllideb 2021/22 yn dilyn ail gam yr ymgynghoriad

budget WELSH

Yr wythnos nesaf, bydd y Cabinet yn trafod Cyllideb arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2021/22.

Ddydd Iau, 25 Chwefror, bydd y Cabinet yn ystyried y Strategaeth Gyllideb ddrafft ynghyd â'r adborth a ddaeth i law wedi ail gam yr ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd yn gyfle i aelodau ailystyried y cynigion cyn argymell Cyllideb derfynol ar gyfer 2021/22 i'r Cyngor Llawn ym mis Mawrth 2021.

Mae'r strategaeth ddrafft yn seiliedig ar gynnydd o 3.8% yn y cyllid mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Gyngor Rhondda Cynon Taf, fel sydd wedi'i nodi yn y Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer y flwyddyn nesaf. Nod y cynigion sydd wedi'u cynnwys yn y strategaeth ddrafft yw bod mor deg â phosibl a diogelu'r gwasanaethau rheng flaen, gan dargedu adnoddau at feysydd allweddol. Mae crynodeb o'r strategaeth wedi'i gynnwys ar waelod y dudalen yma.

Mae adroddiad arall sy'n cael ei gyflwyno i'r cyfarfod dydd Iau yn amlinellu Ffioedd a Thaliadau arfaethedig y Cyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf, a fydd yn rhan o'r Gyllideb ar gyfer 2021/22. Mae'n cynnig cynnydd o 1.70% gyda nifer o eithriadau nodedig. Mae'r eithriadau'n cynnwys dim cynnydd i ffioedd Hamdden am Oes, Taliadau Meysydd Parcio, Ffioedd Chwarae'r Haf a Gaeaf, Prydau Ysgol, Ffioedd Profedigaeth, nac i bris tocynnau Lido Ponty a Pharc Treftadaeth Cwm Rhondda. Bydd cost Pryd ar Glud a Phrydau Canolfannau Oriau Dydd yn codi 10c y pryd, ac yna'n cael eu rhewi tan 2023.

Cafodd y rhan fwyaf o'r ymgynghoriad diweddar ei gynnal ar-lein yn sgil cyfyngiadau COVID-19. Serch hynny, roedd modd i drigolion gymryd rhan dros y ffôn, drwy anfon llythyr neu drwy lenwi arolwg ar bapur. Roedd yr arolwg ar gael ar wefan y Cyngor a chafodd sesiwn Holi ac Ateb ei chynnal ar y cyfryngau cymdeithasol gydag Uwch Swyddogion ac Arweinydd y Cyngor ar 11 Chwefror. Cafodd sesiynau wedi'u targedu a sesiynau i ymgysylltu â Fforwm Ieuenctid Rhondda Cynon Taf, Grŵp Cynghori Pobl Hŷn, Cylch Trafod Materion Anabledd, ysgolion, Pwyllgor Craffu Cyllid a Chyflawniad, Fforwm Cyllideb Ysgolion a Phwyllgor Cyd-gysylltu â'r Gymuned eu cynnal.

Roedd dros 76% o'r rhai a atebodd yr arolwg yn teimlo bod y cynnydd arfaethedig o 2.65% yn y Dreth Gyngor yn rhesymol, tra bod 81% yn cytuno ar y dull arfaethedig o arbedion effeithlonrwydd ac roedd 87% yn cytuno â'r cynigion ar gyfer Ffioedd a Thaliadau. Roedd cyfanswm o 338 o bobl wedi cymryd rhan yn y broses, ac mae crynodeb ehangach o'r ymatebion a dderbyniwyd wedi'u cynnwys yn yr adroddiad i'r Cabinet ddydd Iau.

Roedd cam cyntaf yr ymgynghoriad ar gyfer Cyllideb 2021/22, a gynhaliwyd rhwng mis Hydref a mis Rhagfyr 2020, yn canolbwyntio ar faterion allweddol fel blaenoriaethau buddsoddi ac arbedion effeithlonrwydd. Yn ystod dau gam yr ymgynghoriad, mae bron i 1,500 o bobl wedi ymgysylltu â'r broses o bennu cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: “Bydd Aelodau’r Cabinet yn ystyried y ddau adroddiad yn ymwneud â’r Gyllideb ddrafft gyffredinol ac yn gosod Ffioedd a Thaliadau sy’n rhan bwysig o’r strategaeth yn ystod y cyfarfod ddydd Iau. Bydd y Gyllideb ddrafft yn cael ei thrafod, yng nghyd-destun yr adborth a ddaeth i law yn nau gam yr ymgynghoriad â thrigolion. Fe fydd yna'n cael ei argymell i'r Cyngor Llawn y mis nesaf.

