Skip to main content

Dweud Eich Dweud am Deithio Llesol yn Rhondda Cynon Taf

Active-Travel-Consultation-v2-WELSH

Mae modd i drigolion ddweud eu dweud am y llwybrau cerdded a beicio yn Rhondda Cynon Taf, ynghyd â nodi pa welliannau yr hoffen nhw eu gweld yn y dyfodol, trwy gymryd rhan yn ymgynghoriad Teithio Llesol diweddaraf y Cyngor.

Ym mis Hydref 2020, cytunodd y Cabinet y dylai'r Cyngor gynnal ymgysylltiad cyhoeddus helaeth pellach ynglŷn â'i gynlluniau o ran Teithio Llesol yn y dyfodol - a hynny oherwydd bod yr Aelodau'n cydnabod y buddion economaidd, iechyd ac amgylcheddol o ran annog trigolion i gerdded a beicio yn amlach, yn rhan o'u harferion beunyddiol.

Bydd yr ymgynghoriad yn helpu'r Cyngor i ddiweddaru ei Fap Rhwydwaith Integredig, sy'n nodi'r dyheadau ar gyfer buddsoddi mewn Teithio Llesol dros y 15 mlynedd nesaf - i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn ystod mis Rhagfyr 2021.

Gan ddefnyddio map rhyngweithiol, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf ymhlith yr awdurdodau lleol sy'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i'w gwneud hi'n haws i bobl ddweud wrth y Cyngor lle mae angen gwella llwybrau cyfredol, a lle mae modd ystyried creu llwybrau newydd.

Bellach, mae modd i drigolion gymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori ar-lein, a gynhelir gan Commonplace, yma: https://rhonddacynontaf.commonplace.is/.

Mae'n cynnwys map rhyngweithiol sy'n gwahodd trigolion i rannu eu barn am lwybrau cerdded a beicio lleol yn eu cymunedau, yn ogystal â rhoi gwybod i'r Cyngor am y gwelliannau neu'r ddarpariaeth newydd yr hoffen nhw eu gweld. Mae modd i gyfranogwyr ddefnyddio 'pin' ar yr adnodd ymgynghori i amlygu'r union leoliadau y mae eu sylwadau'n cyfeirio atyn nhw.

Bydd y cyfnod ymgynghori yma'n dod i ben ddydd Gwener, 12 Chwefror, 2021.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r Cyngor yn cefnogi ymdrech Llywodraeth Cymru i annog pobl i gerdded a beicio yn amlach - nid yn unig ar gyfer hamddena ond yn rhan o'u harferion bob dydd hefyd. Mae llawer o fanteision ynghlwm wrth Deithio'n Llesol yn hytrach na gyrru er mwyn mynd i'r gwaith, derbyn addysg neu siopa - mae'r rhain yn amrywio o fuddion ar gyfer eich iechyd a'ch lles i fuddion o ran helpu'r amgylchedd.

“Cafodd Map Rhwydwaith Integredig cyntaf y Cyngor ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn 2017, ac roedd yn fraslun o'n cynlluniau a’n dyheadau ar gyfer Teithio Llesol ar gyfer y 15 mlynedd nesaf. Cafodd y Map ei lywio trwy ymgynghori â thrigolion a busnesau, ynghyd â grwpiau a sefydliadau lleol eraill. Mae mwy na thair blynedd bellach wedi mynd heibio ers hynny, ac mae Llywodraeth Cymru unwaith eto yn gweithio gyda chynghorau i adolygu a diweddaru eu cynlluniau.

“Mae Rhondda Cynon Taf yn un o sawl awdurdod lleol sydd wrthi'n cynnal ymarfer tebyg, sydd bellach yn fyw ar-lein. Rydyn ni'n annog pob trigolyn i ddweud eu dweud er mwyn helpu i lywio ein cynlluniau ar gyfer buddsoddi mewn darpariaeth cerdded a beicio yn y dyfodol. Mae hon yn dasg bwysig i gasglu barn ein trigolion, a bydd eu gwybodaeth leol yn ystyriaeth hanfodol wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol."

Wrth siarad am yr ymgynghoriad ledled Cymru,dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters: “Rydyn ni am fynd i’r afael â’r rhwystrau niferus y mae pobl yn eu hwynebu wrth geisio gwneud eu teithiau beunyddiol ar droed neu ar gefn beic. Rydyn ni wedi buddsoddi arian sylweddol i wella cyfleusterau cerdded a beicio dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a hynny er mwyn sicrhau bod gyda ni seilwaith o ansawdd uchel. Byddwn ni'n parhau i wneud hyn yn y dyfodol. Serch hynny, bydd angen sicrhau bod y buddsoddiad yma wir yn diwallu anghenion ein trigolion er mwyn eu hannog i'w ddefnyddio.

“Mae pandemig COVID-19 wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n dewis cerdded a beicio yn hytrach na gyrru - boed hynny er mwyn cyrraedd yr ysgol, gweithio pan does dim modd gweithio gartref, mynd i siopa, cyflawni ymarfer corff, neu wneud teithiau byr beunyddiol lle does dim angen defnyddio car. Rydyn ni'n awyddus i fanteisio ar y cyfle yma i holi trigolion am eu profiadau tra'u bod nhw dal yn eu cofio. Ble daeth hi'n anodd iddyn nhw gyflawni teithio llesol? A oedd ardaloedd lle roedden nhw'n teimlo'n anniogel? A oes unrhyw leoedd lle does dim modd iddyn nhw barhau â'u teithiau? A oes rhai teithiau yr hoffen nhw eu gwneud drwy gerdded a beicio, ond dydyn nhw ddim yn teimlo'n ddiogel yn gwneud hynny?”

Ychwanegodd Dr Dafydd Trystan Davies, Cadeirydd y Bwrdd Teithio Llesol: “Rydyn ni eisiau gweld pobl yng Nghymru yn dewis cerdded neu feicio i fynd ar deithiau byrrach. Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ddweud wrthyn ni beth sy'n eu hatal rhag teithio'n llesol ar hyn o bryd, ac awgrymu gwelliannau a llwybrau newydd i'w Cynghorau lleol.

“Rydw i wedi ymrwymo i sicrhau bod y buddsoddiad sylweddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud mewn Teithio Llesol yn seiliedig ar anghenion ein cymunedau lleol. Bydd y wefan yma'n rhan bwysig o'r gwaith o wella'r ddarpariaeth teithio llesol, a fydd yn helpu'r amgylchedd, yn gwella iechyd ac yn rhoi hwb i'r economi. Rydw i'n effro i'r brwdfrydedd mewn ardaloedd lleol o ran datblygiadau pellach, ac rwy'n edrych ymlaen at weld pob Cyngor yn ymgysylltu â’r wefan ac yn llunio cynlluniau uchelgeisiol pellach yn ystod y 12 mis nesaf.”

Wedi ei bostio ar 07/01/21