Y pethau syml fel caredigrwydd a gofalu am ein gilydd yw dim ond dwy rinwedd i ddod o bandemig byd-eang COVID-19, ac mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o'r hyn y mae ei staff gofal cymdeithasol yn parhau i'w gyflawni ochr yn ochr ag unigolion, teuluoedd a chymunedau sy'n ysbrydoli pob un ohonon ni.
Mae staff gofal cymdeithasol Cyngor Rhondda Cynon Taf, ynghyd â'r darparwyr sydd wedi'u comisiynu i gyflawni'r gofal hwnnw, yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol i'r bobl hynny sydd eu hangen fwyaf.
Mae'r Cyngor yn cefnogi ymgyrch Gofalwn Cymru sydd wedi'i datblygu gan Gofal Cymdeithasol Cymru ar y cyd ag ystod eang o sefydliadau cenedlaethol a lleol. Mae gyrfa mewn gofal cymdeithasol yn amrywiol a gwerth chweil. Mae'n ysgogi'r unigolyn ac yn rhoi boddhad.
Nod yr ymgyrch yw denu mwy o bobl i weithio yn y sector gofal gan y bydd angen miloedd yn fwy ar Gymru erbyn 2030. Mae'r rolau'n cynnwys gofal y blynyddoedd cynnar a gofal plant.
Meddai'r Cynghorydd Geraint Hopkins, Aelod o Gabinet Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a'r Gymraeg:
“Mae ein holl staff sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yn parhau i wneud hynny o dan amgylchiadau mor heriol, gan dynnu sylw at yr angen mawr am eu tebyg yn ein cymunedau.
“Er gwaethaf yr holl anawsterau rydyn ni wedi'u hwynebu yn ystod y pandemig, mae ein gweithlu gofal cymdeithasol yn enghraifft wych o broffesiynoldeb a chydnerthedd wrth gofio'r ymrwymiad a'r ymroddiad maen nhw wedi'u dangos drwyddo draw.
“Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod mor anodd i bawb, felly dyma annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa gofal cymdeithasol i gymryd y cam cyntaf heddiw. Mae llawer o deuluoedd ac unigolion yn dibynnu ar gefnogaeth eraill, yn enwedig ar hyn o bryd.
“Mae'r Cyngor yn llwyr gefnogi ymgyrch Gofalwn Cymru wrth iddi fynd ati i recriwtio mwy o weithwyr gofal dros y 10 mlynedd nesaf. Nid yn unig y mae'n yrfa werth chweil, ond mae'r gefnogaeth y mae ein gweithwyr gofal yn ei darparu yn rhywbeth na all rhai o'n trigolion mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau fyw hebddo."
Ar hyn o bryd mae un o bob 17 o oedolion yng Nghymru yn gweithio ym maes gofal cymdeithasol neu'r blynyddoedd cynnar a gofal plant, ond wrth i bobl fyw yn hirach, mae'n debyg y bydd angen tua 20,000 yn fwy o weithwyr.
Mae'r angen am staff ledled ystod eang o rolau yn cynyddu, yn enwedig i'r rheiny sydd ag amrywiaeth o brofiad a chymwysterau, yn arbennig gweithwyr cymdeithasol cymwys.
Meddai'rCynghorydd Tina Leyshon, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Gwasanaethau i Blant:
“Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi dysgu pob un ohonon ni fod creu amgylchedd lle rydyn ni'n gofalu am ein gilydd yn helpu pobl drwy galedi pob cam o'u bywydau ac yn rhoi gobaith iddyn nhw.
“Mae bod yn rhan o ddatblygiad unrhyw blentyn yn talu ar ei ganfed - o'u gweld nhw'n chwarae, eu helpu wrth iddyn nhw ddysgu a’u tywys ar y trywydd iawn ar gamau cyntaf eu bywydau.
“Yng Nghymru, y DU a'r byd yn gyffredinol, mae angen mwy o bobl yn y sector gofal. Rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gyrfa fel hon i fynd ati heddiw. Gallai helpu i greu dyfodol gwell i bawb.”
Mae Gofalwn Cymru yn codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o waith cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Ei nod yw denu mwy o bobl sydd â'r sgiliau a'r gwerthoedd cywir i weithio mewn rolau gofal gyda phlant ac oedolion.
I'r bobl iawn, mae gyrfa mewn gofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant yn un o'r gyrfaoedd mwyaf gwerth chweil sydd i'w chael. Os yw gofalu am eraill yn mynd â'ch bryd ac rydych chi o'r farn mai dyma lwybr gyrfa hoffech chi fynd ar ei drywydd, ewch i https://gofalwn.cymru/.
Mae modd gweithio'n hyblyg er mwyn i chi drefnu'ch gwaith o gwmpas eich bywyd teuluol. Bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu, a allai hefyd arwain at gymwysterau.
Wedi ei bostio ar 03/02/21