Skip to main content

Gwasanaeth bws gwennol am ddim ar gael tra bod gwaith hanfodol Openreach yn cael ei gwblhau ym Mhen-y-Coedcae

roads three

Mae gwaith hanfodol gan Openreach yn gofyn am gau Heol Penycoedcae rhwng 13 a 21 Chwefror. Bydd gwasanaeth bws gwennol am ddim ar waith gan fydd dim modd i Wasanaeth 404, cwmni NAT Group, rhwng Pontypridd a Phen-y-bont ar Ogwr ddilyn y llwybr arferol.

Mae Openreach yn gofyn am gau Heol Penycoedcae o'i gyffordd â Heol-y-Beddau, am oddeutu un filltir (i gyfeiriad y gogledd). Bydd gweithwyr yn staffio'r ffyrdd sy wedi'u cau ar bob achlysur a bydd mynediad yn parhau i breswylwyr sy'n byw yn yr ardal sydd ar gau, yn ogystal ag ar gyfer cerbydau'r gwasanaethau brys a cherddwyr.

Bydd y ffyrdd ar gau rhwng 8am a 5pm o ddydd Sadwrn 13 Chwefror hyd at ddydd Sul 21 Chwefror. Bydd y ffordd yn ailagor y tu hwnt i'r oriau yma.

Bydd arwyddion yn dangos y ffyrdd eraill i'w defnyddio. Dylai gyrwyr fynd ddefnyddio Heol Penycoedcae, Heol Gwaunmeisgyn, Ffordd Llantrisant. Heol Tonteg, Cylchfan Glan-bad yr A470, Broadway, Heol Sardis. Lôn y Ffatri, Heol Llantriaant a Heol Penycoedcae - neu'r llwybr yma am yn ôl.

Fydd dim modd i Wasanaeth bws 404 rhwng Pontypridd a Phen-y-bont ar Ogwr ddilyn ei lwbr arferol rhwng 8am a 5pm yn ystod y cyfnod y bydd y ffyrdd ar gau. Bydd y gwasanaeth yn cael ei ddargyfeirio ac yn mynd trwy Drefforest a Pentre'r Eglwys, gan ailafael yn y llwybr arferol o Sgwâr y Beddau.

Er mwyn hwyluso cysylltiadau, bydd Xarrow Travel yn gweithredu gwasanaeth bws gwennol am ddim ddydd Llun i ddydd Sadwrn yn ystod y cyfnod bydd y ffyrdd ar gau - rhwng 8am a 5pm bob dydd.

Bydd y bws gwennol yn gadael tafarn y Queen's Head (Penycoedcae) bob awr, ar yr awr, rhwng 8am a 4pm - yna bydd yn mynd i bob arhosfan tuag at Orsaf Fysiau Pontypridd, lle bydd yn cwrdd â'r Gwasanaeth 404. Bydd hyn yn caniatáu i deithwyr barhau ymlaen ar lwybr y 404 rhwng y Beddau a Phen-y-bont ar Ogwr. Bydd hefyd yn galluogi teithwyr o Benycoedcae a'r Graig i gael mynediad at wasanaethau i gyrchfannau eraill.

Wrth ddychwelyd, bydd y bws gwennol yn gadael Gorsaf Fysiau Pontypridd (Bae 13) bob awr, tua 25 munud wedi'r awr, rhwng 8.25am a 4.25pm - ar ôl aros i Wasanaeth 404 gyrraedd. Bydd hyn yn caniatáu i deithwyr barhau ymlaen tua'r Graig a Phenycoedcae.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth bws gwennol dros dro yma, ffoniwch Xarrow Travel Limited ar 07967 636659.

Wedi ei bostio ar 12/02/21