Skip to main content

Dal Ati i Ailgylchu RhCT

Bryn Pica Recycling-37

Diolch i drigolion RhCT sy'n ailgylchu fwy nag erioed yn ystod yr amseroedd anodd yma. Rydyn ni'n parhau i gasglu tunnell o ddeunyddiau ailgylchu bob wythnos ac mae carfan Gofal y Strydoedd GWYCH y Cyngor yn mynd yr ail filltir i sicrhau bod y casgliadau wedi parhau.  

Diolch i ymdrechion ein trigolion GWYCH a'n criwiau casglu/dosbarthu cafodd y Cyngor y ffigyrau gorau erioed ar gyfer ailgylchu dros y Nadolig. Bellach mae angen eich help chi ar y Cyngor i sicrhau ein bod ni'n dal ati i ailgylchu i'r un safonau.

Mae llawer o drigolion yn cael sesiynau tacluso ac efallai byddan nhw'n dod o hyd i rai eitemau yr hoffen nhw gael gwared ohonyn nhw. OND os does dim modd ailgylchu'r eitemau yma o ymyl y pafin, ewch â nhw i'ch Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned leol fel bod modd eu hail-ddefnyddio.

Mae canllaw A i Y defnyddiol, chwiliadwy ar gael yn www.rctcbc.gov.uk/ChwilioAilgylchu sy'n dweud wrth drigolion ble i osod eitemau. Mae'r rhestr hefyd i'w gweld ar du blaen bagiau ailgylchu CLIR. Fel rheol, mae modd golchi cartonau bwyd gwag (e.e. poteli llaeth, potiau iogwrt, tuniau, caniau, poteli gwin, jariau gwydr ac ati a'u rhoi mewn bag ailgylchu CLIR). 

DYDY'R Cyngor DDIM yn derbyn tecstilau, dillad, teganau plastig, potiau paent, esgidiau, eitemau trydanol bach, pren, darnau o fwrdd plastr, papur wal, brwsys paent, eitemau garddio, pridd, rwbel ac ati wrth ymyl y palmant. Ewch â'r rhain i'n Canolfannau Ailgylchu yn y Gymuned. 

Mae'r Cyngor yn cynnig gwasanaeth ailgylchu bwyd a chewynnau wythnosol am ddim, ac mae modd i drigolion gofrestru ar-lein.  Peidiwch byth â rhoi gwastraff bwyd neu gewynnau allan i'w casglu mewn bag ailgylchu CLIR gan y bydd yr eitemau yma'n halogi'r holl ddeunyddiau ailgylchadwy eraill sydd ynddo.   Bydd hefyd yn halogi'r holl eitemau y mae'n dod i gysylltiad â nhw yn y ganolfan ddosbarthu.  Bydd hyn yn arwain at gymysgu gronynnau bwyd â byrnau o ffibrau papur ac yn golygu bod dim modd ailgylchu'r papur. 

Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: “Mae ein trigolion yn RhCT yn ailgylchwyr gwych. Maen nhw wedi parhau i ailgylchu trwy gydol y pandemig yma, er gwaethaf yr heriau digynsail rydyn ni i gyd yn parhau i’w hwynebu.  Mae'n anhygoel gweld ein recordiau ailgylchu ar gyfer cyfnod y Nadolig yn cael eu torri. Mae hyn yn dangos yr ymroddiad a'r ymrwymiad sydd gan ein trigolion i ailgylchu ac i ofalu am yr amgylchedd.

“Fel Cyngor, rydyn ni'n ceisio gwneud ein gorau glas i sicrhau bod y broses ailgylchu mor hawdd a hygyrch â phosibl i bawb. Rydyn ni'n cynnig system archebu bagiau ailgylchu ar-lein, gwasanaeth dosbarthu, a system bagiau clir hawdd ar gyfer eitemau sych. Mae ein holl Ganolfannau Ailgylchu yn y Gymuned ar agor i'r cyhoedd ar hyn o bryd."

