Mae'r Cyngor yn ymgynghori â thrigolion ynghylch cynllun arfaethedig i wella diogelwch ar y ffyrdd ledled ardal Cilfynydd. Dyma wahodd y rheiny sydd am rannu eu barn i wneud hynny cyn i'r broses gau ar 15 Ionawr.
Mae modd i'r cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau arfaethedig ar gyfer Cilfynydd gynnwys nifer o welliannau – gan gynnwys gwella a symud y groesfan i gerddwyr ar Heol Cilfynydd, addasiadau i droedffyrdd i wella'r ddarpariaeth i gerddwyr, a chyflwyno terfyn cyflymder o 20mya ledled y pentref.
Derbyniodd trigolion lleol lythyr ar 21 Rhagfyr i roi gwybod iddyn nhw am y cynigion ac am fanylion yr ymgynghoriad gan egluro sut i gymryd rhan. Mae hysbysiadau hefyd wedi'u gosod yn y gymuned leol. Mae manylion llawn yr holl gynigion a'r ymgynghoriad ar gael yma: www.rctcbc.gov.uk/traffig.
Rhaid i'r rheiny sydd am rannu eu barn gyda'r Cyngor wneud hynny erbyn dydd Gwener 15 Ionawr. Mae modd i drigolion gymryd rhan trwy e-bost neu drwy'r post. Bydd yr holl adborth sy'n dod i law yn helpu'r Cyngor yn ei broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â'r cynllun yma.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet sy'n gyfrifol am y Priffyrdd a Thrafnidiaeth: “Mae'r Cyngor yn cynnig cynllun yn y dyfodol i gyflawni gwelliannau pwysig i ddiogelwch y ffyrdd a rhagor o ddarpariaeth i gerddwyr yng Nghilfynydd. Derbyniodd trigolion lythyrau yn rhoi gwybod iddyn nhw am y cynigion cyn y Nadolig, ac rydyn ni'n eu hannog nhw i rannu eu barn er mwyn i Swyddogion ysytried eu sylwadau.
“Mae nifer o gynlluniau Llwybrau Diogel mewn Cymunedau eisoes wedi cael eu darparu gan y Cyngor i greu darpariaeth gerdded sy'n fwy diogel ac sy'n well i drigolion lleol. Mae hyn yn cynnwys gwaith yn ardaloedd Cwmaman, Tonypandy, Tonyrefail a Threorci, a hynny ochr yn ochr â buddsoddiadau sylweddol mewn ysgolion yn 2018/19, a chynlluniau ar wahân yn Llwynypia ac Abercynon a gafodd eu rhoi ar waith y llynedd.
“Mae'r cynigion ar gyfer Cilfynydd yn cynnwys gwella croesfan i gerddwyr, gwneud newidiadau o ran y terfyn cyflymder a sicrhau gwelliannau i'r droedffordd. Mae modd gweld cynlluniau manwl o'r newidiadau arfaethedig yma ar wefan y Cyngor. Dyma ofyn i drigolion rannu eu barn cyn diwedd y cyfnod ymgynghori, sef 15 Ionawr.”
Wedi ei bostio ar 08/01/21