Skip to main content

Cymorth Adfer Covid i fusnesau gan Dasglu'r Cymoedd

penrhiwceiber crossing 3

Mae cyllid newydd sydd wedi'i sicrhau gan Dasglu'r Cymoedd bellach ar gael i ddarparu cymorth Adfer Covid i fusnesau mewn 28 o ardaloedd manwerthu lleol ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r cyllid yma’n ychwanegol at y grant presennol a gafodd ei lansio ym mis Rhagfyr 2020 ar gyfer canol trefi.

Bydd tua 700 o fusnesau bach a chanolig ledled y Fwrdeistref Sirol yn derbyn llythyr gan y Cyngor yr wythnos yma, a fydd yn amlinellu'r cyllid newydd ac yn rhoi manylion am sut i wneud cais. O ganlyniad i'r cyllid newydd, mae modd i fusnesau mewn 28 o ardaloedd manwerthu cymunedol a nodwyd – yn ogystal â masnachwyr yn ein hwyth canol tref – wneud cais am hyd at £10,000 o gymorth, a hynny trwy un o ddau grant.

Mae'r Grant Adfer Covid gan Dasglu'r Cymoedd ar gyfer Canol Trefi Llai yn gronfa sydd bellach ar gael i helpu busnesau i gyflawni gwelliannau er mwyn bod yn ddiogel o ran Covid. Bydd y gronfa ar gael i fusnesau mewn 28 cymuned (yn hytrach na bod yn gyfyngedig i ganol trefi), gan ganiatáu ceisiadau am grant o hyd at £10,000 a all gyfrannu at 100% o'r gost gyffredinol. Mae modd ei ddefnyddio hefyd ar gyfer gwaith neu fesurau mewnol yn ogystal â gwaith allanol. Dechreuodd y Cyngor wahodd ceisiadau o 25 Ionawr.

Mae'r Grant Adfer Canol Trefi Covid-19 presennol, a gafodd ei lansio ym mis Rhagfyr 2020, wedi'i anelu at helpu busnesau canol trefi i ddefnyddio mannau awyr agored ar gyfer masnachu sy'n ddiogel o ran Covid, a hynny trwy gyllid i wella'r ddarpariaeth cadw pellter cymdeithasol.  Mae modd i fusnesau ddefnyddio'r grant i wneud gwaith allanol neu gynnal mesurau eraill, a allai gynnwys cyflwyno dodrefn caffi, canopïau, goleuadau neu wresogyddion mewn mannau awyr agored. Mae modd gwneud cais am grant o £10,000, fydd yn cyfrannu at 80% o'r gost gyffredinol. Mae modd cyflwyno cais am y gronfa Trawsnewid Trefi yma gan Lywodraeth Cymru (yn 2020/21) o hyd.

Caiff lleoliadau cymwys ar gyfer pob grant eu rhestri isod. Mae modd i fusnesau gael rhagor o wybodaeth, gwirio'u cymhwysedd a gwneud cais ar-lein ar wefan y Cyngor yma.

Meddai'r Cynghorydd Robert Bevan, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Menter, Datblygu a Thai: “Mae helpu busnesau lleol drwy’r cyfnod anodd iawn yma'n parhau i fod yn flaenoriaeth i’r Cyngor – ac elfen bwysig o’n cymorth yw rhoi cyngor i fasnachwyr ar y grantiau sydd ar gael iddyn nhw, a sut mae modd iddyn nhw fanteisio ar y grantiau cyn gynted â phosibl.

“Mae Aelodau’r Cabinet wedi cytuno o’r blaen ar gynlluniau i newid canolbwynt nifer o’i grantiau cymorth i fusnesau presennol mewn ymateb i’r digwyddiadau tywydd garw'r llynedd a’r pandemig parhaus. Bydd hyn yn eu gwneud nhw'n fwy perthnasol i’r sefyllfa bresennol. Roedd y rhain yn cynnwys newid meini prawf cymhwysedd y Gronfa Buddsoddi mewn Mentrau a'r Grant Cynnal Canol Trefi, er enghraifft, i gynnwys gwelliannau sy'n hwyluso mesurau cadw pellter cymdeithasol.

“Ochr yn ochr â hyn, cafodd Grant Adfer Canol Trefi Covid-19 ei sefydlu i ddarparu hyd at £10,000 o gyllid cyfalaf ar gyfer gwaith diogelu o ran Covid gan fusnesau, i wella’r ddarpariaeth cadw pellter cymdeithasol mewn mannau awyr agored. Bellach, mae cyllid ar gael gan Dasglu'r Cymoedd i ymestyn y gronfa yma'n effeithiol i fusnesau sy'n gweithredu mewn ardaloedd manwerthu llai, yn ogystal â chanol ein trefi.

“O 25 Ionawr, dechreuodd y Cyngor ysgrifennu at oddeutu 700 o fusnesau mewn 28 o ardaloedd manwerthu a nodwyd ledled y Fwrdeistref Sirol, a allai bellach fod yn gymwys i fanteisio ar y cyllid newydd. Byddwn i'n annog pob busnes cymwys yn Rhondda Cynon Taf i gael gwybod rhagor am y ddwy gronfa, gwirio cymhwysedd a gwneud cais ar-lein nawr.”

Caiff busnesau bach / canolig o'r ardaloedd canlynol eu gwahodd i wneud cais:

Grant Adfer Canol Trefi Covid-19– Aberdâr, Glynrhedynog, Llantrisant, Aberpennar, Pontypridd, Porth, Tonypandy a Threorci.

Grant Adfer Covid gan Dasglu'r Cymoedd ar gyfer Canol Trefi Llai –Aberaman, Abercynon, Pentre'r Eglwys, Gadlys, Gelli, Hirwaun, Llanharan, Maerdy, Penrhiwceiber, Pentre, Pen-y-graig, Pont-y-clun, Rhydfelen, Ffynnon Taf, Tonysguboriau, Tonpentre, Ton-teg, Tonyrefail, Trebanog, Trecynon, Trefforest, Treherbert, Tynant, Tynewydd, Trewiliam, Ynys-hir, Ynys-y-bwl ac Ystrad.
Wedi ei bostio ar 27/01/2021