Skip to main content

Taclo'r Coronafeirws yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad

C21-0016_Six nations coronavirus_V2_english-03 (1)

Mae cefnogwyr rygbi ledled Rhondda Cynon Taf yn cael eu hannog i yfed ac ymddwyn yn gyfrifol ac i barhau i ddilyn cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 Coronafeirws Llywodraeth Cymru.

Dyw COVID-19 ddim wedi diflannu, ac thra bod ein chwaraewyr rygbi yn chwarae'u rhan ar y cae, mae gan bob un ohonon ni ran i'w chwarae wrth guro'r feirws. Dim ond trwy ymddwyn yn gyfrifol y mae modd i ni wneud hyn.

Rhaid i bobl barhau i aros gartref yn eu swigen a pheidio â chymysgu mewn grwpiau gyda theulu neu ffrindiau a pheidio â thorri'r rheolau a'r rheoliadau.

Mae modd i'r rhai sy'n torri'r gyfraith gael eu herlyn.

Mae unrhyw safle trwyddedig sy'n torri'r gyfraith yn wynebu dirwy sylweddol ac adolygiad o drwydded y safle. Mae modd i hyn arwain at golli'r drwydded.

Mae capten Cymru, Alun Wyn Jones, un o redwyr dirgel Rasys Nos Galan yn y gorffennol, wedi recordio neges unigryw i Gyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'r neges yn annog trigolion RhCT i gefnogi tîm Cymru drwy ymddwyn yn gyfrifol a chadw pellter cymdeithasol a golchi dwylo'n aml.

Mae'r Capten Alun Wyn Jones wedi ennill 143 o gapiau dros ei wlad hyd yma.

Dywedodd yr arwr rygbi, sydd wedi chwarae gyda'r Llewod: "Dydy'r feirws ddim wedi diflannu - ond gallwn ni ei daclo gyda'n gilydd. Gofalwch am eich hun, eich teulu a'ch cymuned fel bod modd i ni drechu hyn gyda'n gilydd - dewch i ni weithio fel tîm."

Mae Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Andrew Morgan, yn galw ar yr holl breswylwyr a busnesau i ymuno a chefnogi'r Cyngor mewn ymgais i leihau lledaeniad y feirws. Drwy wneud hynny, y gobaith yw y bydd modd i Lywodraeth Cymru ostwng y Lefel Rhybudd Coronafeirws pan fydd hi'n ddiogel i wneud hynny.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Mae gan bob un ohonon ni ran i’w chwarae wrth gadw'n hunain, ein hanwyliaid a’n cymunedau yn ddiogel rhag y feirws marwol yma.

“Dyw’r ffaith bod y Chwe Gwlad wedi cychwyn ddim yn golygu bod bygythiad COVID-19 wedi dod i ben. Mae'n dal i fod gyda ni, gan effeithio ar ein bywydau i gyd ac yn hawlio bywydau llawer o bobl.

“Rhaid i ni i gyd barhau â'n hymdrechion i osgoi lledaenu'r feirws tu hwnt i'r gymuned leol.

“Bu datblygiadau sylweddol yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda’r Bwrdd Iechyd yn cyflwyno’r rhaglen frechu ar draws ein Bwrdeistref Sirol. Ond mae angen i ni i gyd gadw at y rheolau a'r canllawiau sydd ar waith neu byddwn ni'n wynebu'r risg o barhau i drosglwyddo'r feirws yn eang ac ymestyn cyfnod cyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 y Coronafeirws.

"Rhaid i bawb weithio gyda ni, nid yn ein herbyn, a chymryd y camau angenrheidiol i arafu lledaeniad y feirws.

“Mwynhewch y rygbi dros yr wythnosau nesaf, cefnogwch ein tîm cenedlaethol fel rydych chi bob amser yn ei wneud, ond eleni, rhaid i ni i gyd wneud hynny mewn ffordd ddiogel a chyfrifol."

Ymhlith y camau cadarnhaol y mae modd i bob un ohonon ni eu cymryd, dylid aros gartref, ac osgoi gadael y tŷ oni bai eich bod chi'n ymarfer corff, yn gadael am resymau meddygol neu os oes yna amgylchiadau eithriadol.

Cadwch at y rheolau, trefnwch sgyrsiau rhithwir gyda theulu a ffrindiau wrth wylio'r gêm, a phrynwch fwyd a diod ar-lein ac ewch ati i ymddwyn yn gyfrifol.

Wedi ei bostio ar 12/02/21