Skip to main content

Rhybudd Tywydd ar gyfer RhCT

yellow sign

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd tywydd am law trwm fydd yn effeithio ar ardaloedd yn Rhondda Cynon Taf o 09:00 ddydd Gwener (19 Chwefror) tan 12:00 ddydd Sul (21 Chwefror).

Dyma annog gyrwyr sy'n gwneud teithiau hanfodol i fod yn ofalus ac ystyried yr amodau wrth yrru. Y disgwyl yw y bydd glaw trwm ar adegau a gwyntoedd cryfion a allai achosi aflonyddwch o ran traffig/teithio mewn rhai ardaloedd.

Mae carfanau Priffyrdd y Cyngor wedi bod yn rhagweithiol yn monitro draeniau a chwlferi cyn i'r rhybudd tywydd, fydd yn effeithio ar Rondda Cynon Taf, ddod i rym. Bydd criwiau ar gael i ddelio ag unrhyw broblemau allai godi.

Mae'r Cyngor yn annog trigolion a busnesau i fod yn wyliadwrus a chymryd gofal yn ystod y cyfnod yma. Os oes gyda chi unrhyw broblemau, ffoniwch rif ffôn y Cyngor mewn argyfwng y tu allan i oriau ar 01443 425011.

Yn ogystal â hynny, dilynwch gyfrifon y Swyddfa Dywydd a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor am y newyddion diweddaraf.

Wedi ei bostio ar 18/02/21