“Rydyn ni'n gofyn i drigolion barhau â'r ymdrechion yma a sicrhau eu bod yn defnyddio'r holl wasanaethau sydd ar gael.  Gofalwch fod gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu yn y bagiau gwastraff bwyd gwyrdd golau a'ch bod chi'n cofrestru ar gyfer casgliadau cewynnau, os oes angen, a'ch bod chi'n rhoi cewynnau mewn bagiau porffor.  Dylai'r holl ddeunyddiau ailgylchu glân a sych gael eu rhoi mewn bagiau ailgylchu CLIR.  Trwy wneud hyn rydyn ni'n gallu sicrhau ein bod ni'n gwneud y gorau o'n hymdrechion i ailgylchu. 

"Os ydyn ni'n parhau yn yr un modd, byddwn ni'n cyrraedd targed ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70% ymhell cyn 2024/25 - da iawn RhCT!"

Mae modd cael bagiau ailgylchu mewn nifer o siopau allweddol neu mae modd archebu rhai i gyrraedd eich cartref trwy'r wefan www.rctcbc.gov.uk/bagiau. Mae casgliadau o ymyl y pafin wedi parhau drwy'r pandemig. Os oes oedi am ryw reswm, rydyn ni'n cynghori trigolion i adael eu heitemau wrth y man casglu a byddan nhw'n cael eu casglu cyn gynted ag y bo modd.

Mae POB Canolfan Ailgylchu yn y Gymuned ar agor bob dydd, o 8am tan 5.30pm, a chaiff pobl sy'n dod mewn faniau/ceir ag ôl-gerbydau hefyd gael gwared ar eitemau. Mae nifer o ganllawiau llym ar waith i bobl sy'n ymweld â'r safleoedd ac mae'n debygol y bydd y rhain yn parhau i fod ar waith hyd y mae modd rhagweld. Mae rhagor o fanylion ar https://www.rctcbc.gov.uk/RheolauCanolfannauAilgylchu. Ar hyn o bryd, mae'r ddwy siop ailddefnyddio ‘ Y Sied’ yng Nghanolfannau Ailgylchu Treherbert a Llantrisant ar gau o dan Gyfyngiadau Lefel Rhybudd 4 Llywodraeth Cymru.

Dylech roi unrhyw hancesi papur, clytiau glanhau neu bersonol, mygydau wyneb, menig neu unrhyw Gyfarpar Diogelu Personol eraill yn rhan o'ch gwastraff bin du - os oes gan unrhyw un yn eich aelwyd symptomau'r Coronafeirws, dylech chi roi'r eitemau yma mewn dau fag a'u rhoi allan ar ôl 72 awr.

Rhaid i ni atgoffa trigolion bod modd iddyn nhw roi nifer diderfyn o fagiau ailgylchu clir i'w casglu ond dim ond 2 fag du neu un bin olwynion (rhaid i'r caead fod ar gau) y mae modd i ni eu casglu. 

Am ragor o wybodaeth am ailgylchu yn RhCT, ewch i www.rctcbc.gov.uk/ailgylchu neu dilynwch ni ar Facebook a Twitter.

Mae modd i chi gofrestru ar gyfer y cynllun ailgylchu cewynnau yma https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/BinsandRecycling/NappyRecycling.aspx ac archebu cadi a bagiau ailgylchu bwyd yn https://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/BinsandRecycling/Whatgoesinyourbin/FoodWasteCaddy.aspx.  

Er mwyn dysgu rhagor am frwydr ailgylchu Cymru, ewch i www.cymruynailgylchu.org.uk, cadwch lygaid am yr hysbysebion ar y teledu, ar fysiau, ar arwyddion a'r cyfryngau cymdeithasol neu ymunwch â'r sgwrs gan ddefnyddio'r hashnod #AilgylchwyrGwych.

Wedi ei bostio ar 23/02/21