“Mae gan y Cyngor hanes da o gynnal ymarferion ymgysylltu helaeth â thrigolion i drafod pob math o faterion allweddol - ac mae’r ymgynghoriad blynyddol ar y Gyllideb wedi dod yn rhan allweddol o galendr y Cyngor.

“Mae cyfyngiadau COVID-19 wedi golygu bod yr ymgynghoriad eleni wedi gorfod gweithredu’n wahanol - yn enwedig mewn perthynas â’r rhyngweithio wyneb yn wyneb rydyn ni fel arfer yn ei annog yn y gorffennol. Er enghraifft, mae sioeau teithiol i Ganol Trefi'r Fwrdeistref Sirol wedi bod yn ffordd effeithiol o ymgysylltu ag aelodau o'r cyhoedd yn y gorffennol, ond yn anffodus, doedd dim modd cynnal y rhain eleni o ganlyniad i reoliadau cadw pellter cymdeithasol a'r her o sicrhau bod pawb yn cadw'n ddiogel.

“Fodd bynnag, mae’n wych bod y Cyngor wedi gallu ymgysylltu â bron i 1,500 o drigolion yn ystod dau gam yr ymgynghoriad, gan brofi pwysigrwydd y broses ymgynghori. Cafodd y broses ei chynnal ar-lein eleni, ond cafodd y rhai nad oedden nhw'n gallu cael mynediad at y we gyfle i ddweud eu dweud drwy lythyra neu dros y ffôn. Bydd y Cabinet yn ystyried yr ymatebion ddydd Iau, ac yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r cynigion gafodd eu cyflwyno ar gyfer yr ymgynghoriad neu wneud unrhyw newidiadau."

Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys y strategaeth gyllideb ddrafft ganlynol:

  • Cynnydd o £2.2 miliwn yn y gyllideb ysgolion gan gydnabod bod ysgolion yn flaenoriaeth allweddol a chan ariannu eu gofynion ar gyfer y flwyddyn nesaf yn llawn.
  • Amddiffyn gwasanaethau'r Cyngor sy'n golygu ei fod yn gyllideb dim toriadau .
  • Cyflwyno £4.6 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd pellach, ar ben yr arbedion o £6 miliwn y flwyddyn a gyflawnwyd ar draws gwasanaethau'r Cyngor ym mhob un o'r tair blynedd diwethaf.
  • Cynnydd o 2.65% yn Nhreth y Cyngor. Mae hyn yn is na'r hyn yr ymgynghorwyd arno'n flaenorol ac mae disgwyl mai hyn fydd y cynnydd lleiaf yng Nghymru ar gyfer 2021/22.
  • Parhad y Cynllun Rhyddhad Lleol ar gyfer Ardrethi Annomestig (NDR), a'i gynyddu i £350 i bob busnes cymwys ar gyfer 2021/22.
  • Parcio ceir am ddim ar ôl 3pm yn ystod yr wythnos ac ar ôl 10am ar ddydd Sadwrn.
  • Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon, byddai cyllideb graidd o £100,000 yn cael ei rhoi ar waith i gyflymu'r gwaith yn y maes yma.
  • Rhewi taliadau, ar gyfer Hamdden am Oes, meysydd parcio, caeau chwaraeon,  Lido Ponty/Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Ffioedd Profedigaeth a phrydau ysgol.
  • Adnoddau wedi'u targedu ychwanegol:
    • £200,000 i alluogi'r Cyngor i benodi 6 Swyddog Graddedig yn ychwanegol at yr ymrwymiad a wnaed o dan Gynllun Graddedigion llwyddiannus y Cyngor.
    • £200,000 ar gyfer Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd i gynyddu gwytnwch yn y gwasanaeth a chaniatáu i adnoddau ychwanegol gael eu defnyddio.
    • £50,000 mewn Cymorth Atal Llifogydd ar gyfer adnodd ymgynghorol i roi cymorth i drigolion a busnesau.
    • £50,000 ar gyfer datblygu ac ymestyn rhaglenni cymorth Llesiant ar draws y gweithlu.
    • £75,000 ar gyfer sefydlu Carfan Gordyfiant ychwanegol i wella'r gwaith ymhellach i gadw ein hamgylchedd lleol yn lân ac yn daclus.
    • £500,000 ar gyfer Carfan Ddraenio newydd i wella a chyflymu'r gwaith o atgyweirio a gwella systemau draenio, hefyd wedi'i gynnwys yn y gyllideb arfaethedig.
Wedi ei bostio ar 19/02/21