Mae’r Cyngor yn darparu gwasanaeth bws gwennol lleol am ddim i breswylwyr, sy’n rhedeg bob awr rhwng Gorsaf Reilffordd Aberpennar a Pherthcelyn, tra bod cynllun sylweddol i osod wyneb newydd ar y ffordd yn cael ei gynnal yn Stryd Morgannwg.
Mae gwaith i osod wyneb newydd ar y ffordd yn Stryd Morgannwg wedi cael ei ddwyn ymlaen i leihau aflonyddwch cymaint â phosibl, gyda lefelau traffig yn is ar hyn o bryd oherwydd bod cyfyngiadau Rhybudd Lefel 4 COVID-19 ar waith. Bydd y gwaith yn cychwyn ddydd Mawrth, 5 Ionawr, a bydd angen cau ffyrdd lleol am oddeutu tair wythnos. Bydd mynediad i gerbydau preswylwyr bob amser.
Yn ystod y cynllun, fydd dim modd i Wasanaeth Stagecoach 95A (Aberdâr i Berthcelyn) wasanaethu ardaloedd y Darren-las, Perthcelyn, Meisgyn na Phenrhiwceibr.
Bydd gwasanaeth bws gwennol am ddim yn cael ei weithredu gan Davies Coaches yn ystod yr wythnos - gan wasanaethu’r Darren-las a theithio hyd at Arhosfan Bysiau Willows, wrth fynedfa Ystâd Perthcelyn. Dylai teithwyr sy'n teithio i ardaloedd Meisgyn, Penrhiwceibr ac ochr Teras Dillington/Stryd Trefynwy o ardal Perthcelyn ddefnyddio arhosfan bysiau Pont Pentwyn a gwasanaethau Stagecoach 60 a 61.
Bydd y bws gwennol yn gadael bob awr o Orsaf Reilffordd Aberpennar am 47 munud wedi'r awr, gyda'r gwasanaeth cyntaf am 7.47am. Bydd yn aros yn yr Orsaf i gwrdd â'r Gwasanaeth 95A ac yna'n cludo teithwyr i Stryd Rhydychen, y Stryd Fawr, Ffordd Llanwynno ac Arhosfan Bws Willows ym Mherthcelyn.
Ar gyfer teithiau i'r cyfeiriad arall, bydd y bws yn gadael Arhosfan Bws Willows ar yr awr, gyda'r gwasanaeth cyntaf am 8am. Bydd y bws yn dychwelyd i Orsaf Reilffordd Aberpennar ac o'r fan honno'n mynd yn ei flaen i ardaloedd Meisgyn a Phenrhiwceibr. Bydd y bws hefyd yn cwrdd â'r Gwasanaeth 95A er mwyn parhau â'r daith i Ysbyty Cwm Cynon ac Aberdâr.
Bydd y gwasanaethau bysiau gwennol olaf bob dydd am 5.47pm o Orsaf Reilffordd Aberpennar a 6pm o Berthcelyn. Bydd y bws yma'n rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener tra bod y cynllun ar waith. Bydd dim bysiau ar y penwythnos.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i breswylwyr, defnyddwyr y ffyrdd a theithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus am eu cydweithrediad wrth i'r cynllun yma gael ei gwblhau.
Wedi ei bostio ar 05/01/2021