Mae'r Cyngor wedi cychwyn gwaith ar gynllun lliniaru llifogydd pwysig yn Nheras Granville, Aberpennar. Bydd yn cynnwys gwaith atgyweirio, yn helpu i wella rheoli gweddillion yn y cwrs dŵr ac yn golygu y bydd raid cau Stryd Allen.
Dechreuodd y gwaith yn ystod yr wythnos yn cychwyn dydd Llun, 25 Ionawr. Mae'r cynllun gwerth £150,000 yn cael ei ariannu'n llwyr gan Lywodraeth Cymru.Drwy osod sylfaen o slabiau concrit newydd ac atgyweirio'r wal, bydd yn atal y sianel rhag erydu. Bydd cored i lawr yr afon hefyd yn cael ei gosod er mwyn helpu i reoli gweddillion a lleihau erydiad yn y lleoliad yma.
Mae'r Cyngor wedi penodi Horan Construction Ltd yn gontractwr ar gyfer cwblhau'r cynllun yma a fydd yn para tua 7 wythnos.
Mae'r gwaith yn golygu bydd raid cau dwy ran fer o Stryd Allen, y naill ochr i'w chyffordd â Theras Granville ac Heol Troed-y-rhiw. Bydd modd i ddefnyddwyr y ffordd deithio o Deras Granville i Heol Troed-y-rhiw yn ôl yr arfer, ond fydd dim modd troi i mewn i Stryd Allen, nac allan ohoni, yn y lleoliad yma.
Ar ran uchaf Stryd Allen, dylai defnyddwyr y ffordd deithio trwy Heol Aber-ffrwd, Heol Richmond a Theras Granville, neu'r llwybr yma o'r cyfeiriad arall.
Dylai defnyddwyr y ffordd sy'n teithio o ran isaf Stryd Allen fynd trwy Stryd Jeffrey, Teras Campbell, Stryd Austin a Theras Granville, neu o'r ochr arall, trwy Heol Troed-y-rhiw, Stryd Phillip a Stryd Jeffrey.
Yn ôl y contractwr, bydd mynediad i gerddwyr o hyd, ond rhaid i'r gwasanaethau brys ddilyn y llwybrau gwyriad lleol.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r Cyngor yn parhau i helpu i leihau’r risg o lifogydd mewn cymunedau ledled y Fwrdeistref Sirol wrth i'r gwaith ar y cynllun yma yn Nheras Granville, Aberpennar, fynd rhagddo. Mae'n dilyn y gwaith ailosod rhwyll ac atgyweirio'r sianel yn Nheras Campbell ym mis Rhagfyr.
“Mae nifer o gynlluniau hefyd yn mynd rhagddynt ers y Nadolig, gan adeiladu ar y gwaith da a'r cynnydd drwy gydol yr haf a’r hydref y llynedd. Dechreuodd dau gam o waith o amgylch yr A4059 yng Nghwm-bach yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr, ynghyd â gwelliannau draenio ar y rhan o'r A4059 rhwng Pen-y-waun a Threcynon. Mae cynnydd o hyd ar y cynlluniau tymor hirach mewn sawl lleoliad, gan gynnwys Heol Pentre a Lôn y Parc.
“Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn gofyn i drigolion a busnesau sydd wedi'u heffeithio gan lifogydd yn ddiweddar i gwblhau arolwg a fydd yn helpu Swyddogion i gasglu gwybodaeth leol, data ar stormydd a gwybodaeth hanesyddol am lifogydd. Bydd y broses yma'n dod i ben ar 27 Ionawr, a bydd yn llywio gwaith lliniaru llifogydd wrth symud ymlaen. Dyma annog trigolion i gymryd rhan cyn y dyddiad cau felly.
“Hoffwn i ddiolch i ddefnyddwyr y ffordd a thrigolion lleol am eu cydweithrediad mewn perthynas â'r gwaith ar Deras Granville sydd bellach yn mynd rhagddo. Bydd ffordd yn parhau i fod ar gau, yn ogystal â gwyriad lleol er mwyn cynnal y gwaith yma."
Wedi ei bostio ar 26/01/2021