Skip to main content

Anrhydedd Blwyddyn Newydd i Lais Pobl Ifainc

Gio Isingrini

Mae un o drigolion Rhondda Cynon Taf, sydd wedi treulio’i fywyd gwaith cyfan yn gwella bywydau nifer helaeth o blant a phobl ifainc yn Ne Cymru wedi derbyn anrhydedd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig yn Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd, 2021. 

Dywedodd Giovanni Isingrini, a wnaeth ymddeol o’i swydd fel Dirprwy Brif Weithredwr Cyngor Rhondda Cynon Taf a Chyfarwyddwr Cyfadran Gwasanaethau’r Gymuned a Gwasanaethau i Blant ar ddiwedd 2020, ei fod wrth ei fodd, a’i bod hi’n bleser derbyn y gydnabyddiaeth yma.

Mae Mr Isingrini, sy’n 60 oed ac sydd wedi byw yn Rhondda Cynon Taf ar hyd ei oes, wedi cael ei anrhydeddu er mwyn cydnabod ei wasanaethau i Blant yng Nghymru.

Mae Rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd 2021 yn cydnabod gwaith a chyflawniadau ystod eang o unigolion hynod o bob cefndir, ac o bob cwr o’r  Deyrnas Unedig.

Ymhlith y rhai o Gymru sy’n derbyn yr anrhydedd eleni mae llawer o bobl sydd wedi gweithio ar reng flaen pandemig Covid-19, gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus, enwau cyfarwydd o fyd chwaraeon ac adloniant a gwirfoddolwyr sydd wedi rhoi o’u hamser i helpu eraill.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf: “Ar ran ein holl staff, hoffwn longyfarch Gio ar ei anrhydedd. Mae wedi treulio 42 mlynedd yn dilyn gyrfa ddisglair ym maes Llywodraeth Leol.

“Mae bob amser wedi bod yn angerddol am ei faes gwasanaeth, ac wedi chwarae rhan allweddol wrth roi’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ar waith o fewn y Cyngor.

“Rydyn ni i gyd yn dymuno ymddeoliad hir, iach a diogel iddo.”

Cafodd Giovanni Isingrini, mab ieuengaf rhieni Eidalaidd a symudodd i Rondda Cynon Taf o Ogledd yr Eidal yn ystod y 1950au, ei addysgu yn Ysgol Gynradd Cwmlai, Tonyrefail, ac wedyn yn Ysgol Gyfun y Cardinal Newman Eglwys Gatholig Rhufain, Pontypridd.

Dechreuodd ei yrfa ym maes Llywodraeth Leol ym 1978, gan weithio yn Adran y Trysoryddion yng Nghyngor Sir Morgannwg Ganol, cyn symud ymlaen i Adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor ar ddechrau'r 1990au.

Yn dilyn ad-drefnu Llywodraeth Leol, aeth ymlaen i fod yn Gyfarwyddwr yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Bu ei frawd Antonio hefyd yn gweithio ym maes Llywodraeth Leol nes iddo ymddeol yn 2015.

Dechreuodd Mr Isingrini weithio yn ei 'swydd ddelfrydol' gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn 2014, gan ymddeol ym mis Rhagfyr 2020 ar ôl 42 mlynedd o waith arbennig ym maes Llywodraeth Leol.

Hyd nes ei ymddeoliad, roedd hefyd yn cyflawni rôl cyd-gadeirydd Bwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg, sef partneriaeth statudol yng Nghymru sy'n cynnwys asiantaethau sy'n gyfrifol am ddiogelu plant ac oedolion mewn perygl yn eu rhanbarthau, ac sy’n sicrhau bod pobl o bob oedran yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin a'u hesgeuluso, neu fathau eraill o niwed.

Mae Mr Isingrini hefyd wedi cyflawni swydd Llywydd Cymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol (ADSS) Cymru, sef sefydliad arweinyddiaeth cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, sy'n cynrychioli llais cyfunol, awdurdodol Cyfarwyddwyr y gwasanaethau cymdeithasol, penaethiaid gwasanaethau i oedolion, gwasanaethau i blant a gwasanaethau i fusnesau. Mae’n ymwneud ag ystod o faterion cenedlaethol a rhanbarthol, gan gynnwys materion polisi, ymarfer a darparu adnoddau yn ymwneud â gofal cymdeithasol.

Dywedodd mai un o uchafbwyntiau ei yrfa oedd gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyfarwyddwyr eraill i ddatblygu a gweithredu'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Gan fyfyrio ar ei yrfa mewn Llywodraeth Leol, dywedodd Giovanni Isingrini, neu ‘Gio’ i’w ffrindiau a’i gydweithwyr: “Rydw i’n dal wedi fy synnu fy mod i wedi gwneud unrhyw beth sy’n ddigon teilwng i gael fy nghydnabod fel hyn. Rydw i wedi mwynhau pob munud o fy mywyd gwaith ac rydw i mor ddiolchgar i'r holl bobl rydw i wedi gweithio gyda nhw ers mwy na phedwar degawd.

“Bu cynifer o uchafbwyntiau ar hyd y ffordd, ond y pinacl i mi oedd gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf. Gan fy mod i'n fachgen lleol, mae hyn wedi golygu cymaint i mi. Roedd hi’n swydd ddelfrydol i mi.”

Mae Giovanni Isingrini yn briod ag Anne, a ymddeolodd o'i swydd fel Rheolwr Cymorth i Fusnesau Cyngor Rhondda Cynon Taf yn 2020. Mae gan y cwpl ddwy ferch, Francesca a Pierra.

Wedi ei bostio ar 07/01/21